Ysgol Pont y Gof

Seiliau Cadarn Sy'n Codi Pontydd

Cefndir yr Ysgol

Mae Ysgol Pont y Gof wedi’i lleoli ym Mhenrhyn Llŷn o dan awdurdod lleol Gwynedd.

Mae hi’n gwasanaethu ardaloedd Llaniestyn, Garn Fadryn, Bryncroes, Sarn Mellteyrn, Botwnnog a Nanhoron. Mae hi’n rhan o ardal amaethyddol, Gymreig ei natur.

Mae 87 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 10 o blant meithrin.

Mae gennym bedwar dosbarth o fewn yr ysgol.

Dosbarth Meithrin a Derbyn, Blwyddyn 1 a 2, Blwyddyn 3 a 4 a Blwyddyn 5 a 6.

Mae 72 % o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Cymraeg gartref, 9% yn siarad Cymraeg a Saesneg a 19% yn siarad Saesneg ar yr aelwyd.

Mae 10% o’r disgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim (PYD).

Mae 1% o’r disgyblion yn lleiafrif ethnig neu'n gefndir Cymysg.

Mae 0% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae 13% o’r disgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol.

Ein gwerthoedd 

Yn dilyn holi holl randdeiliaid yr ysgol oedd yn cynnwys plant, rhieni, llywodraethwyr, staff a'r gymuned, dyma sy'n amlwg yn bwysig i ni. Mae llais ein rhanddeiliaid yr un mor bwysig â llais y plant o fewn ein hysgol er mwyn creu un teulu clos sy'n cyd-weithio yn effeithiol er mwyn darparu addysg a phrofiadau eang a chytbwys. Profiadau dwfn o'r ansawdd uchaf, sydd am arwain y disgyblion i dorri eu cwys eu hunain yn y dyfodol. 

20220208_150301.mp4

Plant Uchelgeisiol

20220407_103523.mp4

Plant Cymwynasgar a ffeind sy'n parchu pawb o'u cwmpas

20220208_145754.mp4

Plant ein cymuned

20220208_144655.mp4

Plant sy'n mwynhau

20220407_104056.mp4

Plant sy'n fodlon mentro

20220208_143931.mp4

Plant sy'n falch o fod yn Gymry

Ein Gweledigaeth

Mae Ysgol Pont y Gof yn ysgol wledig lle mae cymuned gefn gwlad yn bwysig i holl randdeiliaid yr ysgol.

Yma, byddwn yn cefnogi a chynnal ein dysgwyr i lwyddo hyd eithaf eu gallu drwy brofiadau eang a chytbwys, a fydd yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i symud drwy fywyd, ac i lwyddo i fod yn unigolion hapus, balch, hyderus ac annibynnol beth bynnag fydd eu llwybr mewn bywyd.

Byddwn yn angerddol dros annog y disgyblion i fod yn rhan o’r gymuned, a bod yn falch o’r gymuned rydym yn byw ynddi, lle bynnag bydd hynny yn y dyfodol. Gwnawn ein gorau i helpu a chydweithio gydag ein cymunedau drwy rannu syniadau, profiadau a hen draddodiadau Cymreig gyda phlant a thrigolion. Rhoddwn brofiadau i'r plant fynd i'r gymuned drwy drefnu ymweliadau rheolaidd.

Ein gobaith yw y bydd pob plentyn yn teimlo balchder dros ei fro, ei gymuned a’r traddodiadau cefn gwlad Cymreig.

Rhoddwn sgiliau cadarn i’r plant i fod yn greadigol ac yn barod i fentro, adnabod cyfleoedd i lwyddo yn lleol neu lwyddo pa bynnag lwybr maent am ei ddilyn mewn bywyd. Drwy'r gweithgareddau mentergarwch ac ein prosiectau creadigol byddwn yn datblygu y sgiliau yma.

Mae dyfodol ein hiaith, a bod yn falch ohoni, yn bwysig i ni yn Ysgol Pont y Gof.

Mae hon yn ysgol hapus, lle mae pawb yn parchu ac yn gofalu am ei gilydd. Ein gobaith yw y bydd pob plentyn yn teimlo’n saff yma, yn hapus ac yn gwneud ffrindiau oes. Dysgwn sgiliau cymdeithasol sy'n eu gwneud yn blant cyflawn. Darparwn addysg a phrofiadau o ansawdd uchel sy’n rhoi sylfaen gadarn iddynt allu symud drwy fywyd yn barod am unrhyw her.


Gwerthoedd, Statws Eglwys a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg 

Mae Ysgol Pont y Gof yn Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru. Mae ein cysylltiad ni â'r Egwlys yng Nghymru yn bwysig i ni er mwyn darparu profiadau dysgu arbennig ar sail Gwerthoedd Cristnogol.  Mae ein gwerthoedd Cristnogol yn treiddio drwy'r holl waith.


Y Pedwar Diben

Yn Ysgol Pont y Gof, mae’r weledigaeth a’r gwerthoedd yn treiddio drwy’r profiadau dysgu a’r addysgeg. Bydd y rhain yn ein galluogi ni i gyflawni egwyddorion y Pedwar Diben, a drwy hyn gobeithiwn weld y disgyblion yn datblygu i fod yn unigolion cyflawn.

