Llongyfarchiadau i'r plant aeth i Glwb Criced Porthaethwy i gystadlu yn erbyn ysgolion Ynys Mon. Roedd pawb wedi chwarae yn arbennig o dda, a bydd un tim yn mynd drwodd i'r rownd nesaf cyn bo hir.
Pob lwc i'r cricedwyr!
Ddydd Llun, Mai 29ain 2023 wnaeth 10 o blant trafeilio i gystadlu yn yr Eisteddfod. Wnaeth yr ysgol gymryd rhan yn Yr Ymgom a'r Dawnsio Gwerin. Wnaeth pawb wneud yn arbennig a wnaethom ni gael llawer o hwyl yn mynd o gwmpas y cae yn siopio a chwarae gemau.
Da iawn Ysgol y Borth!
GALA NOFIO YNYS MON
Llongyfarchiadau i'r nofwyr yma fu'n cynrychioli Ysgol y Borth yn y gala yng Nghaergybi.
Clwb pel droed Bae Trearddur
Rydw i wedi ennill gem yn chwara i mewn yn y gol a cael gwobr yn y gem trydydd fi i mewn yn clwb all stars.
Rydw i wedi hoffi chwara pel droed a cael gwobrau yn chwara. Rydw i wedi cael medalau am chwara pel droed hefyd, ond rydw i wedi anghofio dod a nhw i'r ysgol.
Yn y dosbarth mi wnes i fwynhau ysgrifennu stori. Gobeithio wnewch chi fwynhau ei darllen!
Roedd Dosbarth 7 wedi gwneud gwasanaeth am Bod Yn Arbennig. Roedd pawb yn siarad am bod yn arbennig ac am eu talentau. Afalau oedd un o cyd-themau y gwasanaeth, a roedden ni wedi siarad am sut mae gan bob un afal seren y tu mewn. I ddangos mae hwn yn wir i ni hefyd, dangosodd rhai plant eu talentau. Roedd grwp yn dangos tlysau pel rhwyd, pel droed, a carnifal, ac roedd rhai genod wedi gwneud can cwpan. Roedd Agnes a Kai wedi dangos ei llyniau, a Annie yn siarad Sbaeneg. Roedd Joanna yn dawnsio tap a Brython yn chwarae y piano. Dangosodd Ethan llyniau am ei ddawn hwylio.
Mi oedd rhai o blant o Ddosarth 7 wedi gweithio hefo pedwar o blant o Flwyddyn un a dau i blannu planhigion llus a mafon yng ngardd yr ysgol. Cawsom llawer o hwyl yn cymysgu compost, dyfrio a mynd yn fwydlyd iawn! Gobethio fydd y plant yn mwynhau bwyta y llus a mafon yn y dyfodol. Mi oedd Ethan a Nat yn chwynnu, rydach chi yn gallu gweld nhw yn y cefndir yn y llun top.
RYGBI TAG
Cawsom ddiwrnod llawn hwyl yng Nghlwb Rygbi Porthaethwy ar Mai 17eg. Daeth tri ysgol i gystadlu - Parc y Bont, Llanfairpwll ac Ysgol y Borth. Llongyfarchiadau i dim melyn Bl5 a 6 am ddod yn ail agos mewn gem derfynol arbennig o dda.
CYSTADLEUAETH URDD CYMRU - Aberystwyth 14.5.23
Llongyfarchiadau i'r tim pelrwyd am ddod yn ail trwy Gymru yn y gystadleuaeth yn Aberystwyth. Roedd hi'n ddiwrnod arbennig ac roedd pawb wedi chwarae yn wych. Ar ol 4 gem, roedden ni wedi ennill 3 gem a cael gem gyfartal, ac wedi llwyddo i ennill y grwp. Yn y chwarteri, enillon ni yn erbyn Aberaeron, cyn mynd ymlaen i guro Caerffili yn y gem gyn derfynol.
Diwrnod arbennig i belrwyd Ynys Mon - Ysgol Corn Hir ac Ysgol y Borth oedd 2 dim gorau Cymru ar y diwrnod!
Ruby-Jo, Efa, Angel, Erin, Ruby, Brooke, Florence, Daisy, Imaani
MEDALAU ARIAN I GENOD BORTH!!
SGORIO A SGORIO!
C'MON GENOD!
Diwrnod cystadleuol yn Parc Latham, Y Drenewydd i'r tim peldroed. Roedd y safon yn uchel iawn a'r hogia wedi chwarae yn dda a chael hwyl.
Chwaraeodd pawb yn arbennig yn y gystadleuaeth yn Aberystwyth. Anlwcus i golli ar giciau o'r smotyn yn rownd y chwarteri y tro yma.
Ddydd Mercher 29/3/23 roedden ni wedi mynd i gaeau ar Lon Penmynydd i blannu llawer iawn o goed. Roedden ni wedi cael ein rhoi mewn grwpiau o 3 a 2 ac oedd o'n gymaint o hwyl. Roedden ni yn gorfod tyllu twll siap T efo rhaw, rhoi coed bach yn y twll, cael ffon bamboo a rhoi cardbwrdd dros y bamboo a'r goeden fach. Gobeithio bydd y coed yn tyfu yn iach!
Ddydd Sadwrn 25ain o Mawrth wnaethom ni perfformio yn Ysgol Amlwch. Roedd yna 4 grwp cerdd dant arall. Wnaethom ni wneud yn arbennig. Yn ein parti ni oedd Annie, Efa, Imaani, Angel, Yasmine, Nel, Emily, Lily, Layla, Elin, Amelie, Jessica a Daisy. Wnaethom ni ddod yn 3ydd a mi wnaethom ni gael llawer o hwyl!
(Efa)Ar Dydd Llun 20fed o Mawrth yn Ysgol Amlwch mi wnes i perfformio fy dawnsio disgo unugol. Mi wnes i perfformio o flaen llawer o pobl ac roedden nhw gyd wedi mwynhau fy dawns roedden nhw gyd yn clapio, chwybanu ac yn gweiddi ar ol i mi orffen fy dawns yn enwedig fy mam. Wnes i dod yn 3ydd ac gwneud yn ffantastic! :)
Ddydd Llun, Mawrth 20fed yn Ysgol Amlwch wnaeth Erin, Elin, Nel ac Evan perfformio Ymgom. Wnaethom ni gystadlu yn erbyn 6 ymgom arall. Wnaeth y 6 ymgom arall defnyddio meic ond wnaethom ni ddewis peidio. Wnaeth pawb ddweud bod ein Ymgom ni yn arbennig. Wnaethom ni ddod yn 1af. Rwan rydan ni yn mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol.
Ddydd Llun Mawrth 20fed yn Ysgol Amlwch mi wnaethom ni berfformio dawns anhygoel a dod yn ail. Mi wnaethom gael llawer o hwyl. Roedd yna llawer o bobl yn gwylio ein dawns. Rydan ni yn diolch i Miss Cara a Miss McCann. Yn dawnsio roedd Imaani, Hannen, Efa, Amelia, Erin, Annie, Daisy, Ollie, Evan, Elin, Nel, Seren, Ruby, Jess ac Emily a wnaethom nhw i gyd wneud yn arbennig.
(Rownd dau)
Eto yn yr Eisteddfod Sir dim ond ni oedd yn cystadlu efo'r dawnsio gwerin. Wnaethom ni wneud yn arbennig o dda. Roedd yna llai o blant o ein ysgol ni yno. Roedd o yn llawer o hwyl. Wnaethom ni ddod yn 1af a rwan rydan ni yn mynd trwadd i'r Eisteddfod Genedlaethol.
Ddydd Mawrth, 21ain o Mawrth roedden ni wedi mynd i Ysgol David Hughes i gystadlu yn erbyn llawer o ysgolion eraill Cymraeg. Roedd bl. 3 a 4 wedi gwneud 0.5 milltir a bl. 5 a 6 wedi gwneud 1 milltir. Roedd y 20 cyntaf wedi mynd i'r rownd nesaf. Roedd Evan ac Ollie wedi cael cyntaf ac ail yn y ras 1milltir Bl.6. Roedd y Bl.3 a 4 dim ond yn gwneud 1/2 milltir.
Ethan a Joanna
Ddydd Sadwrn 11fed o Mawrth roedd Eisteddfod yr Urdd 2023 yn cael ei cynal yn Ysgol David Hughes. Roedd plant o'r ysgol wedi cymrud rhan yn llawer o cystadlaethau gwahanol yn cynnwys dawnsio gwerin, dawnsio disco, llefaru a canu. Roedd yr Eisteddfod yn llawer o hwyl ac roedd o'n cwl iawn cael gweld y talentau gwahanol roedd gan y plant oedd yn cystadlu.
Ddydd Mercher 8.3.23 aeth y tim pelrwyd i Gaergybi. Wnaethom ni chwarae llawer o gemau a wnaethom ni ennill bob un i fynd i'r gem derfynol. Wnaethom ni drio ein gorau i ennill ond wnaethom ni golli 6-3 yn erbyn Ysgol Corn Hir. Wnaethom ni ddod yn ail a wnaethom ni gael medal arian.
YMWELIAD BLWYDDYN 5 A PHENTREF PERYGLON
Cafodd plant Blwyddyn 5 ddiwrnod diddorol iawn ym Mhentref Peryglon (Danger Point). Roedd yna lawer o weithgareddau gwahanol er mwyn ein helpu ni i ddysgu am bethau sy'n gallu bod yn beryglus mewn gwahanol lefydd. Roedd yna gyfle i feddwl sut i gadw'n ddiogel ar y ffordd, ar lan y mor, mewn siop, ar y we, yn yr ysgol, ar drafnidiaeth cyhoeddus fel bws a thren, yn y parc ac yn y cartref. Diwrnod llawn gwybodaeth a hwyl!
