Lleolir yr ysgol ym mhentref gwledig Tremeirchion ger Llanelwy a Dinbych, Sir Ddinbych a gwasanaetha’r pentref a’r ardaloedd cyfagos. Mae hi’n ysgol Gymraeg, Gwirfoddol Reoledig. Dynodir yr ysgol yn Ysgol Gymraeg yn ôl polisi iaith yr awdurdod addysg; golyga hyn mai’r Gymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol ond anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo.