Gyrfaoedd

Add Headings and they will appear in your table of contents.

Cysylltiadau Defnyddiol

Gweledigaeth Gyrfaoedd Garth Olwg

 

Dylai elfennau allweddol rhaglen ‘Addysg, Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd’(GCAG) dda ddatblygu sgiliau hunanymwybyddiaeth, ymwybyddiaeth o gyfleoedd, gwneud penderfyniadau a chynllunio i drosglwyddo’r myfyrwyr. Dylai hefyd geisio codi dyheadau, ehangu gorwelion a chwalu ystradebau. Dylai helpu myfyrwyr i ddeall pwrpas addysg gyrfaoedd, a manteision hynny, a dylai anelu at hynny i'w hysbrydoli i gyflawni mwy yn eu cymwysterau ffurfiol yn ogystal â dilyniant llwyddiannus i gam nesaf eu bywydau.

Dylai rhaglen GCAG gadarn ac ysbrydoledig fod yn rhan annatod o'r ysgol gyfan ac, o ganlyniad, mae rhaglen Ysgol Garth Olwg  yn cynnwys gweithgareddau addysg, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd ffurfiol. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys cyfleoedd eraill sy'n gysylltiedig â phob un o bynciau’r myfyrwyr, boed rheiny’n cael eu cyflwyno mewn gwersi pwrpasol, gan siaradwyr allanol, trwy ymweliadau addysgol neu drwy ddatblygu gwybodaeth ein staff o'r gyrfaoedd a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'u meysydd pwnc. Credwn fod gan staff yr ysgol gyfan gyfrifoldeb dros addysg gyrfaoedd y myfyrwyr ac, felly, mae'n bwysig bod yr holl staff yn cadw gwybodaeth gyfredol am y cyfleoedd sy'n berthnasol i’w pynciau, yn annog myfyrwyr i archwilio syniadau ac yn hapus i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i fyfyrwyr, neu’n eu cyfeirio at eraill / adnoddau / cydweithwyr â gwybodaeth fwy penodol.

Yn ogystal â'r rhaglen GCAG arfaethedig, dylem hefyd anelu at ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr brofi’r ‘byd gwaith’ a datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a menter allweddol drwy gydol Blynyddoedd 7 - 11 a thu hwnt os byddant yn parhau i'r 6ed Dosbarth. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy eu haddysg ffurfiol yn ogystal â thrwy weithgareddau allgyrsiol ac ychwanegol yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol. Dylai rhan o'r rhaglen GCAG gael ei hadeiladu o amgylch y tiwtor personol ac, unwaith eto, bydd yn gyfle i'r ysgol lunio'r cyswllt rhwng cyflawniad academaidd a dilyniant y myfyrwyr yn y dyfodol. Dylai hefyd geisio pwysleisio wrth y myfyrwyr y bydd angen mwy na chymwysterau yn unig er mwyn bod yn llwyddiannus yn eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Gall y berthynas hon, a'r hyn y mae’r rhaglen GCAG yn ceisio ei gyflawni, cael ei grynhoi yn yr hafaliad, C = c + p + s , neu ‘Cyflogadwyedd = cymwysterau + profiad gwaith + sgiliau.’

Yn olaf, ein nod yw parhau i ddatblygu amrywiaeth o adnoddau gwahanol, gan gynnwys drwy wefan yr ysgol, i gefnogi'r myfyrwyr (a'u rhieni / gofalwyr) wrth ymchwilio a chynllunio eu dyfodol. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys yr awdurdod lleol, Darparwyr Addysg Bellach ac Uwch (gan gynnwys darparwyr prentisiaethau) a chyflogwyr (gan gynnwys ein Harweinydd Y Fagloriaeth) i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth briodol i'n holl fyfyrwyr i’w galluogi i drosglwyddo’n llwyddiannus o fewn, a thu hwnt, i Ysgol Garth Olwg, ac i fyw bywydau llwyddiannus a boddhaus yn y dyfodol.


Gwybodaeth Gyrfaoedd Garth Olwg.docx
Garth Olwg Career guide.docx
Llyfryn Prentisiaethau Garth Olwg.pptx