Mr R Davies
Gair o groeso ...
Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r wefan hon i chi gan obeithio y cewch chi flas o’r hyn a gynigir yn Ysgol Gymunedol Cae’r Felin.
Ymfalchïwn yn y ffaith ein bod ni yn ysgol gyfeillgar, hapus ac agored, sy'n awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth â’n rhieni er mwyn i’n disgyblion gyrraedd eu llawn botensial. Anogwn ein disgyblion i barchu eraill a dangos cariad tuag at eu gwlad, iaith, diwylliant a threftadaeth.
Darparwn safonau uchel yr addysgu, y dysgu a'r berthynas effeithiol sydd rhwng yr ysgol, y cartref a'r gymuned. Mae'r Gymraeg yn cael lle amlwg ymhob agwedd o fywyd ysgol o ran gwersi ieithyddol, iaith y gymuned leol a rhown sylw i ddiwylliant gwerthfawr ein gwlad fel rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol. Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus.
Estynnir croeso cynnes i chi rhieni i ymuno yn holl weithgareddau’r ysgol, ac edrychwn ymlaen at bartneriaeth hapus, lwyddiannus a ffrwythlon yn ystod addysg gynradd eich plentyn.
Welcome....
I am delighted to present this website to you and hope that you will get a taste of what is offered at Cae'r Felin Community School.
We are proud of the fact that we are a friendly, happy and open school, who are very keen to work in partnership with our parents so that our pupils reach their full potential. We encourage our pupils to respect others and show love for their country, language, culture and heritage.
We provide high standards of teaching and learning with an effective relationship between school, home and the local community. Welsh is prominently featured in all aspects of school life - language lessons, the language in the community and the importance of Welsh culture as an integral part of the curriculum. We value our pupils and believe that their time at Ysgol Cae'r Felin should be valuable and fulfilling.
Parents are warmly welcomed to join in all school activities, and we look forward to a happy, successful and fruitful partnership during your child's primary education.