2024:
Fel rhan o'n paratoadau at Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, rydym wedi trefnu cystadleuaeth Talwrn yr Ifanc rhwng pedair ysgol uwchradd y sir: Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Ysgol Gyfun Llanhari, Ysgol Gyfun Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Rhydywaun.
Cafwyd sesiynau hwyliog yn dysgu sut i greu limrigau a thribannau gan Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood.
Cafodd y tîm gyfle i weithio ar y testunau gosod gydag athrawon Adran y Gymraeg a daeth Carwyn Eckley mewn i weithio ar fireinio'r cerddi gyda nhw.
Edrychwn ymlaen at yr ornest yn y Babell Lên ar Ddydd Sul 4ydd o Awst am 1:30.
Tîm Talwrn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda:
Ffion Roberts
Seren Williams
Mari Bianchi-Jones
Sophie Rowlands
Siriol Alun
Angharad Ward-Powell
Gethin Lever