Ar gyfer dathlu Dydd Gwyl Dewi 2023 cawsom ni gwisgo i fyny mewn dillad coch, gwyn a gwyrdd yn yr ysgol. Cawson llawer o hwyl yn dysgu an Dewi Sant ac yn gwneud gwaith am Cymru. Roedden ni hefyd wedi dysgu rhai symudiadau dawnsio gwerin fel rhan o'n gwers addysg gorfforol.
Cawsom gyfle i drafod gwahanol apiau sy'n gallu cael eu defnyddio i anfon negeseuon.
Ar ol trafod beth sy'n ein poeni am fod ar-lein, aethom ati i greu ein Rheolau Aur.
Apiau anfon Neges
- Rheolau Aur Dosbarth 7
Rydym yn cytuno i:
Beidio siarad efo pobl ddieithr ar-lein. Os byddant yn siarad â ni yn gyntaf, byddwn yn dweud wrth oedolyn.
Beidio byth â rhannu ein gwybodaeth breifat ag unrhyw un ar-lein
Dderbyn ceisiadau ffrind gan bobl rydym yn eu hadnabod go iawn yn unig.
Beidio â phwyso ar ddolenni / ffenestri naid / lawrlwythiadau oherwydd gallant fod yn firws.
Beidio â defnyddio apiau nad ydynt yn briodol i oedran, oni bai bod ein rhieni yn dweud bod gennym ganiatâd i wneud hynny.
Beidio byth â seiberfwlio unrhyw un.
Beidio byth â chyfarfod pobl ddiarth o'r byd ar-lein - gallent fod yn beryglus.
Beidio byth â rhoi gwybod am ein lleoliad.
Beidio byth â thynnu lluniau/fideos o unrhyw un a'u postio ar-lein heb ganiatâd y person.
Ddweud wrth oedolyn rydym yn ymddiried ynddyn nhw os ydym yn poeni am unrhyw beth sydd wedi digwydd ar-lein.
Messaging Apps
- Dosbarth 7's Golden Rules
We agree to:
Never talk to strangers online. If they talk to us first, we will tell an adult.
Never share our private information with anyone online.
Only accept friend requests from people you know in reality.
Do not press on links/pop ups/ downloads because they may be a virus.
Do not use apps that aren't age appropriate, unless our parents say we have permission to.
Never cyberbully anyone.
Never meet up with strangers from the online world- they could be dangerous.
Never give away your location.
Never take pictures/videos of anyone and post them online without the person's consent.
Tell an adult that you trust if you are worried about anything that has happened online.
Dyma ni yn dathlu'r hen galan wrth greu afalau traddodiadol.
Cawsom lawer o hwyl yn chwarae gemau ar yr iard gyda'n gilydd. Roedd yn rhaid i ni weithio fel tim i ddatrys problemau.
Dyma'r plant fu'n cystadlu yn y Gala Nofio ym Mhlas Arthur, Llangefni. Da iawn bawb a phob lwc i chi yn y rownd nesaf.
Ar ddydd Gwener, Ionawr 13eg, roedd Mrs Edwards wedi dod a'r Fari Lwyd i mewn i'r ysgol. Roedd hi wedi ei fenthyg gan Mr Roberts. Cawsom lawer o hwyl yn canu Can y Fari ac yn gwisgo fel Pwnsh, Siwan a'r Ostler. Dysgom am sut roedd pobl yn dathlu'r Hen Galan yma yng Nghymru ers talwm.
Roeddwn i wedi cael Ariannin yn 'sweepstake' y dosbarth ac wedi ennill pel droed Cymru!
ARWYDDO MAKATON GYDA CERI A SIAN
RYDAN NI I GYD WEDI CAEL LLAWER O HWYL!
Roedden ni wedi cael llawer o hwyl yn dysgu arwyddo llawer o caneuon Cymraeg Nadoligaidd fel Dawel Nos a hefyd Yma o Hyd. Roedd yr arwyddo roedden ni'n gwneud yn llawer o hwyl ac yn hawdd iawn, ac roedd angen siarad pan yr oedden ni yn gwneud y symbolau.
Llongyfarchiadau i'r hogia am lwyddo i ennill twrnmaint 5 bob ochr Ynys Môn.
Gwych!
Cinio Nadolig ni
Dyma Kai,Ethan,Nat,Ewan a Khalen o dosbarth 8
Dyma llun o Ruby, Erin, Angel a Jo
Dyma llun o'r neuadd i gyd
Agnes a Joanna
Dyma wasanaeth Nadolig 2022
"Oedd o'n hwyl, ond pan oeddwn i ar y llwyfan oeddwn i'n crynu fel deilen"
Yn gyntaf wnaethon ni ddewis gwneud cwis am tabl 8. Wedyn gwnaethon ni sgwenu y cwestiynau. Ar ol hynny dewisiom ni i wneud corach. Wedyn roedd Angel wedi peintio bocs. Ar ol hynny rydw i wedi gwneud corach.
