Rydw i eisiau diolch i’r athrawon i gyd sydd wedi fy nysgu i yn Ysgol y Borth. Mi wnes i fwynhau mynd i gystadlu yn y twrnament pelrwyd yn Bangor.
Rydw i’n edrych ymlaen at fynd i Ysgol Friars, ond rydw i dal yn mynd i golli’r ysgol yma.
Diolch am wrando.
Helo,
Dwin ddiolchgar i’r athrawon i gyd ac i Mrs Edwards am fod yn fy athrawes am ddwy flynedd. Diolch hefyd i Anti Nia am wneud bwyd blasus.
Fy hoff atgof yw pan wnaeth Mrs Edwards fy newis i yn y tim pelrwyd, a dod yn gyntaf a 3ydd yn y gystadleuaeth yn Bangor. Wnes i fwynhau chwarae y Wing Attack i’r tim.
Diolch i chi am wrando.
Evie
Rydw i eisiau diolch i Mrs Edwards am fod yn fy athrawes am dair blynedd. Hefyd rydw i eisiau diolch i Miss Cara am fod yn athrawes arbennig o dda, a helpu fi efo fy mathemateg yn blwyddyn 3 a 4 ac efo fy Saesneg y flwyddyn yma.
Diolch i Anti Nia am wneud cinio hyfryd a brecwast blasus.
Fy hoff atgof oedd pan aethon ni i Glanllyn.
Dwi’n falch iawn fy mod wedi cael chwarae yn y tim pelrwyd flwyddyn yma, a’n bod ni wedi ennill cystadleuaeth y Plat efo’r Urdd.
Rydw i’n edrych ymlaen at gael chwarae pelrwyd yn Ysgol David Hughes ym mis Medi.
Buaswn yn hoffi diolch i Anti Nia am goginio bwyd blasus yn ystod fy holl amser yn Ysgol y Borth, a hefyd diolch i fy ffrindiau am fod yno i mi bob amser os oeddwn i wedi brifo neu yn drist.
Rydw i eisiau diolch i Mrs Edwards am fy nysgu i am dair blynedd. Hefyd, hoffwn ddiolch i Miss Cara am edrych ar ol fy ffrind Jayden a phawb arall yn yr ysgol. Diolch i Mr Macdonald am wneud gymaint i wneud yr ysgol yn wych.
Fy hoff atgofion yw mynd i Glanllyn, i Ganolfan Conway a chwarae i’r tim peldroed.
Hwn ydy fy niwrnod olaf yn Ysgol y Borth.
Rydw i eisiau diolch i’r athrawon sydd wedi fy nysgu i, yn enwedig Mrs Edwards am fod yn fy athrawes am dair blynedd. Hefyd dwi eisiau diolch i Mr Macdonald am wneud yr ysgol yma beth mae o rwan.
Un o fy hoff bethau oedd perfformio yn y sioe Nadolig. Mi wnes i fwynhau dawnsio ac actio fel corrach. Roeddwn i dipyn bach yn nerfus wrth ymarfer, ond pan wnes i ei wneud o doeddwn i ddim yn nerfus o gwbl.
Isaac
Helo bawb,
Heddiw dwi jest eisiau diolch am bob dim mae’r ysgol yma wedi ei wneud i fi. Fy hoff atgof yw mynd i Glanllyn ac aros yn effro tan hanner awr wedi un o’r gloch y bore, ac yna codi am hanner awr wedi pump.
Hoffwn ddiolch i Mrs Edwards am fy nysgu am dair blynedd ac i Mrs Bailey Hughes am fy nysgu am un blwyddyn.
Dwi eisiau diolch i fy ffrindiau i gyd a dymuno’n dda i’r rhai sy’n mynd i Ysgol Friars. Dwi’n mynd i Ysgol David Hughes a fyddai ddim yn dod yn ol, ond fyddai’n cofio Ysgol y Borth am byth.
Diolch am eich amser. Ta-ta bawb.
