Croeso i wefan Ysgol Y Ddwylan. Mae'r wefan wedi cael ei ddatblygu er mwyn darparu gwybodaeth i rieni, darpar rieni, cyfeillion a phawb sydd â diddordeb ym mywyd a gwaith ein hysgol.
"Gweithio fel tîm i gyrraedd y nod"
Ein nod yw gweithio fel tîm mewn awyrgylch ddiogel, ddwyieithog a Chymreig er mwyn galluogi ein disgyblion i ddatblygu'n unigolion gwybodus, galluog, mentrus a hyderus.
Mae Ysgol Y Ddwylan yn gwasanaethu tref farchnad fechan Castell Newydd Emlyn yn ogystal â phentrefi cyfagos o Adpar a Llandyfyriog. Mae'r ysgol yn darparu addysg ar gyfer plant rhwng 3-11.
Mae'r plant, rieni, staff a llywodraethwyr yn cydweithio i greu ysgol hapus, cynhyrchiol ac ysgogol.
Mae Ysgol y Ddwylan yn gymuned ddiogel a gofalgar lle gwneir pob ymdrech i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn ac i ddod yn aelod gwerthfawr a chyfrifol o'r gymuned.
Rydym yn:
• darparu cyfleoedd dysgu sy'n cwrdd ag anghenion plant unigol yn yr ysgol er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial llawn.
• creu amgylchedd sy'n hybu datblygiad moesol, diwylliannol a chorfforol y disgyblion.
• sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob disgybl
Yn Ysgol y Ddwylan, rydym ni'n:
• gwerthfawrogi cyfraniad pob unigolyn
• datblygu dysgwyr annibynnol hyderus
• hyrwyddo datblygiad sgiliau allweddol y disgyblion
• sicrhau bod barn disgyblion yn cael eu clywed
• sicrhau bod disgyblion yn mwynhau dysgu