Beth mae’r Ysgol neu’r Darparwr Blynyddoedd Cynnar, Awdurdod Lleol Cyngor Sir Gaerfyrddin a Llywodraeth Cymru yn ei wneud â Gwybodaeth Addysgol a gedwir ganddynt am Blant a Phobl Ifanc
I fodloni gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), mae’n rhaid i ysgolion gyhoeddi Hysbysiad Preifatrwydd i blant a phobl ifanc a/neu rieni a gwarcheidwaid yn crynhoi’r wybodaeth a gedwir am blant a phobl ifanc, pam y caiff ei chadw, a’r trydydd partïon y gallai gael ei rhoi iddynt.
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn rhoi gwybodaeth am gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol a pherfformiad plant neu bobl ifanc gan yr Ysgol, Cyngor Sir Gaerfyrddin (ALl) a Llywodraeth Cymru.
Mae’r ysgol yn casglu gwybodaeth am blant a phobl ifanc a’u rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol pan fo plant a phobl ifanc yn cofrestru’n yr ysgol. Mae’r ysgol hefyd yn casglu gwybodaeth ar adegau allweddol eraill yn ystod y flwyddyn ysgol a gall gadw gwybodaeth gan ysgolion gwahanol pan fo plant a phobl ifanc yn symud.
Mae’r Ysgol yn prosesu’r wybodaeth mae’n ei chasglu i weinyddu’r addysg a rydd i blant a phobl ifanc. Er enghraifft:
rhoi gwasanaethau addysgol i unigolion;
monitro ac adrodd ar gynnydd addysgol disgyblion/plant;
rhoi gwasanaethau lles, gofal bugeiliol ac iechyd;
rhoi cymorth a chanllawiau i blant a phobl ifanc, eu rhieni a gwarcheidwaid cyfreithiol;
trefnu digwyddiadau a thripiau addysgol;
cynllunio a rheoli’r ysgol.
Caiff Llywodraeth Cymru wybodaeth am ddisgyblion yn uniongyrchol gan ysgolion fel arfer fel rhan o brosesau casglu data statudol yn cynnwys y canlynol:
Casglu data ôl-16
Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD)
Casglu lefel disgyblion a addysgwyd heblaw yn yr ysgol (AHYYY)
Casglu data cenedlaethol (CDC)
Casglu data presenoldeb
Casglu data Profion Cenedlaethol Cymru (PCC)
Yn ogystal â’r data a gesglir fel rhan o CYBLD, caiff Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol hefyd wybodaeth am asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol, canlyniadau arholiadau cyhoeddus, a data presenoldeb ar lefel disgybl unigol a ddaw gan Ysgolion a/neu Gyrff Dyfarnu (e.e. CBAC).
Defnyddia Llywodraeth Cymru’r wybodaeth bersonol hon at ddibenion ymchwil (a gynhelir mewn ffordd sy’n sicrhau nad oes modd adnabod plant a phobl ifanc unigol) ac at ddibenion ystadegol, i lywio, dylanwadu a gwella polisi addysg ac i fonitro perfformiad addysgol y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd. Gallwch weld enghreifftiau o ystadegau a grëir yn www.cymru.gov.uk/ystadegau. Mae gwybodaeth bellach am ddefnydd Llywodraeth Cymru o ddata personol ym Mholisi Preifatrwydd Llywodraeth Cymru sydd ar gael yma.
Mae’r ALl hefyd yn defnyddio’r wybodaeth bersonol a gesglir i gynnal ymchwil. Mae’n defnyddio canlyniadau’r ymchwil hon i wneud penderfyniadau ar bolisi ac ariannu ysgolion, i gyfrifo perfformiad ysgolion a’u helpu i bennu targedau. Cynhelir yr ymchwil mewn ffordd sy’n sicrhau nad oes modd adnabod plant a phobl ifanc unigol.
Mae’r math o wybodaeth bersonol a gaiff ei gadw’n cynnwys:
manylion personol fel enw, cyfeiriad, dyddiad geni, nodweddion y plentyn/person ifanc a manylion cyswllt rhieni a gwarcheidwaid;
gwybodaeth am unrhyw anghenion addysgol arbennig;
gwybodaeth am berfformiad mewn asesiadau ac arholiadau mewnol a chenedlaethol;
gwybodaeth am darddiad ethnig a hunaniaeth genedlaethol plant a phobl ifanc (a ddefnyddir i baratoi dadansoddiadau ystadegol cryno);
manylion am statws mewnfudo plant a phobl ifanc (a ddefnyddir i baratoi dadansoddiadau ystadegol cryno);
gwybodaeth feddygol sydd ei hangen i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel tra eu bod yng ngofal yr ysgol/darparwr Blynyddoedd Cynnar;
gwybodaeth am bresenoldeb ac unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd;
gwybodaeth am gyfraniad gan y gwasanaethau cymdeithasol o ran plant a phobl ifanc unigol pan fo angen hyn at ddibenion gofal y plentyn/person ifanc.