Fy enw i yw Abdullah a dwi'n 10 oed a dwi'n byw ym Mhorthaethwy. Dwi'n hoffi nofio a mynd ar fy meic a cerdded. Fy hoff fwyd ydi byrger caws a pizza caws a dwi'n hoffi oren, bananas a ciwcymber a dwi'n hoffi letys dipyn bach, ond dwi ddim yn hoffi tomatos a nionyn. Dwi'n hoffi chrome book achos dwi'n gallu chwarae gemau. Fy hoff anifail yw cath a dwi'n hoffi gwneud gwyddoniaeth yn yr ysgol. Fy ffrindiau fi yw Ethan, Tomos a Nathaniel.
Fy enw i ydy Angel ac rydw i'n 10 oed. Fy hoff anifeiliaid yw ci a parrot. Rydw i'n hoffi gwylio Harry Potter a chwarae hefo fy nghwn. Fy hoff fwyd yw mac and cheese. Rydw i'n gwneud llawer o chwaraeon gwahanol fel Gymnasteg, Pelrhwyd, nofio a reidio ceffylau. Fy hoff ddiod yw bubble tea.
Helo, fy enw i ydy Baraa a rydw i yn 10 oed. Rydw i yn hoffi pizza a chips a rydw i yn hoffi mynd i'r ysgol a chwarae pel-droed. Rydw i yn hoffi rhedeg mewn ras fawr a dwi yn hoffi chwarae efo ffrindiau yn yr ysgol.
Fy hoff bethau yn yr ysgol ydy mathemateg, rhedeg, cael bwyd a chwarae a dwi ddim yn hoffi caws a bod yn sal.
Helo, fy enw i ydy Cham a dwi'n 11 oed. Mae fy mhenblwydd ym mis Ionawr. Fy hoff anifal yw cwningen. Dydw i ddim yn hoffi moron, brocoli a ysgrifennu. Dwi'n hoffi celf a chwarae pel-droed yn yr ysgol. Fy hoff fwyd yw pizza a burrito. Hefyd, dwi'n hoffi mynd i ddawnsio bale . Yn yr ysgol dwi'n hoffi mathemateg. Fy hoff ffrindiau yw Baraa, Ruby, Evie , Ruby-Jo a Layan .
Fy enw i ydy Ellie. Dwi'n 11 mlwydd oed. Rydw i'n cael fy mhenblwydd ar Chwefror 10 fed. Un o fy hoff pethau i wylio ydy Anime ac Arcane. Hefyd dwin hoffi chwarae Genshin Impact. Rhai o fy ffrindiau ydy Tia, Lily, Cham, Jessica, Eli a llawer mwy. A mae geni 6 ci a 2 cath.
Fy enw i ydy Erin. Rydw i yn 10 mlwydd oed. Dyddiad fy mhenblwydd yw Mawrth 22. Rydw i yn mwynhau chwarae pel rhwyd, nofio a reidio fy meic. Yn yr ysgol rydw i yn mwynhau ysgrifennu, gwyddoniaeth, amser cinio, amser chwarae ac amser mynd adre. Fy hoff fwyd yw spaghetti bolognese. Fy hoff anifail yw llewpart. Fy hoff liw yw pinc, piws, glas a mint. Fy ffrindiau gorau yw Angel, Ruby, Ruby-Jo, Imaani ac Elin.
Helo, fy enw i yw Ethan ac rydw i yn 10 oed. Rydw i yn hoffi awyrennau yr ail rhyfel byd. Rydw i yn byw yn Borth. Yn y dyfodol dwi eisiau bod yn peilot pan dwi'n hynach. Fy hoff anifail yw cath, enw fy nghath yw Millie Marsh ac mae hi'n 14 oed. Rydw i yn hoffi English mustard a wasabi, a sushi. Hefyd mae gen i bysgodyn aur o'r enw Nemo sydd yn 5 oed.
