Croeso i Ysgol Pob Oed Caer Elen!

Wrth baratoi’r adnodd yma rydym wedi ceisio sicrhau bod gennych fynediad i’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch ynglŷn â’r ysgol. Ein nod yn yr ysgol yw sicrhau bod pob disgybl ac aelod o staff yn cael y cyfle i ffynnu a’u bod yn cael pob cyfle i gyfrannu tuag at y broses o greu ysgol sydd yn sefydliad sydd yn dysgu. Rydym yn ffocysu ar arloesedd a rhagoriaeth ym mhob agwedd o’n gwaith dyddiol boed wrth gefnogi ein disgyblion o safbwynt eu datblygiad academaidd, eu datblygiad personol neu o safbwynt eu lles. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr ysgol yn gymuned hapus a chynhwysol ac mae ein hethos yn seiliedig ar y gwerthoedd o garedigrwydd, tegwch, cyfrifoldeb, parch a dyfalbarhad. Cofiwch bori trwy’r wefan er mwyn cael trosolwg o’r hyn rydym yn ei gynnig.