Meysydd Dysgu a Phrofiad


Drwy'r Meysydd Dysgu a Phrofiad, byddwn yn cwmpasu yr holl ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig, yn datblygu'r sgiliau o fewn y pedwar diben ac yn darparu profiadau eang sy'n plethu'r sgiliau trawsgwricwlaidd (llythrennedd, rhifedd a Chymhwysedd Digidol) drwy themâu ysgol gyfan.


Sgiliau Trawsgwricwlaidd

Drwy’r profiadau eang o fewn y chwe maes dysgu a phrofiad rydym yn datblygu sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol.


Cynllunio'r Cwricwlwm


Yn Ysgol Pont y Gof, rydym yn dilyn themâu ar draws yr ysgol er mwyn cynnig profiadau sy'n cwmpasu'r pedwar diben, yr holl ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig a'u datblygu ar draws yr oedran er mwyn gweld dyfnder ac ehangder yn sgiliau, gwybodaeth a chynnydd y dysgwyr .  

Mae Ysgol Pont y Gof yn ysgol gynhwysol sy'n arwain ar lais y plentyn, beth bynnag yw oedran, cefndir, anghenion neu allu'r disgybl. Byddwn yn cynllunio profiadau eang a chytbwys sy'n herio ac yn ysgogi pob plentyn sydd yn ein gofal.

Wrth gynllunio, byddwn yn dilyn thema ar draws yr ysgol gan gasglu syniadau gan rieni, llywodraethwyr, disgyblion a'r athrawon er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig profiadau dysgu cyfoethog, eang a chytbwys o ansawdd uchel ac sydd hefyd yn plethu drwy ein hegwyddorion a'n gweledigaeth.

Yna, byddwn yn dewis ein cwestiynau mawr ar gyfer ein themâu er mwyn i'r disgyblion arwain y cynllunio a'r dysgu wrth ymchwilio iddynt. 


Bydd yr athrawon yn edrych ar y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig wrth gynllunio gan eu plethu gyda'r sgiliau trawsgwricwlaidd, y sgiliau cyfannol a'r pedwar diben. Wrth ail ymweld, byddwn yn ehangu a dyfnhau'r sgiliau a'r cysyniadau hyn er mwyn sicrhau cynnydd yn y dysgu sy'n briodol i gamau datblygu ein disgyblion.

Addysgu 

Mae dysgu ac addysgu cadarn o ansawdd ardderchog yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod ein gweledigaeth yn ganolog wrth i ni weithredu'r pedwar diben a datblygu sgiliau'r disgyblion o fewn Fframwaith y Cwricwlwm.

Mae creu awyrgylch dysgu sy'n dod â phlentyn yn fyw wrth ateb gofynion Fframwaith y Cwricwlwm yn hanfodol. Yn Ysgol Pont y Gof, rydym yn dilyn ein cynllun addysgu 'Gorau Glas' lle mae pob plentyn yn datblygu meddylfryd dysgu cadarnhaol wrth gael ei herio o fewn ei allu er mwyn cyrraedd ei lawn botensial.

Gorau Glas 



Mae Ysgol Pont y Gof yn sefydliad sy'n dysgu a chredwn yn gryf mewn rhannu arferion addysgu da, a datblygu a gwella'n barhaus er mwyn gweithredu'r 12 egwyddor addysgegol a nodir yn y Cwricwlwm.

Er mwyn sicrhau bod y disgyblion yn cael yr addysg orau, byddwn yn addasu ein modelau addysgu er mwyn rhoi sylw creiddiol i gyflwyno sgiliau newydd ac ymarfer, datblygu a dyfnhau'r sgiliau hynny ymhellach.

Byddwn yn dysgu drwy ddulliau disgyblaethol yn ystod y bore, lle bydd y disgyblion yn dysgu pynciau mewn manylder a dyfnder. Yna, bydd yr addysgu yn symud yn rhyngddisgyblaethol yn y prynhawn, lle bydd y disgyblion yn ymarfer eu sgiliau, yn dysgu bod yn ddysgwyr annibynnol ac yn cymhwyso eu sgiliau ar draws y meysydd dysgu a phrofiad.

Cynnydd mewn dysgu ac Asesu 

Mae datblygu ein dysgwyr ar y hyd y camau cynnydd a'r continwwm dysgu rhwng 3 ac 16 oed yn eu galluogi i wneud cynnydd ar eu cyflymder eu hunain. Mae'r camau cynnydd yn rhoi sylw i'r 27 datganiad o'r hyn sy'n bwysig er mwyn gweld dilyniant o fewn y sgiliau ar gyfer pob unigolyn.

Mae'r dulliau asesu yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cael y gefnogaeth briodol er mwyn cael ei herio. 

Asesu Gwaelodlin

Defnyddir y llwybrau cynnydd at gam cynnydd 1 ar gyfer asesu cyn-ysgol a'r meithrin er mwyn darganfod gwaelodlin a man cychwyn y daith addysgu.

