Llywodraethwyr / Governors

Croeso i Adran y Corff Llywodraethol

Mae'r corff llywodraethol yn cynnwys tri ar ddeg o bobl, sy'n wirfoddolwyr. Maent yn cynrychioli gwahanol rannau o'r gymuned: aelodau o staff, gan gynnwys y pennaeth, rhieni, y gymuned leol a'r Awdurdod Lleol. Mae aelodau o'r staff a rhieni yn cael eu hethol a'r Awdurdod Lleol yn penodi ei gynrychiolwyr. Gall y corff llywodraethu gyfethol aelodau o'r gymuned leol er mwyn ceisio sicrhau bod ystod dda o brofiadau a sgiliau.

Prif ddyletswyddau'r corff llywodraethu yw:

• Datblygu a chynnal gweledigaeth ar gyfer datblygiad yr ysgol

• Goruchwylio ansawdd yr addysg yn yr ysgol a'r safonau a gyflawnir gan ddisgyblion

• Cytuno a monitro datblygiadau mae'r ysgol yn ei wneud i wella ei hun

• Gosod y gyllideb ac yn monitro'r defnydd o'r holl adnoddau sydd ar gael i'r ysgol

Mae hefyd yn cymryd rhan mewn gwneud penodiadau i'r ysgol ac yn gallu delio â chwynion ac achwyniadau.

Er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau, mae'r corff llywodraethol yn cyfarfod ddwywaith y tymor. Mae hefyd nifer o is-bwyllgorau sy'n cyfarfod i ystyried rhai materion yn fwy manwl. Unwaith y flwyddyn, mae’r corff llywodraethu yn gwahodd rhieni i gyfarfod i egluro beth cafodd ei gyflawni yn ystod y flwyddyn ac i wrando ar sylwadau neu pryderon gan rieni.

Mae bod yn llywodraethwr ysgol yn rôl ddiddorol ond yn heriol. Caiff hyfforddiant ei ddarparu gan yr Awdurdod Lleol. Mae yna swyddi gwag o bryd i'w gilydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn llywodraethwr yn yr ysgol, cysylltwch â'n Cadeirydd presennol, Mr Gwyn Roberts.


Welcome to the Governing Body section of the school website

The governing body is made up of thirteen people, who are volunteers. They represent different parts of the community: staff members, including the head teacher, parents, the local community and the Local Authority. Members of staff and parents are elected and the Local Authority appoints its representatives. The governing body can co-opt members of the local community in order to try and ensure it has available a good range of experience and skills.

The main duties of the governing body are:

It is also involved in making appointments to the school and can deal with complaints and grievances.

In order to carry out its duties, the governing body meets twice a term. It also has a number of sub-committees which meet to consider some matters in more detail. Once a year, the governing body invites parents to a meeting at which it explains what it has done over the year and listens to comments and any concerns from parents.

Being a school governor is an interesting but challenging role. Training is provided by the Local Authority. There are vacancies from time to time. If you are interested in becoming a governor at the school, please contact our current Chair Mr Gwyn Roberts.

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Llywodraethol i Rieni 2022-23

Adroddiad Blynyddol Llywodraethwyr i Rieni 2022 - 2023

Annual Governor Report to Parents 2022 - 23

Annual Governor Report to Parents 2022 - 2023