Wedi i ni ymchwilio sut oedd bywyd i blentyn oedd yn gweithio yn y pyllau glo yn y 19 Ganrif, aethon ni i ddefnyddio ein sgiliau creadigol a dychmygol i ysgrifennu dyddiadur.
Dydd Mawrth 16 o Hydref 1893
Roeddwn i wedi codi am 5yb. Roedd coesau fi wedi blino’n lan. I frecwast cefais i uwd a dŵr budur iawn, ond mae dad yn trio ei gore glas achos mae’n anodd prynu bwyd efo wyth ceiniog. Roedd fy mola i'n troi oherwydd y dŵr budur iawn.
Hanner awr wedi 5 roedd hi’n amser cerdded i'r pyllau glo. Roeddwn ni wedi cyrraedd y pyllau glo am 6yb. Es i syth i weithio ,fy swydd i yn y pyllau glo yw’r Trapiwr fi sydd yn dala’r drws mawr, brown. Erbyn hyn roeddwn i'n teimlo yn oer ac wedi blino’n llwyr.
Wnaeth bys ffrind fi cael i dorri bant mewn damwain efo un o’r cartiau. Roedd hi yn drist iawn a dechreuodd hi llefen y glaw . Swydd chwaer mawr Eos yw'r Dramwyr . Mae hi yn cael eu cyflogi fel pytiwr, yn tynnu ac yn gwthio tybiau llawn glo. Mae hi a rhan fwyaf o’r merched yn hoffi gwisgo dillad posh er bod nhw’n gwybod bod y pyllau glo yn fwdlyd iawn.
Roedd hi’n amser cinio o’r diwedd. Roeddwn I'n gwybod oherwydd o ni’n teimlo’n llwglyd nes i fy mola wneud sŵn rhyfedd. I ginio roedd cawl, oedd y cawl yn arogli fel pwps cwningen. Cefais i ddim tamed bach o gawl. Ar ôl cinio roeddwn i'n teimlo’n ddigalon iawn, os oedd gen i ddewis o fynd i'r pyllau glo neu fynd adre byddwn i'n mynd adre.
Roedd e’n amser mynd adre. Roedd dad wedi dweud wrtho fi, ond cyn i ni fynd adre roedd Eos di dweud oedd ffrind arall fi wedi cael eu hanafu a’r ddamwain gan un o’r gweithwyr yn gwthio tybiau llawn glo caled iawn .
Cerddais adre gydag Eos a dad, erbyn i ni gyrraedd adre roeddwn i yn llwglyd dros ben, ond roedd dim digon o fwyd i hyd yn oed un o ni felly oedd rhaid i fi fynd i wely heb fwyd .
Doeddwn i ddim yn wen o glust i glust.
Tesni Davies
Dydd Llun yr 8fed o Ebrill 1893
Rydw i wedi cael diwrnod gwael. Roedd fy dwy chwaer Casi a Elinor wedi cael dolur fawr. Torrodd Casi ei choes a'i fraich a wnaeth Elinor gwympo a thorri dau asgwrn ar ei choes. Mae mam a dad yn drist iawn.
Deffrais i am 4 yn y bore a gadael am 6 y bore. Teimlais yn blinedig. Dwi ddim yn hoffi codi mor gynnar. Cefais i uwd i fy mrecwast fel bob amser. Mae’n ych a fi fel caws hen ych a fi. Wel rydym ni yn gadael am 5 a bod yn y pwll glo am 6. I cyrraedd yna rydym ni yn cerdded bydda i wedi blino lan yn barod. Pryd byddwn ni wedi cyrraedd byddwn i ar y llawr mas o bwff.
Rydym ni yn mynd i'r pwll glo ym Mhontypridd. Rydw i a fy chwaer Isla yn Trapiwyr a fy dwy chwaer Elinor a Casi yn tynnu a gwthio mae’n galed iawn. Wnaeth fy ffrind gorau Raya torri ei choes a braich oherwydd wnaeth carreg fawr cwympo ar ei choes a braich. Pryd cefais i'r newyddion teimlais i yn drist iawn. Wnes i bron a chael damwain heddiw. Wnes y to bron a chwympo arna i a fy chwaer Isla ond cydiodd fy dwy chwaer Elinor a Casi arnom ni dwy. Roeddwn i’n lwcus iawn.
Cefais i hanner sleisen o fara a 5 blocyn bach o gaws. Roedd y bara yn hanner wyrdd a'r caws yn hen iawn. Ond cadwais i bach o’r bara a chaws i wedyn. Erbyn cinio ro’n i’n ddiflas ac eisiau mynd i gysgu. Mae’n ddiflas iawn o dan y ddaear. Os o’n i allu byddwn i wedi rhoi'r ffidl yn y to. Gadawon ni am 6, neu weithiau byddwn ni'r plant yn gadael yn hwyrach ond cael ein talu yn llai.
A’r ôl i ni gyrraedd adref cefais i uwd swper wedyn bath a gwely. Mae yna dim ond 3 gwely a 6 ohonom ni. Mae mam a dad yn cysgu mewn un gwely ac wedyn y ddau wely i Casi ac Elinor achos mae nhw angen gwella. Dwi ac Isla yn cysgu ar y sofa.
Rydw i wedi cael DIGON!!! Dwi ishe bod yn yr ysgol a chael addysg.
Sut oedd hawliau plant y pyllau glo i gymharu â ni?