Gallai gwybodaeth a gedwir gan yr ysgol, darparwyr Blynyddoedd Cynnar, yr ALl a Llywodraeth Cymru am blant a phobl ifanc, eu rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol hefyd gael ei rhannu â sefydliadau pan fo’r gyfraith yn caniatáu hynny ac ar yr amod y gweithredir yn briodol i gadw’r wybodaeth yn ddiogel, er enghraifft;
cyrff addysgol a hyfforddiant eraill, gan gynnwys ysgolion, pan fo plant a phobl ifanc yn gwneud cais am gyrsiau neu hyfforddiant, symud ysgol neu geisio arweiniad ar gyfleoedd;
cyrff dan gontract i gynnal ymchwil i Lywodraeth Cymru, yr ALl ac ysgolion/darparwyr Blynyddoedd Cynnar gan weithredu’n briodol i sicrhau bod y wybodaeth yn ddefnyddiol;
llywodraeth ganolog a lleol i gynllunio a darparu gwasanaethau addysgol;
gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau iechyd a lles eraill pa fo angen rhannu gwybodaeth i ddiogelu a chefnogi plant a phobl ifanc unigol;
darparwyr y System Rheoli Gwybodaeth (MIS) er mwyn sicrhau bod y system yn gweithio a’i bod yn gywir;
cyflenwyr cymeradwy system ‘dim arian parod’ y Cyngor neu Ysgolion i sicrhau bod yr holl ddisgyblion, rhieni a gwarcheidwaid â chyfrifoldeb rhiant a staff yr ysgol yn gallu ei defnyddio’n briodol;
System Addysg ar y Cyd Consortiwm Partneriaeth i ategu dadansoddiad ystadegol rhanbarthol, fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru;
amrywiaeth o gyrff rheoleiddiol, fel ombwdsmyn ac awdurdodau arolygu, pan fo’n ofynnol dan y gyfraith i wybodaeth gael ei hanfon ymlaen fel y gallant wneud eu gwaith;
y Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn gwella ansawdd ystadegau mudo a phoblogaeth
Mae gan blant a phobl ifanc hawliau penodol dan y Ddeddf Diogelu Data a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol gan gynnwys hawl gyffredinol i gael mynediad i ddata personol a gedwir amdanynt gan unrhyw “reolwr data”. Yn ôl y gyfraith, yn 13 oed mae plant a phobl ifanc yn ddigon aeddfed i ddeall eu hawliau a gwneud cais hawl unigol eu hunain os dymunant. Disgwylir i riant wneud cais ar ran plentyn os yw’n iau na hynny. Os hoffech weld eich data personol chi neu’ch plentyn, ysgrifennwch at y sefydliad perthnasol.
Mae diogelwch gwybodaeth yn bwysig iawn i’r ALl, ysgolion a Llywodraeth Cymru ac mae nifer o weithdrefnau ar waith i leihau’r posibiliad o gyfaddawdu diogelwch data. Bydd yr ALl, yr ysgol a Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw’n gywir bob amser a’i phrosesu’n unol â’n gofynion cyfreithiol.
Mae’r cyfreithiau Diogelu Data’n rhoi hawliau penodol i unigolion o ran y wybodaeth bersonol a gedwir amdanynt gan unrhyw sefydliad. Yn eu plith mae:
yr hawl i ofyn am a chael copïau o wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch, er y gall rhywfaint o wybodaeth gael ei dal yn ôl yn gyfreithiol;
yr hawl, mewn rhai amgylchiadau, i atal gwybodaeth bersonol rhag cael ei phrosesu os bydd gwneud hynny’n achosi niwed neu ofid;
yr hawl i ofyn i wybodaeth gael ei chywiro;
yr hawl i ofyn i wybodaeth beidio â chael ei phrosesu
Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n gorfodi ac yn goruchwylio’r Ddeddf Diogelu Data, asesu p’un ai a yw’r gwaith o ddiogelu data personol yn debygol o gydymffurfio â darpariaethau ein cyfrifoldebau deddfwriaethol.
I gael rhagor o wybodaeth am wybodaeth bersonol a gesglir a’r defnydd a wneir ohoni, os oes gennych bryderon am gywirdeb gwybodaeth bersonol, neu’ch bod am arfer eich hawliau dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, dylech gysylltu â:
Ysgol Y Ddwylan, Heol Newydd, Castell Newydd Emlyn, SA38 9BA. Ffôn: 01239710671 neu e-bostiwch admin@yddwylan.ysgolccc.cymru
Swyddog Diogelu Data, Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP e-bostiwch dataprotection@sirgar.gov.uk
Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ; e-bostiwch SwyddogDiogelu.Data@gov.cymru
Llinell gymorth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth 029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (llinell gymorth y DU)
mae gwybodaeth hefyd ar gael gan www.ico.gov.uk
Rydym yn annog ein disgyblion i wisgo gwisg ysgol bob dydd. Teimlwn bod hyn yn fodd o sicrhau parch ac agwedd gadarnhaol at yr ysgol. Mae'r wisg ysgol ar gael yn yr ysgol i chi brynu.
Mae Clwb Brecwast yn cael ei gynnal yn yr ysgol pob bore rhwng 8:00 ac 8:30 ac mae'r clwb yn agored i blant o Ddosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 a lluniaeth yn cael eu darparu ar gyfer y plant. Cofiwch gofrestru er mwyn cael mynediad i'r clwb.
Mae Clwb Y Ddwylan ar agor rhwng 3:30yp a 5:30yh o ddydd llun i ddydd Gwener. Mae'r Clwb ar agor i ddisgyblion Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 o unrhyw ysgol a darperir lluniaeth ar gyfer y plant. Mae'r Clwb yn tueddi i fod yn boblogaidd iawn - fe'ch cynghorir i archebu lle gyda Miss Sharon Thomas ar 01239 710671 neu 07989694056.
Cost pob sesiwn yw £6.00. Mae yna nifer o wahanol weithgareddau ar gael gan gynnwys chwaraeon, celf a chrefft, a llawer mwy.