Ysgol wledig naturiol Gymraeg yw Ysgol Bro Elwern wedi ei lleoli yng nghanol pentref Gwyddelwern.  Cymraeg yw prif iaith a chyfrwng yr ysgol.  Ein prif amcan yw gofalu fod plant yn derbyn eu haddysg mewn amgylchfyd hapus a chartrefol lle maent yn mwynhau dysgu.  Mae’r ysgol yn gymdeithas glos a cheir perthynas agos a brwdfrydig rhwng

staff, rhieni a llywodraethwyr i sicrhau fod pob plentyn yn cael y cyfle gorau posib yn ein gofal.