Cynllun Benthyca Dyfeisiau Codio
Cynllun Benthyca Dyfeisiau Codio
I gefnogi strategaeth 'Cracio'r Cod' Llywodraeth Cymru mae gan Partneriaeth nifer o ddyfeisiau codio rhaglenadwy a fydd ar gael i ysgolion yn rhad ac am ddim am gyfnod o dymor.
Bydd y dyfeisiau rhaglenadwy hyn yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu meddwl cyfrifiadurol. Mae Partneriaeth hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn galluogi ysgolion i roi cynnig ar offer a gwerthuso eu heffeithiolrwydd cyn ystyried prynu setiau o ddyfeisiau eu hunain.
Gwelir isod manylion yr offer sydd ar gael a'r termau benthyca.
Disgwyliadau i ysgolion sy’n benthyg y dyfeisiau:
Bod y dyfeisiau'n cael eu defnyddio i ddatblygu sgiliau meddwl cyfrifiadurol a sgiliau codio’r disgyblion.
Bod y dyfeisiau'n cael eu dychwelyd mewn cyflwr da.
Bod yr ysgolion yn rhannu unrhyw waith cynllunio / adnoddau / gwaith disgyblion sydd wedi’u datblygu gan ddefnyddio'r dyfeisiau.
Bod yr ysgolion yn llenwi ffurflen werthuso fer.
Cyfarpar: Sphero 2.0
Ystod oedran addas ar gyfer: 8 i 11
Nifer o ddyfeisiau bydd yn mynd allan: 6 x Sphero
Beth sydd angen er mwyn codio’r dyfeisiau: iPad / Tynker app / Sphero Edu App
Cyfarpar: Lego WeDo 2.0
Ystod oedran addas ar gyfer: 6 i 11
Nifer o ddyfeisiau bydd yn mynd allan: 4 pecyn Lego WeDo 2.0
Beth sydd angen er mwyn codio’r dyfeisiau: iPad / Dyfais Windows / MacBook / Dyfais Android / Ap Lego WeDo 2.0 (nodwch y bydd angen Bluetooth ar y dyfais)
Cyfarpar: Lego Mindstorm EV3
Ystod oedran addas ar gyfer: 10 i 16
Nifer o ddyfeisiau bydd yn mynd allan: 3 pecyn Lego Mindstorm EV3
Beth sydd angen er mwyn codio’r dyfeisiau: Ap Lego Education Programming / iPad / Dyfais Windows / MacBook / Dyfais Android (nodwch y bydd angen Bluetooth ar y dyfais)
Cyfarpar: Edison Robots and EdCreate Sets
Ystod oedran addas ar gyfer: 7 i 14
Nifer o ddyfeisiau bydd yn mynd allan: 12 x Edison Robots / 6 x EdCreate sets / Batris
Beth sydd angen er mwyn codio’r dyfeisiau: Dyfais Windows / MacBook / iPad / Dyfais Android (nodwch y bydd angen i'r jack clustffon y ddyfais weithio)
Cyfarpar: Mambo Parrot Drôns
Ystod oedran addas ar gyfer: 8 i 14
Nifer o ddyfeisiau bydd yn mynd allan: 6 x Drôns Mambo Parrot / Batris
Beth sydd angen er mwyn codio’r dyfeisiau: iPad / Ap Tynker / Ap FreeFlight Mini