Criw Cymraeg Ysgol Betws Gwerful Goch 2025-26
Criw Cymraeg Ysgol Betws Gwerful Goch 2025-26
Llio (Ysgrifennydd) ac Aranwen (Cadeirydd)
Gair gan aelodau'r pwyllogr
Helo! Ni ydy Criw Cymraeg Ysgol Betws Gwerful Goch. Eleni rydym yn ceisio ein gorau i wella’r Gymraeg yma yn yr ysgol. Rydym yn edrych ymlaen i feddwl am ffyrdd o annog a gwneud siarad Cymraeg yn hwyl yn yr ysgol.
Ein Targedau am y Flwyddyn:
1. Cryfhau'r defnydd o Gymraeg ar fuarth yr ysgol.
2. Datbglygu a chryfhau rô l y Criw Cymraeg o fewn yr ysgol.
Gweithgareddau Dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr.
Gwahodd y gymuned leol i'r ysgol i'n Bore Coffi Plant Mewn Angen. Cyfle gwych i sgwrsio yn Gymraeg!
Y Criw Cymraeg yn brysur yn meddwl am syniadau am slogannau Nadoligaidd Cymraeg ar gyfer ein busnes siwmperi Nadolig newydd.
Dilyn cyfarwyddiadau a sgwrsio yn Gymraeg wrth gymryd rhan mewn sesiynau crefft gyda aelodau'r gymuned.
Actio a pherofformio ar fideo ac o flaen cynulleidfa yn ein Sioe Nadolig 'Rhestr Santa'.
Defnyddio sgiliau cyfathrebu drwy weini a chymryd archebion wrth i Gaffi Bach Betws wahodd y gymuned i Frecwas gyda Santa.
Y disgyblion yn mwynhau cymryd rhan yng Nghwis Cymru!
Disgyblion yr ysgol gyfan yn mwynhau cymryd rhan mewn sesiwn darllen ar y cyd.