(Agnes)
Roeddwn i (Lois) wedi gwneud Sion Corn gyda pen Sion Corn bach ar bol yr Sion Corn mawr. Roedd y pen Sion Corn yn troi gyda modur a swnyn hefyd bwlb yn goleuo os wyt i yn cael cwestiwn cywir ar y cwis. Roedd y cwis amdan tabl wyth.
Rydan ni wedi dewis i wneud Set DJ.
Yn gyntaf, roedden ni wedi hel pethau dani angen fel bocs Weetabix, cardfwrdd, papurau lliw, papur normal, tap selo, glud, modur, gwifrennau, swnyn, staplers a paent pinc. Wedyn, roedden ni wedi paentio papur gwyn yn lliw pinc. Yna sticiais y papur pinc i'r bocs Weetabix a creais disc sydd yn spinio hefo'r modur. Wedyn roedden ni wedi rhoi ychydig o botymau. Wnaethom ni yn ofalus wneud clustffonau a meicroffon i fynd hefo'r set DJ. Wnaethom ni cysylltu'r cwis siap 3D i'r set DJ ac wedyn roedd y cylched wedi gweithio os oedd yr ateb yn gywir. Wnaethom ni cael llawer o hwyl !!! :)
Yn gyntaf wnaethom ni cychwyn barslunio y goeden Nadolig. Gwnaethom ni torri y goeden allan. Ar ol hynny wnaethom ni torri allan addurniadau allan a rhoi ein enwau ar yr addurniadau. Yn drydydd wnaethom ni paentio'r goeden. Ar ol hynny wnaethon ni lliwio gwaelod y goeden. Yn bedwerydd wnaethom ni gael problem fach efo'r goeden. Doedd y goeden ddim yn aros i fyny. Ond wnaethom ni greu stand i'r goeden sefyll i fyny yn iawn.
Gwnaethom ni gysylltu'r goeden efo'r cwis trionglau. Os oedd yr ateb yn gywir roedd y seren ar ben y goeden Nadolig yn goleuo.
Dewisiom ni i wneud ci ( Dalmation ) efo cynffon sy'n troi. Roedden ni angen defnyddio roliau papur toilet i ei goesau a bocs i ei ben a bol. Roedd rhaid roi modur tu fewn iddo fo i wneud ei gynffon troi. Roedd o'n anodd oherwydd roedd y coesau yn disgyn i ffwrdd. Wedyn, adion ni wyneb, clystiau ac asgwrn. Roedd y batri yn anodd i osod oherwydd roedd y crocodeil clips yn anodd i roi i fewn.
ROEDD O'N HWYL ! ! ! ! ! ! ! ! ! ! !
Yn gyntaf gorchuddion ni hen focs mewn papur. Gwnaethom ni troi y bocs fel bod y gwaelod yn gwynebu'r tu blaen. Peintion ni y bocs yn las tywyll. Creuon ni tiwb, a ffitio'r gwifrennau trwyddo fo. Creuon ni platfform hefo tyllau i rhoi y gwifrennau trwy ac yn cysyllty a'r bwlb. Pention ni ser ar y bocs a peintio cymylau ar darn o bapur a'i torri allan. Gludon ni seren fawr wedi ei wneud o bapur aur ar y bocs a gwneud twll i'r bwlb dod trwy'r bocs.
Cysyllton ni un o'r gwifrenau a batri, ac un gwahanol efo ochr arall y batri. Sylwon ni bod un batri ddim yn ddigon ac adion ni un arall. Gorchuddion ni gefn y bocs mewn cerdyn a gwneud fflap er mwyn trwsio unrhyw beth sy'n dod o'i le.
Pan roedd un o'r gwifrennau sy'n dod o'r batri yn cysylltu a'r cwestiwn a'r gwifren sbar oedd yn dod o'r bwlb a'r ateb, roedd y bwlb yn goleuo, oherwydd y ffoil oedd yn cysylltu'r cwestiwn a'r ateb.
Yn gyntaf wnaethom ni blygu y cardfwrdd i wneud y seiren, a wedyn ffeindiom ni tiwb i'r twr i'r seiren a darn eitha mawr o cardfwrdd i'r cefndir.
Ar ol hynny, peintiom ni'r tiwb a'r bocs a'r cefndir a aros iddyn nhw sychu.
Ar ol i'r paent sychu wedyn wnaethom ni wneud i'r twr edrych yn hen efo rhwd a craciau.
Ar ol hynny gwnaethom ni creu twll i'r twr yn y bocs. Wedyn sticio'r twr i'r cefndir.
Yn pumed rhoddom ni'r gwifrenau trwy'r twr i'r bocs yn y top hefo swnyn a dau wifren a rhoi y batris i mewn.
