Y Model SAMR

Rydym yn ffodus o’r mynediad at amrywiaeth eang o offer digidol sydd gennym erbyn hyn. Er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio yr offer digidol yma i’w llawn potensial rhaid yn gyntaf ystyried a yw defnyddio’r technoleg yn cyfoethogi’r dysgu.

Mae amryw o fodelau y mae modd eu defnyddio i ddatblygu dysgu digidol effeithiol. Un enghraifft y gallai ysgolion ei hystyried yw’r model SAMR.  Cafodd y model ei greu yn wreiddiol gan Dr. Ruben Puentedura gyda’r bwriad o amlinellu  yr arferion gorau i ddefnyddio dysgu digidol yn y dosbarth.

Mae’r model yn  cynnwys 4 haenen penodol. 

Mae’r ddwy haenen gyntaf , sef Amnewid ac Adio, yn ffocysu ar wella ansawdd y dysgu a gwerth y weithgaredd. Pwrpas y ddau haenen arall , sef Addasu ac Ailddiffinio  yw defnyddio offer digidol i drawsnewid y dysgu a chreu posibiliadau newydd. 

Bwriad y model SAMR yw i ddatblygu cynnydd mewn dysgu digidol fel grisiau, gydag Amnewid fel y man cychwyn ac Ailddiffinio fel y nod terfynol. Cyfeirir at Amnewid ac adio fel ‘Camau Gwella’, tra mai Addasu ac Ailddiffinio yn cael eu cyfeirio fel Camau Trawsnewid.

SAMR Cymraeg.pdf

Wrth gynllunio gweithgaredd sy'n cynnwys defnyddio offer digidol ystyriwch y cwestiynau isod:

Gall y cwestiynau syml hyn ei gwneud yn symlach i benderfynu pa gam o'r model SAMR sy'n gweddu eich anghenion. Cofiwch nad oes rhaid i chi ailddiffinio dysgu eich myfyrwyr bob amser. Efallai mai ychydig o ychwanegiadau technolegol syml at strategaeth addysgu sydd eisoes yn effeithiol yw'r cyfan sydd ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth.

Wrth i un symud ar hyd y continwwm y model SAMR, mae technoleg gyfrifiadurol yn dod yn bwysicach yn yr ystafell ddosbarth ond ar yr un pryd yn mynd yn fwy anweledig wedi'i blethu i ofynion addysgu a dysgu da.