Croeso i sesiynau 'Hoelio'r sgiliau mewn Mathemateg'. Pwrpas y sesiynau yw gosod sylfaen gadarn i ofynion cyfredol Mathemateg Blwyddyn 6, â'r ffocws ar ddealltwriaeth.
O ganlyniad, maent yn ddilyniant o sesiynau sy'n ddatblygiadol.
Argymhellir mynd drwy'r sesiynau mewn trefn.
Mae strwythur cyson i pob sesiwn, a gyflwynir ar ffurf fideo :
ymarfer sgiliau gwaith pen perthnasol
addysgu gwybodaeth a sgiliau drwy fodelu ac adnoddau perthnasol
cyfle i ymarfer y sgil / dull dan sylw
(angen pensil a phapur neu bwrdd gwyn bach)
cyfle i gymhwyso drwy ddatrys problemau (angen pensil a phapur neu bwrdd gwyn bach)
asesiad / cwis ar ffurf Microsoft Forms i'w gwblhau ar ddiwedd pob sesiwn
adnoddau ar gyfer ymarfer annibynnol pellach
** O fewn pob sesiwn, gofynnir i ddisgyblion wasgu 'pause' i gyflawni tasgau byr, cyn gwasgu 'chwarae' i barhau **