Rydw i yn hoffi fy awyren remote-control (p-51D mustang). Fy ffrindiau gorau ym Abdullah, Nathaniel a Tomas.
Helo, fy enw i ydy Evie, rydw i yn 10 oed. Mae fy mhenblwydd ar Gorffennaf 28ain . Fy hoff fwyd yw burrito a tikka massala. Yn yr ysgol rydw i yn mwynhau mathemateg a coginio. Dydw i ddim yn hoffi tomatos na nionod. Fy niddordebau yw pel rwyd ,bwyta, mynd ar fy ffon ac chwarae gyda fy nghath. Yn y dyfodol rydw i eisiau bod yn athrawes.
Fy enw i yw Imaani a rydw i yn 10 oed. Rydw i'n hoffi mathemateg, gwyddoniaeth ond dwi ddim yn hoffi ysgrifennu a hanes. Rydw i'n hoffi caws, nygets cyw iar, tatws mash a selsig. Rydw i'n hoffi chwarae hefo fy ffrindiau. Dydw i ddim yn hoffi pel-droed na tenis, pel-fasged a pel-rhwyd. Fy ffrindiau yw Ruby, Evie, Erin, Angel, Cham, Baraa, Ruby-Jo, Elin, Zahra, Ellie a Jessica:)
Fy enw ydi Isaac a rydw i yn 11 oed. Rydw i'n hoffi mathemateg a hanes, dwi ddim yn hoffi ysgrifennu. Dwi'n hoffi gwneud chwaraeon a gemau fideo. Fy hoff gem fideo yw Fortnite a fy hoff chwaraeon yw peldroed neu dringo. Fy hoff fwyd yw maceroni cheese a pitsa. Dwi gyda cath o'r enw Sid. Fy hoff math o anifail yw dolffin. Pryd dwi'n tyfu i fyny dwi eisiau bod yn peldroediwr. Fy hoff ffrindiau o'r ysgol yma ydi Ollie, Macsen, Jayden Osian, Adam, Finley ac Enzo.
Fy enw ydi Jayden a rydw i yn 10 oed. Rydw i yn hoffi ceir ac awyrennau. Fy hoff anifail yw fy nghathod Hugo a Minnie. Mae gen i gi o'r enw Marley. Fy hoff car yw Toyota Supra Mark4 a Nissan GTR r35 ac fy hoff awyrenau ydy Boeing 777, Boeing 767, Boeing 757, Boeing 787, Boeing 747, Airbus a350-1000 ac Airbus a330 ac Airbus a340. Rydw i yn hoffi mynd ar chromebooks yn yr ysgol ac yn hoffi gwneud gwyddoniaeth. Fy ffrindiau yw Louie,Thomas, Tomas, Ollie, Macsen, Isaac, Adam, Enzo a llawer mwy o bobol. Fy hoff can yw Heat Waves gan Glass Animals.
Fy enw i ydy Joanna. Rydw i yn 9 oed. Yn yr ysgol, rydw i yn hoffi ysgrifennu, mathemateg a gwneud gwaith ar y chromebook. Fy niddordebau yw darllen, a dysgu pethau newydd. Fy hoff fwyd yw takeaway pysgod a sglodion. Dydw i ddim yn hoffi cinio Dydd Sul na cyw iar. Rydw i hefyd yn hoffi chwarae criced, a cerdded i fyny mynyddoedd hefo fy nheulu. Yn y dyfodol rydw i eisiau bod yn ddoctor.
Fy enw i ydy Louie, dwi yn hoffi gwneud pethau ar y cyfrifiadur a celf. Fy hoff fwyd ydy wafflau a fy hoff ddiod yw llaeth siocled. A dwi yn hoffi gwneud jocs. Dwi eisiau dysgu sut i wneud cerddoriaeth a gemau fideo. Pan rydan ni'n gwneud pethau ar y cyfrifiadur mae pawb yn gofyn i fi am help. A dwi yn ffrindiau hefo Jayden,Thomas,Tomas ac Ellie.