Asesu Ffurfiannol (i symud y dysgu yn ei flaen)

Bydd y gwaith asesu ar lawr dosbarth ac ymateb yr athrawon i'r gwaith yn greiddiol ar gyfer symud disgyblion ymlaen yn eu dysgu. Byddwn yn defnyddio meini prawf llwyddiant ar ddechrau'r gwaith a bydd sylwadau yr athro yn ymateb iddynt drwy ddefnyddio lliwiau pinc perffaith a gwyrdd gwella. Cynigir cyfleoedd i asesu cyfoedion, hunan asesu a chyfle i ail ddrafftio gwaith. Mae gan y disgyblion eu targedau unigol lle maent yn gweithio arnynt ar eu lefel eu hunain.


Asesu Crynodol (i dracio cynnydd disgyblion) 

Byddwn yn defnyddio'r offeryn Taith 360 er mwyn asesu a thracio cynnydd yn dymhorol ar eu taith drwy'r ysgol.

Bydd disgyblion o flwyddyn derbyn hyd at flwyddyn 6 yn cwblhau asesiadau mathemateg NFER pob blwyddyn, a Blwyddyn 1- 6 yn cwblhau profion darllen Cymru Gyfan er mwyn mesur cynnydd ac adnabod yr angen am ymyrraeth. 

Pontio ar hyd y continwwm dysgu

Fel ysgol, rydym yn barod i gefnogi pob dysgwr wrth iddo symud rhwng gwahanol grwpiau o fewn y camau cynnydd, rhwng y dosbarthiadau ac wrth symud i Ysgol Botwnnog. 

Cam 1 - Meithrin a Derbyn

Cam 2 - Blwyddyn 1, 2 a 3

Cam 3 - Blwyddyn 4, 5 a 6/7

Asesu Lles disgyblion 

Mae Iechyd a Lles disgyblion yn dod yn fwy amlwg o fewn ein Cwricwlwm yn Ysgol Pont y Gof erbyn hyn, lle cynigir ymyraethau penodol i ddiwallu anghenion llesiant y dysgwyr. 

Yn ystod y flwyddyn ysgol, manteisir ar bob cyfle i godi ymwybyddiaeth o achlysuron arbennig sydd yn hyrwyddo Iechyd a Lles e.e. wythnos iechyd meddwl, Plant mewn Angen, cefnogi elusennau eraill cyfoes e.e. Wcrain. 

Cawn wythnos Iechyd a Lles ar ddechrau mis Medi sy'n cynnwys agweddau penodol e.e. diet cytbwys, bwyta'n iach, iechyd a lles emosiynol, meddyliol a chorfforol. 

Byddwn yn asesu lles disgyblion drwy brofion PASS sy'n rhoi dadansoddiad o'r agweddau lle mae unigolion yn cael anhawster er mwyn rhoi ymyrraeth briodol i'w cefnogi. 

Adrodd i rieni ar gynnydd

Mae cynnwys rhieni a chynnal perthynas dda efo nhw yn allweddol er mwyn helpu a chefnogi'r dysgwyr i wneud cynnydd. Byddwn yn gofyn am farn a syniadau rhieni wrth gynllunio ar gyfer ein themâu ac yna rhannu bwriadau am y tymor ar ddechrau'r gwaith. Byddwn yn disgwyl i'r rhieni gefnogi'r disgyblion drwy waith cartref, darllen a thablau yn yr Adran Iau. Caiff y rhieni fynediad at raglen Seesaw yn ystod camau cynnydd 1 a 2 sy'n rhoi darlun o waith ymarferol y disgyblion yn ystod y flwyddyn. Byddwn yn cynnal nosweithiau rhieni ddwywaith y flwyddyn iddynt ddod i'r ysgol i weld gwaith a chynnydd eu plant.

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Mae'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn ein harwain ni i gynllunio agweddau ar ein cwricwlwm er mwyn ateb y gofynion mandadol. 

Bydd ACRh yn grymuso dysgwyr i 


Ceir tri llinyn cyffredinol o fewn y Cwricwlwm ACRh a bydd gweithgareddau, gwybodaeth a'r sgiliau yn cael eu cyflwyno ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad sef...


Iaith

Cymraeg a Saesneg

Mae Ysgol Pont y Gof yn ysgol Gymreig lle mae pawb yn siarad Cymraeg yn hyderus ac yn hapus. Mae balchder mawr dros yr iaith ac rydym yn angerddol dros gadw'r Gymraeg yn gryf ac yn gadarn o fewn ein hysgol a'n cymuned.

Byddwn yn derbyn disgyblion di-Gymraeg i'r ysgol ac maent yn setlo o fewn cymuned yr ysgol yn sydyn iawn gan ddysgu'r iaith a datblygu balchder ohoni. 

Mae pawb yn gadael yr ysgol gyda sgiliau cadarn yn y ddwy iaith.

Rydym yn dechrau cyflwyno'r Saesneg ym mlwyddyn 2 lle mae disgyblion yn darllen ac yn ysgrifennu ychydig frawddegau.

Mae hyn yn rhoi sylfaen ar gyfer defnyddio'r iaith ar draws y chwe maes dysgu ym mlwyddyn 3.