Beth (Cadeirydd), Annie (Ysgrifennydd), Alys (Trysorydd), Enola (Trysorydd), Anni Nel, Megan, Amelia-Rose, Ellie-May a Polly
Dyma griw hynaf y Siarter Iaith yn dylunio a chreu gwefan Siarter Iaith yr ysgol.
Dyma swyddogion ein criw siarter iaith eleni. "Rydym yn edrych ymlaen i gyd-weithio ar gyfer Ysgol Tremeirchion."
Dyma'r criw siarter iaith yn ymweld â Llyfrgell Llanelwy. Diolch yn fawr iawn i Mr Mathew Baker am ein dangos o gwmpas y llyfrgell. Cawsom dipyn o syniadau newydd ac rydym yn edrych ymlaen i rhoi'r syniadau ar waith yn Ysgol Tremeirchion.
Rhagfyr 2024
Santes Dwynwen 2025
Diolch yn fawr iawn i staff Menter Iaith, Dinbych am ddod atom i gynnal disgo tawel. Roedd pawb wedi mwynhau a gwelwyd sgiliau dawnsio bendigedig gan y disgyblion.
Heddiw, aethom i dafarn 'Y Saulsbury Arms' i gyfarfod criw o bobol o'r pentref sy'n dysgu Cymraeg. Enw'r sesiwn ydi 'Paned a sgwrs'. Buom yn trafod ein hoff artistiad Cymreig gan fod heddiw yn diwrnod miwsig Cymru. Fe wnaethom ddarllen disgrifiad o'n hoff artistiaid sef Tara Bandito, Elin Fflur, Yws Gwynedd a Eden. Yna fe wnaethom ddangos lluniau a gwrando ar eu cerddoriaeth. Roedd pawb wedi mwynhau'r ymweliad ac fe wnaethom lwyddo i ddysgu ychydig o Gymraeg i'r pobol yn y sesiwn. Diolch yn fawr iawn am y gwahoddiad.
Dathlodd disgyblion Ysgol Tremeirchion Dydd Miwsig Cymru eleni drwy wisgo gwisg fel eu hoff artistiaid cerddorol Cymraeg. Yna, cawsom ddisgo ar ddiwedd y prynhawn yn llawn cerddoriaeth Cymraeg. Bu i bawb fwynhau'r diwrnod yn fawr iawn.
Bu blwyddyn 3a4 yn Llyfrgell Dinbych pnawn ‘ma yn cyfarfod yr awdures Anni Llŷn.
Years 3 and 4 met the author Anni Llŷn at Denbigh Library today.
Rydym yn edrych ymlaen yn arw i dderbyn y ffram lluniau newydd. Dyma i chi y cynllun sydd wedi cael ei greu gan Boomerang.
Mae'r sialens ddarllen wedi dechrau ers sawl wythnos. Mae'r disgyblion yn frwdfrydig iawn ac yn mwynhau cymryd rhan yn y sialens ddarllen. Mae yno rhai wedi derbyn tystysgrifau a medalau yn barod. Mae pob un disgybl yn cael mynychu'r llyfrgell yn ystod yr wythnos er mwyn newid eu llyfrau darllen. Da iawn pawb.
Daeth artist lleol o'r enw Chloe Dymond i greu murlun arbennig yn ein llyfgrell.
"Ein llyfrgell newydd! Diolch Chloe Dymond
Our new library, thank you Chloe Dymond"
https://www.facebook.com/share/r/18kg8ZCPXc/?mibextid=wwXIfr
Bob wythnos rydym yn dathlu siaradwyr Cymraeg ar draws yr ysgol. Mae'r disgyblion yn cael eu llun wedi tynnu yn y ffrâm lluniau. Yna, rydym yn rhannu eu dathliadau ar 'Class Dojo'.
Llongyfarchiadau mawr i bawb fu'n cystadlu yn yr Eisteddfod eleni.