Fy enw i ydy Nathaniel ond mae ffrindiau fi yn galw fi'n Nat. Rydw i'n 10 oed. Fy hoff fwyd ydy pitsa hefo ham a peperoni a hefyd rydw i'n hoffi borito. Pan rydw i allan o'r ysgol rydw i'n hoffi reidio fy meic cwad a chwarae gemau cyfrifiadur. Fy hoff anifeiliaid yw panda a cwn. Yn yr ysgol rydw i yn hoffi gwneud mathemateg ond dydw i ddim yn hoffi arlunio.
Helo fy enw i ydi Ollie a dwi'n hoffi chwarae pel droed, coginio, methemateg a criced. Dwi'n 11 oed ac dwi yn hoffi bwyta siocled, afal a bananas. Dwi'n hoffi dringo pethau am ddim rheswm. Dwi'n chwarae gemau fel Fifa, Minecraft a llawer o gemau arall. Hefyd mae gen i 3 brodyr, 1 chwaer ac 1 ci. (Dwi ddim yn dda am arlunio.)
Fy enw i yw Ruby. Rydw i yn 10 oed. Fy niddordeb yw chwarae pel rhwyd. Rydw i yn hoff iawn o gathod. Enw fy nghath yw Fluffy ac mae hi yn hoffi bwyta pysgod. Rydw i yn hoffi bwyta Mcdonalds. Rydw i yn hoffi gwneud gwaith ar y chromebooks yn yr ysgol. Rydw i yn hoffi mynd ar gwyliau i lefydd poeth. :)
Fy enw i ydi Ruby-Jo ond mae fy ffrindiau yn galw fi yn Jo. Rydw i yn 10 oed ac mae fy mhenblwydd ym mis Medi. Fy hoff bethau yw fy nghi a'i enw yw Simba. Fy hoff fwyd yw pasta. Dwi'n hoffi pan rydan ni yn ysgrifennu yn yr ysgol.
Fy enw yw Thomas a dwi yn 11 mlwydd oed. Fy mhenblwydd yw 2il o fis Mawrth. Fy hoff fwyd yw pitsa hefo peperoni. Fy niddordebau yw peldroed, rhedeg, chwarae gemau hefo fy ffrindiau a reidio beic hefo fy ffrindiau. Fy hoff beth yn yr ysgol yw mathemateg a mynd ar y chromebooks. Fy hoff anifeiliaid yw ci a cath. Fy hoff liw yw gwyrdd. Fy hoff tim pel droed yw Chelsea. Rydw i yn hoffi ceir. Fy hoff gar yw Nissan r35. Fy ffrindiau gorau yw Jayden, Louie, Isaac, Ollie, Macsen, Abdullah, Tomos a Nat.
Helo, fy hoff bethau yn yr ysgol yw mathemateg a gwyddoniaeth. Fy mhenblwydd ydi Hydref 15 a fy hoff fwyd yw pitsa. Fy ffrindiau ydy Louie, Nat, Abdullah, Jayden a Kyron. Dydw i ddim yn hoffi uchder. Fy hoff tim pel droed yw Liverpool.
Diolch i Miss Cara am fy helpu i bob dydd efo fy clefyd siwgr. Rydw i hefyd eisiau diolch i Mrs Edwards am fod yn athrawes mor dda ym mlwyddyn 3, 5, a 6. Hoffwn ddiolch i fy ffrindiau am fod yn ffrindiau mor dda dros y blynyddoedd.
Un o fy hoff atgofion ydy mynd i Glanllyn a chael hwyl efo fy ffrindiau. Yn blwyddyn 6 wnes i fwynhau chwarae i’r tim peldroed, diolch i Mr Jones. Rydw i’n falch fy mod wedi cael cymaint o hwyl yn yr ysgol dros y blynyddoedd. Rydw i’n mynd i fethu yr ysgol oherwydd dydw i ddim yn dod yn ol.