Ysgol wledig naturiol Gymraeg yw Ysgol Betws Gwerful Goch wedi ei lleoli yng nghanol y pentref. Cymraeg yw prif iaith a chyfrwng yr ysgol. Ein prif amcan yw gofalu fod plant yn derbyn eu haddysg mewn amgylchfyd hapus a chartrefol lle maent yn mwynhau dysgu. Mae’r ysgol yn gymdeithas glos a cheir perthynas agos a brwdfrydig rhwng staff, rhieni a llywodraethwyr i sicrhau fod pob plentyn yn cael y cyfle gorau posib yn ein gofal. Ein gweledigaeth fel ysgol yw sicrhau
· Cefnogaeth i bob plentyn fod yn uchelgeisiol a galluog mewn awyrgylch cartrefol.
· Creu cyfleoedd a phrofiadau gyda’n gilydd, er mwyn dysgu
· Meithrin lles, meddyliol ac emosiynol pob un ohonom
Rôl y Criw Cymraeg ein hysgol
Rydym ni fel Y Criw Cymraeg yn hybu pwysigrwydd Cymreictod yn yr ysgol, adref ac yn y gymuned. Ni sy’n gyfrifol am sicrhau ein bod fel ysgol yn hybu ac yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn gyson drwy amrwyiaeth o ffyrdd megis hybu gemau buarth yn ystod amser chwarae, chwarae cerddoriaeth Gymraeg ar amseroedd gwahanol yn ystod y dydd, pendrefynu ar y ffordd orau o wobrwyo’r defnydd o Gymraeg yn yr ysgol ac annog y plant i siarad Cymraeg gyda’i gilydd. Rydym hefyd yn gyfrifol am werthuso canlyniadau holiaduron Y Siarter Iaith gan eu defnyddio i benderfynu ar dargedau a chreu cynllun gweithredu am y flwyddyn. Drwy wneud hyn byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i greu adnoddau er mwyn cyflawni’r targedau hyn.