Ar ol hynny wnaethom ni testio fo i weld os oedd o'n gweithio efo'r cwis a chawsom ni HWYL!
Plant Blwyddyn 6 sy'n adrodd neges bwysig ar adeg y Nadolig. Mwynhewch eu cyflwyniad a meddyliwch am eu neges.
PEL DROED 5 BOB OCHR - ar ben y byd!
Ar y 8/12/22 wnaeth criw o blant fynd i chwarae Pel - Droed yn Ysgol David Hughes.
YSGRIFENNU SGRIPTIAU CEFNOGWYR CYMRU
Ar y 4/12/22 wnaeth pawb gwneud sgript cefnogwyr Cymru mewn grwpiau o bump. Roedd un o'r grwp yn newyddiadurwr ac yn gofyn cwestiynau i'r "cefnogwyr" am eu teimladau cyn iddyn nhw adael Qatar. Roedden ni wedi dysgu am deimladau fel siomedig a rhwystredig. I baratoi cyn gwneud y sgript wnaethon ni wneud poster ac ymarfer brawddegau cadarnhaol a negyddol.
Efa, Abdullah, Ruby a Cai
Imaani, Ethan, Kai ac Amelia
Poppy, Annie, Brython a Tomas
Erin, Joanna, Ewan a Hanen
Ruby-Jo, Nat, Yasmine, Jack a Nikkita
Angel, Lois, Agnes a Leo
STORI SAIN COEDWIGOEDD GLAW
Creu swn y goedwig law.
Roedd yn hwyl defnyddio offerynnau a llais.
Cafodd pawb gyfle i ymuno yn y swn!
Cawsom hwyl yn gwrando ar bob grwp yn perfformio.
Cawsom llawer o hwyl yn ein grwpiau yn gwneud podlediadau am gwpan y byd gyda ffrindiau newydd o Flwyddyn 7.
Roedd blwyddyn 6 a 7 wedi gwneud podlediad am Gwpan y Byd yn Ysgol David Hughes. Roedden ni wedi cael llawer o hwyl yn siarad yn ein grwpiau.
Bore 'ma (25/11/22) wnaeth llawer o blant wylio y gem Cymru yn erbyn Iran. Yn anffodus, collodd Cymru 2/0 i Iran. Gwylion ni y gem yn "non-stop" twy'r bore heblaw am hanner amser. Er mwyn cefnogi Cymru, gwisgodd yr holl ddosbaryh yn goch/ kit cymru. Roedd yna llawer o swn wrth i ni weiddi ein cefnogaeth at y chwaraewyr ar y teledu. Roedden ni i gyd yn siomedig pan ddaeth y gem i'r diwedd o'r 99 munud ac roedd yna wynebau hir ar draws y dosbarth oherwydd y sgor.
Ar Dydd Llun 14 o Tachwedd aeth grwp o blant i gystadleuaeth athletau dan do.
Daeth Tim Ysgol y Borth yn 1af!!!
Rydan ni'n mynd trwodd i'r rownd nesaf ym mis Ionawr yn erbyn ysgolion Ynys Mon.
Roedd pump o blant yn gwneud i'r "Smart Electronic kit'' weithio hefo dau batri, un bulb a chwech gwifren. (Roedd Ethan wedi dod a'r smart electronic kit i mewn).
Roedd plant y dosbarth yn defnyddio weiren a batri i gwneud bwlb a swnyn i weithio.
Dyma Tomas a Ewan yn gwneud cylched syml sy'n goleuo bwlb.
Ar diwrnod Plant Mewn Angen fel pob blwyddyn roedd plant wedi gwisgo yn wansise pyjamas, ond roedd rhai plant wedi dod yn dillad streipiog neu spots. Ond i ddod mewn ddillad felna roedd angen dod o leia punt neu mwy a roedd o'n llawer o hwyl.
Ar y 10fed o Tachwedd cawsom ni ymweliad o Size of Wales/ Maint Cymru i ddysgu mwy am coedwigoedd glaw y byd. Cawsom llawer o hwyl yn ein grwpiau yn gwneud cwis am anifeiliaid a cynllunio poster.
Poster Nat,Amelia,Kai,Joanna a jo
Poster Ruby, Leo, Nikkita, Abdullah a Lois.
Poster Angel, Ethan, Brython, Yasmine and Cai.
Poster Annie, Poppy, Ewan, Tomas and Hanen.
Poster Erin, Imaani , Jack, Efa , Agnes
Dydd Mawrth 11eg o Hydref aeth 2 dim i dwrnament pel rwyd yr Urdd yng Nghanolfan Brailsford, Bangor. Cafodd pawb llawer iawn o hwyl yn chwarae pel rwyd trwy'r dydd. Wnaeth tim Ysgol Y Borth un ddod yn ail yn y twrnament allan o naw ysgol ac wnaethon nhw gael medal arian. Ym mis Mai mae tim Ysgol Y Borth un yn mynd i dwrnament yn Aberystwyth.
GWASANAETH DOSBARTH
Roedd ein gwasanaeth wedi gwneud i bab feddwl sut i edrych ar ol y byd. Rydym ni am ail-ddefnyddio poteli diod er mwyn lleihau'r plastig sydd yn y byd. Mi wnaethon ni fwynhau dysgu "Y Gerdd Werdd" gan Gwyneth Glyn, a geiriau pwysig David Attenborough am greu cartref ar ein planed i bob creadur byw.
Cawsom chwarae gem Bingo i ddod i adnabod ein gilydd yn well ar ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd.
Roedd diwrnod ar draeth Benllech yn ffordd bendigedig i orffen y tymor. Cafodd Blwyddyn 5/6 lawer o hwyl yn chwarae yn y môr, yn adeiladu cestyll tywod ac yn bwyta hufen ia blasus.
Canolfan Conway
Pan aeth rhai ohonom ni i Ganolfan Conwy cawsom llawer o hwyl. Aethom ni yno ar y 6ed o Gorffennaf i fwynhau gweithgareddau awyr agored ar y Fenai ac ar dir sych!
PELRWYD YSGOL Y BORTH
Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn mwynhau chwarae pelrwyd yn yr ysgol ac ymarfer at dwrnament yr Urdd. Cawsom amser braf iawn pan ddaeth Blwyddyn 6 Ysgol Llandegfan draw i fwynhau prynhawn cyfan o gemau pelrwyd. Roedd yn gyfle gwych i lawer ohonom gael chwarae ac yn ymarfer pwysig ar gyfer y genod oedd yn mynd i'r twrnament.
LLWYDDIANT TWRNAMENT YR URDD
Roedd pawb yn hapus dros ben ar ol ennill cystadleuaeth "Y Plat" yng Nghanolfan Brailsford fel rhan o dwrnament yr Urdd. Roedd 10 ohonom wedi cael chwarae yn y 6 gem, a phawb wedi chwarae rhan bwysig yn ein llwyddiant.
Da iawn, genod!
Pan aeth blwyddyn 6 i ymweld a Ysgol David Hughes, wnaeth blwyddyn 5 actio allan hanes Buddug (Boudica). Mi oedd Buddug yn brenhines y llwyth Iceni a pan roedd y Ryddeiniaid esiau tir hi, casgladd Buddug llawer o rhyfelwyr a ymmosod ar rhai or dynasoedd Rhufeinig mwyaf pwysig: Colchester, Llyndain a St. Albans.
Cawsom llawer o hwyl yn canu caneuon a creu a peintio propiau, a peintio ei gwynebau.
Diolch i Miss McCann roedden ni wedi creu fidio canu a dawns amdan Buddug!
Joanna
Roedden ni wedi mynd i Gaergybi i gymryd rhan mewn twrnament pel droed. Aelodau'r tim oedd ni'n dau, Zack, Finley, Enzo, Ollie John, Charlie ac Evan ac roedd Mr Jones yn rheoli ni. Roedden ni wedi ennill y ddwy gem gyntaf ond wedyn wnaethon ni golli 3 a chael gem gyfartal. Doedden ni ddim wedi cael allan o'r grwp.
Wedyn, ar ol rhai wythnosau cawsom gyfle i chwarae ar gae'r ysgol yn erbyn Ysgol Llandegfan a dau tim arall o Ysgol y Borth (y llun ar y chwith yw ein tim ni). Roedd Llandegfan wedi ennill 4 gem ac roedd Borth 6/gwyrdd (ni, mae y tim yn ni, Zack, Finley, Jac, Enzo a Macsen) wedi ennill 4 hefyd ac oedden ni ddim ond wedi colli 2 gem.
Ollie a Jayden
rydan ni wedi creu potiau celtiadd gan defnyddio clai a dwr. roedd angen i ni wneud sylfein efo clai, wedyn gwneud roliau a pheli i'w arddurno. roeddwn ni wedi paentio y potiau hefo'r lliwiau aur a choch. wnaethon ni gael llawer o hwyl yn gwneud y prosiect yma.
Louie
Aeth rhai plant o'r dosbarth yma i'r cae criced i chwarae mewn twrnament criced gyda phlant o ysgolion eraill lleol.
Aethon ni i Treborth i gymryd rhan mewn ras trawsgwlad Ynys Môn hefo llawer o ysgolion eraill. Wnaethon rhedeg am un milltr. Roedd angen i ni rhedeg o gwmpas y cae rygbi ddwy waith a mynd i fyny i rhedeg o gwmpas y trac ond ar y gwair, a wedyn dod yn ol i'r llinell derfyn. Roedd Ollie wedi dod yn 48fed ac roedd Isaac wedi dod yn 14fed. Wnaethon ni gerdded dros y Bont i fynd i'r trawsgwlad. Roedd hogiau blwyddyn 3 a 4 wedi rhedeg gyntaf, wedyn y genod blwyddyn 3 a 4. Ar ol hynny wnaeth hogiau blwyddyn 5 a 6 redeg ac yn olaf roedd genod blwyddyn 5 a 6.
Aethon ni i Henllys i chwarae golff a dysgu pethau am dan golff a sut i daro pel golff yn dda. Roedd o'n llawer o hwyl yn trio taro'r bel yn bell. Cawsom gyfle i bytio'r bel i'r twll, taro'r bel yn ysgafn (chip) a hefyd taro'r bel yn bell (drive).
Ollie
Rydym ni wedi bod yn symud yn y dosbarth wrth ddilyn fideo curiad corfforol "simple body percussion". Roedd angen canolbwyntio i'w wneud yn iawn ac roedd yn llawer o hwyl.
Gwasanaeth Dosbarth 7, Mai 20fed: Gosod Sylfeini Cadarn
Gwnaeth bawb fwynhau cymryd rhan yn y gwasanaeth o flaen yr ysgol gyfan. Gobeithio wnewch chi fwynhau gwylio'r fideo.
Ein neges oedd ei bod hi'n bwysig gweithio'n galed, dyfalbarhau a gwrando ar gyngor. Gwnaethom rannu ein dyheadau am y dyfodol, gan gofio bod angen i ni fod yn uchelgeisiol a thrio ein gorau ym mhob dim rydan ni'n ei wneud.
Beth am ddarllen gwaith Isaac a Joanna am ein perfformiad o un o ganeuon y Beatles?
Garddio mewn potiau
Ar ôl plannu'r tatws, y brocoli a'r ffa dringo mewn potiau tu allan i'r dosbarth, y gwaith pwysig ydy gofalu amdanyn nhw. Rydym wedi bod yn brysur yn gorchuddio dail y tatws efo pridd ac yn clymu'r planhigion brocoli mewn ffyn. Mae'n bwysig ein bod yn cofio rhoi dwr i'r planhigion hefyd wrth gwrs!
Jamboard
Cafodd pawb hwyl dda yn cofio beth wnaethon nhw ei ddysgu ar yr ymweliad â thai Celtaidd Melin Llynon yn ddiweddar. Roedd dysgu sut i osod y wybodaeth ar y Jamboard yn llawer o hwyl hefyd.
Rasys trawsgwlad Ardal Porthaethwy
Ar y 5ed o Fai aeth pawb o Bl3 - 6 i redeg ar y cae rygbi. Roedd yna llawer o ysgolion eraill yno. Roedd Bl 3 a 4 yn rhedeg gyda'i gilydd a Bl5 a 6 yn rhedeg gyda'i gilydd.
Isaac, Bl6
Mi wnes i ddod yn 11eg yn y 15 cyntaf. Roedd hi'n anodd rhedeg ar y gwair. Ar ol gorffen roeddwn i wedi blino ond yn hapus.
Erin, Bl5
Wnaethon ni redeg 3/4 milltir. Bydd y 15 cyntaf o bob ras yn mynd i redeg efo plant o Ynys Mon i gyd. Wnes i, Ollie Wood, Ollie John ac Enzo ddod yn y 15 cyntaf.
Isaac, Bl6
Lluniau ymweliad Blwyddyn 5 a 6 â thai Celtaidd Melin Llynon
Bore 'ma (dydd Gwener 8fed o Ebrill) mi wnaethom ni ddefnyddio offerynau taro a phiano i chwarae "With a little help from my friends" gan The Beatles. Roedd o'n hwyl yn chwarae'r gerddoriaeth yn y dosbarth. Mi oedd rhaid taro'r offerynnau ar yr amser cywir neu bob dau curiad. Roedd y piano yn creu cordiau i fynd efo fo.
Joanna a Macsen
Dydd Mawrth Ebrill 5ed wnaethom ni wneud Dawnsio Gwerin fel ein ymarfer corff. Cawsom lawer o hwyl yn gwneud Cylch y Cymry a'r Clocsio. Mi wnaeth rhai plant ddim cael llawer o hwyl yn gwneud Cylch y Cymry, ond roedd pawb wedi dawnsio Y Delyn Newydd yn dda iawn.
Erin Bl5
The Beatles
Dydd Mercher 6ed o Ebrill, wnaethom ni wrando ar hen recordiau The Beatles. Roedden ni wedi defnyddio chwaraewr record pren Anti Gwenfron. Mi oedd y caneuon yn dda iawn a doedd o ddim llawer yn wahanol na chwarae CD modern. Mi oedd yna tri record yn cynnwys dau neu pedwar can yr un. Mi oedd y recordiau yn fawr ac yn ddu gyda llinell ddu tywyll lle roedd y can yn gorffen. Mi oedd rhaid i chi rhoi y nodwydd ar y record i'w chwarae.
Joanna Bl5
Ar ôl gweithio'n galed yn ymchwilio, arlunio, ysgrifennu cyfarwyddiadau, dylunio label a gwneud gwaith mathemateg i benderfynu ar gost, mae ein crysau T yn barod i'w gwerthu.
Bargen am £3.99!
Arbrofi efo ciwbiau rhew
Roedden ni'n gorfod gwneud arbrawf gyda rhew lle roedden ni'n trio dweud beth sy'n mwy effeithiol i oeri dwr, llawer o rhew bach neu un ciwb mawr. Roedden ni wedi dysgu bod y ciwbiau bach yn oeri y dwr yn gyflymach na'r ciwb mawr ond roedd grwp Macsen, Joanna, Ellie a Nathaniel yn dweud bod y ciwb mawr wedi oeri'r dwr yn fwy, ond doedd o dim ond 0.3 gradd Celsius o wahaniaeth. Roedden ni wedi cael llawer o hwyl gyda'r synhwyrydd newydd, roedd ni'n gorfod trio cael y dwr ar yr un tymheredd cyn wneud yr arbrawf.
Ollie BL6
Ail greu Protest Lerpwl
Roedden ni wedi ail greu protest trigolion Capel Celyn yn Lerpwl. Cawsom lawer o hwyl yn chwarae pobl o Capel Celyn a cael ein cyfweld gan newyddiadurwr. Wnaeth o gymryd llawer o amser i greu sgript ac mi oedd yn hwyl yn creu'r baneri.
Joanna Bl5
Roedden ni wedi ail-greu protest Lerpwl ar yr iard. Cawsom lawer o hwyl yn creu y posteri ac ymarfer bob dydd yn ail greu y newyddion o Capel Celyn yn 1960. Roeddwn i wedi mwynhau gwneud hyn.
Ruby Bl5
Aethom ni ati i ail greu protest Lerpwl allan ar yr iard. Cawsom ni lawer o hwyl yn creu posteri a creu sgript. Wnawsom ni ymarfer y sgript bob diwrnod. Cawsom ni hwyl dda yn ffilmio . Mi wnes i fwynhau yn fawr iawn yn gwneud hyn.
Erin Bl5
Ein Newyddion Rhedeg
Ar 6ed o Fawrth roedd llawer o blant ein dosbarth wedi rhedeg 1.2 milltir yn ras Gwib y Ddraig. Aethon ni dros y bont a wedyn mynd heibio Waitrose a'r Anglesey Arms ac wedyn mynd o dan y bont a heibio Dylans cyn rhedeg i fyny'r allt a gorffan yn y maes parcio. Cafodd pawb ddiod a da da a medal am gwblhau'r ras. Roeddwn i wedi blino ond roeddwn i wedi mwynhau yn fawr iawn.
Evie Bl6
Hanes Boddi Cwm Tryweryn
Daeth Megan o gwmni Mewn Cymeriad a stori boddi Cwm Tryweryn yn fyw! Ar ol y sioe, buom yn brysur yn creu baneri er mwyn ail-greu'r brotest yn Lerpwl.
Yn 1956 trefnodd trigolion Capel Celyn orymdaith yn Lerpwl i drio perswadio Cyngor Dinas Lerpwl i beidio boddi'r cwm. Methiant fu eu hymgais a bu'n rhaid i bawb symud oddi yno.
Diwrnod y Llyfr 2022
Cawsom hwyl yn trafod y mathau gwahanol o lyfrau ac yn astudio barddoniaeth Gwyneth Glyn ar Ddiwrnod y Llyfr. Bu rhai ohonom yn siarad am ein hoff lyfrau hefyd.
Roedd gosod y gerdd 'Hunaniaeth' yn y drefn gywir wedi ein helpu i sylwi ar batrwm yr odli.
Gwaith Cartref - Cronfeydd Dwr
Roedd dosbarth 7 wedi dewis 3 gofodwyr newydd i fynd ar roced i'r gofod. Roedd angen gwneud "diamond rank" i dewis y gofodwyr gorai i fynd i'r gofod.
Oedd rhai ohonin ni wedi mund i yr traws glad.Oedd blwyddin 3,4,5 a 6 wedi dod heddyd. Oedd fi goro wneud 2 lap! Oedd o yn mwdlud iawn iawn iawn.
( Gan Hanen )
Roedd rhai o pobl wedi dewis fynd i Traws Gwlad i rhedeg ac roedd blwyddyn 3 4 5 a 6 wedi cael fynd i Traws Gwlad i rhedeg.Roedd y Traws Gwlad yn hwyl ac roedd on fwdlyd iawn ac roedd sanau a eisgidiau yn socian ac roedd on anghyffyrddus.Roedd 5 a 6 yn gorfod wneud 2 lap rownd yr track ac roedd 3 a 4 yn gorfod wneud 1 lap.