12/09/22:
Diolch i Aneirin Karadog am gynnal sesiwn gyda Blwyddyn 11, yn trafod ei gerdd Gweld y Gorwel sydd ar y cwrs TGAU. Roedd y disgyblion wedi elwa’n fawr o glywed y bardd ei hun yn trafod ei gerdd yn fanwl gan ganolbwyntio ar eirfa, y cynnwys a’r neges.