Fy enw i yw Abdullah. Rydw i'n byw ym Mhorthaethwy. Fy mhenblwydd i yw yr 17 o Ionawr. Fy hoff fwyd i yw pitsa, byrger, ciwcymber a dipyn bach o letys, a siocled. Dydw i ddim yn hoffi bwyta tomato, nionyn na madarch. Dwi'n hoffi mynd am trip neis efo'r teulu. Yn yr ysgol rydw i yn mwynhau chwarae tenis, taflu y pel i partner a rhedeg ar y trac. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy bod yn ddoctor. Fy hoff ffrindiau i ydy Ethan, Nathaniel a Tomos.
Fy enw i yw Agnes. Mawrth y 28ain yw fy mhenblwydd. Dwi'n byw ym Mhorthaethwy. Fy hoff fwyd yw pitsa ham a pinafal, a ciwcymber. Dydw i ddim yn hoffi bwyta tomatos na madarch. Fy niddordebau ydy dringo a nofio. Fy hoff anifeiliaid yw cath a teigr. Yn yr ysgol rydw i'n mwynhau chwarae hefo ffrindiau a gwneud mathemateg. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy bod yn plymiwr tanddwr. Mae gen i ddwy gath o'r enw Sid a Bychan. Fy hoff ffilm yw The Avengers End Game. Fy hoff raglen teledu ydi Horrible Histories
Fy enw i yw Amelia-Lily. Rydw i'n cael fy mhenblwydd ar Ionawr 21ain ac rydw i'n 9 oed. Rydw i'n byw ym Mhorthaethwy gyda mam, dad, fy chwaer fach , fy mrawd bach a'r ci. Fy hoff fwyd yw pitsa peperoni a ham. Dydw i ddim yn hoffi bwyta brocoli na blodfresych. Rydw i'n hoffi canwio a mynd i'r parc efo fy ffrindiau. Rydw i'n mwynhau gwylio Frozen Planet ar y teledu. Yn y dyfodol fyswn i'n hoffi bod yn hyfforddwr gymnasteg.
Fy enw i yw Angel. Rydw i yn byw ym Mhorthaethwy. Mae gen i 2 ci o'r enw Lemmie a Ted . Mae fy ngwallt yn binc. Tachwedd 1af yw dyddiad fy mhenblwydd. Fy niddordebau yw chwarae pel rwyd a chwarae Roblox hefo Ruby. Fy hoff fwyd yw bara garlleg. Dydw i ddim yn hoffi bwyta, bwydydd sbeislyd a torth ffrwythau. Yn yr ysgol , rydw i'n mwynhau amser cinio a'r bwyd blasus mae Anti Nia yn ei goginio. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy achub anifeiliaid.
Fy enw i yw Annie. Rydw i'n 9 oed. Rydw i'n byw yn Llandegfan. Mawrth yr 20fed yw fy mhenblwydd. Fy hoff fwyd yw pitsa sy'n cael ei wneud adref. Dydw i ddim yn hoffi olives. Fy niddordebau yw dringo, nofio a gwyddoniaeth. Yn yr ysgol fy hoff bethau yw gwneud gwyddoniaeth, maths a hanes. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy bob yn gwyddonydd neu hyfforddwr plymio tanddwr.
Fy enw i yw Brython ac rydw in byw ym Mhorthaethwy. Mae fy mhenblwydd ar Awst 15fed ac roeddwn i wedi cael fy ngeni yn 2013. Fy hoff bwyd yw siocled, pitsa, afalau a mwy. Dydw i ddim yn hoffi bwyta brocoli, pys, a mwy o lysiau. Fy niddordebau ydy reidio beic, chwarae gemau, a mwy.
Yn yr ysgol, rydw i yn hoffi mathemateg, gwyddoniaeth a celf. Pan rydw i'n tyfu fyny rydw i eisiau bod yn youtuber. Fy hoff lyfr yw 'the bad guys' ond rydw i eisiau gwylio y ffilm un diwrnod (oherwydd dydw ddim wedi gwylio fo o'r blaen).
Fy enw i ydy Cai a dwi'n byw ym Mhorthaethwy. Mehefin 11eg yw fy mhenblwydd. Fy hoff fwyd ydy pitsa o +39. Dydw i ddim yn hoffi bwyta cabaij coch. Fy hobi ydy reidio fy sgwter. Yn yr ysgol dwi'n mwynhau ysgrifennu. Fy ngobaith ydy bod yn plymiwr tanddwr i helpu anifeiliaid.
Fy enw i ydy Efa ac rydw i yn 10 oed. Rydw i'n byw ym Mhorthaethwy. Medi y 24ain yw dyddiad fy mhenblwydd. Fy hoff fwyd yw pitsa. Dydw i ddim yn hoffi madarch a nionod. Fy hoff niddordebau ydy pel rwyd a gymnasteg . Yn yr ysgol rydw i yn hoffi chwarae hefo fy ffrindiau a gwneud mathemateg. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol yw bod yn berchennog ar siop anifeiliad anwes neu bod yn model. Rydw i yn hoffi gwylio ffilmiau fel The Greatest Showman a hoffi mynd i'r traethau. Rydw i yn hoffi mynd i siopio dillad ond dydw i ddim yn hoffi siopa bwyd. Rydw i yn byw efo Mam, Dad, Steffan fy mrawd.
