Aethon ni am ymweliad i'r Llyfrgell Genedlaethol i ddysgu am gymunedau'r pyllau glo ac i ddysgu am gyfraniad y glowyr du i'r pyllau glo yng Nghymru. Cafwyd cyfle i edrych ar wahanol fathau o arteffactau er mwyn gasglu gwybodaeth. Dysgon ni fod pobl wedi symud ar draws Cymru i weithio yn y pyllau glo. Ond yn fwy na hyn roedd pobl wedi teithio ar draws Ewrop a'r byd i weithio yn y pyllau glo e.e. Teuluoedd o'r Eidal. Agorwyd nifer fawr o fusnesau megis caffi, siopau gwerthu melysion ayyb. Dysgon fod nifer o lowyr wedi dod o'r cyfandir Africa yn o gystal. Rydym yn edrych ymlaen i cydweithio gyda Ysgol Hamadryad i ddysgu mwy am hyn.