Codio
Codio
Meddwl cyfrifiadurol yw’r ffordd o gynllunio atebion i broblemau. Mae’n ffordd o rannu problemau cymhleth yn ddarnau llai y gellir eu rheoli, gan adnabod patrymau a chreu modelau i ddeall a datrys problemau. Mae meddwl cyfrifiadurol yn sgìl meddwl a fydd yn helpu pobl i ddatrys problemau mewn modd mwy effeithlon.
Rhaglennu, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel codio, yw’r broses o roi cyfarwyddiadau i gyfrifiadur gan ddefnyddio iaith raglennu benodol er mwyn iddo allu cyflawni tasg benodol neu ddatrys problem. Meddyliwch amdano fel rhoi set o gyfarwyddiadau i robot er mwyn iddo allu gwneud rhywbeth yr ydych am iddo ei wneud, neu fel rhoi rysáit i gogydd er mwyn iddo allu coginio saig y byddech yn hoffi ei bwyta.
Mae’r cyflwyniad hwn yn dangos y modd y gellir datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chodio o gamau cynnydd 1 i 5. Gellir ei ddefnyddio i gefnogi eich gwaith cynllunio ar gyfer eich gweithgareddau trwy sicrhau bod y cynnydd priodol mewn sgiliau a lefel yr her yn addas ar gyfer y dysgwyr.
Rydym wedi sicrhau bod yr adnoddau o’n hyfforddiant Cracio’r Cod ar gael ar-lein yma.
I gefnogi strategaeth 'Cracio'r Cod' Llywodraeth Cymru mae gan Partneriaeth nifer o ddyfeisiau codio rhaglenadwy a fydd ar gael i ysgolion yn rhad ac am ddim am gyfnod o dymor.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma.