Cyfrifiadureg / TGCh

Croeso i'r tudalen ar gyfer y cyrsiau Cyfrifiadureg a TGCh Cymhwysol.

Mae'r ddau cwrs gyda nifer o elfennau sy'n gorlapio, felly rydym wedi penderfynnu rhoi pwyslais dysgu wrth gamu i CA5 ar yr elfennau yma.

Bas data

Bas data yw systemau rydym yn defnyddio i storio data yn effeithiol er mwyn gallu defnyddio mewn systemau cyfrifiadurol. Rydych wedi cael profiad o fas data yn ystod eich gyrfa ysgol yng ngwersi TGCh, yn ystod y cwrs TGCH TGAU (i'r rhai gwnaeth hyn) ac bydd disgyblion Cyfrifiadureg yn ymwybodol o ba mor poenus yw e i storio data mewn mewn system cyfrifiadurol heb fas data (ffeiliau testun ofnadwy yn eich prosiectau). Cymerwch amser i ddysgu am fas data ac mae'n hanfodol eich bod yn deall bas data perthynol (relational databases). Mae'n testun heriol, felly peidiwch poeni os nad ydych yn deall yn syth. Rydyn ni ar gael i ateb cwestiynau (gary.jones@gartholwg.cymru neu gareth.williams@gartholwg.cymru).

Fideos Microsift Access

Mae angen lawrlwytho'r ffolder ac yna rhedeg y rhaglen sy'n cynnwys fideos.

Blas o wersi

Ar ôl gwylio'r fidoe ar flas o wers Cronfa data, lawrlwythwch y daenlen isod a rhannwch y meysydd i dablau perthynol gan wneud meysydd allweddol yn Drwm ('Bold'), meysydd tramor yn Italeg. Ebostiwch eich datrysiadau at gareth.williams@gartholwg.cymru os hoffech adborth ar eich tasg.

Bwcio llety.xlsx