Fy enw i ydy Erin. Rydw i'n byw ym Mhorthaethwy. Mawrth yr 22ain yw dyddiad fy mhenblwydd. Rydw i yn 10 oed. Fy hoff fwyd yw caws, siocled a pasta. Dydw i ddim yn hoffi mwstard a madarch. Fy niddordebau yw nofio, rhedeg, adrodd a chanu. Yn yr ysgol , rydw in mwynhau mathemateg, amser cinio, amser chwarae, amser mynd adra a'r Eisteddfod. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy cael llwyfan yn yr Eisteddfod. Yn fy amser rhydd rydw i'n mwynhau chwarae allan hefo fy ffrindiau. Fy ffrindiau gorau yw Angel, Ruby, Ruby - Jo , Poppy , Joanna, Tesni a Ellie. Mae gen i frawd bach ac mae o yn 7 oed ac mae o'n boen go iawn. Rydw i eisiau mynd i Awstralia ac i'r Eidal ar wyliau cyn bo hir. Fy hoff ystafell yn y ty yw'r gegin oherwydd rydw i wrth fy modd hefo bwyd. Fy hoff lliw yw gwyrdd lliw mint.
Helo, fy enw i yw Ethan Watkin Jones ac rydw i yn byw ym Mhorthaethwy, yn Stryd y Fron Heiliog. Dyddiad fy mhenblwydd ydi Tachwedd y 19eg, 2011. Rydw i ym mlwyddyn 6 blwyddyn yma. Fy mwyd gorau yw peli cig. Dydw i ddim yn hoffi bwyta caws. Yn yr ysgol rydw i yn mwynhau hanes amdan yr ail ryfel byd, a gwyddoniaeth. Fy niddordebau yw hwylio fy nghwch yn Clwb Hwylio Y Felinheli gyda fy ffrindiau. Hefyd rydw i yn mwynhau beicio mynydd a rhedeg. Fy ffrindiau gorau yw Nat, Abdullah a Tomas. Yn y dyfodol rydw i eisiau bod yn peilot yn y Royal Air Force, (RAF). Rydw i'n hoffi adeiladu awyrennau i fy ystafell wely.
Fy enw i yw Ewan ac rydw i yn byw yn Talwrn. Rydw i`n 10 oed. Hydref y 1af yw fy mhenblwydd. Fy hoff fwyd yw caramel, pitsa a siocled ond dydw i ddim yn hoffi brocoli. Fy niddordebau ydy chwarae pel droed, ac yn yr ysgol rydw i'n mwynhau maths ac ymarfer corff. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy bod yn pel droediwr. Fy hoff tim pel droed yw Paris Saint Germain. Rydw i yn hoffi chwarae Fifa. Fy hoff lliw yw glas. Fy hoff ddiod yw siocled poeth ac oer, Lucozade, a Fanta. Rydw i yn hoffi gwylio Youtube a Tiktok. Fy hoff can yw Freestyle LOL, Martin and Gina, Hold On, Peter Pan a llawer o ganeuon eraill.
Fy enw i yw Hanen. Rydw i yn 9. Rydw i'n byw ym Miwmaris. Mawrth y 28ain yw dyddiad fy mhenblwydd. Fy hoff fwyd ydy sglodion a siocled poeth. Dydw i ddim yn hoffi radis a pys. Fy niddordebau ydy siarad i anifeiliad a coed. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy bod yn ffarmwr a aralinidd. Rydw i yn hoffi helpu fy taid a fy ewythr.
Fy enw i ydy Imaani. Rydw i'n cael fy mhenblwydd ar 19eg o fis Mawrth. Rydw i'n byw ym Mhorthaethwy efo fy nheulu. Fy niddordebau ydy tynnu lluniau a lliwio a chreu pethau. Rydw i wedi creu cynheswyr braich allan o hen sanau! Rydw i'n mwynhau chwarae allan efo fy ffrindiau yn y parc neu ar y stryd lle rydw i'n byw. Fy hoff fwyd ydy cinio dydd Sul fy nain. Mae hi'n gwneud cinio dydd Sul arbennig o flasus! Dydw i ddim yn hoffi nionod.
Fy enw i yw Jack. Tachwedd y 22ain yw fy mhenblwydd. Rydw i 9 flynedd oed. Fy hoff fwyd yw bysau pysgodyn. Dydw i ddim yn hoffi bwyta caws. Fy niddordebau ydy pel droed, nofio, chwarae hefo fy ci Rolo sydd yn 1 flynedd oed a chwarae ar fy PS5. Yn yr ysgol, rydw i'n mwynhau hanes. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy bod yn bensaer. Mae gen i frawd mawr o'r enw Hari sydd yn 13 flynedd oed.
Fy enw i ydy Joanna. Rydw i yn 10 mlwydd oed. Ebrill y 13eg yw dyddiad fy mhenblwydd. Rydw i yn byw ym Mhorthaethwy. Rydw i yn mlwyddyn 6 yn Ysgol y Borth. Fy hoff fwyd yw pei pysgod. Rydw i yn casau cyw iar. Fy niddordebau ydy darllen a dawnsio tap. Yn yr ysgol rydw i yn mwynhau darllen, ysgrifennu ,hanes, gwaith map a gwaith chromebook. Rydw i bob tro yn edrych ymlaen at y sioe Nadolig. Fy hoff beth i'w wneud yn fy amser rhydd yw darllen a chwarae ar y stryd. Fy hoff anifeiliaid yw cathod a ceffylau. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy bod yn ddoctor yn Cancer Reasearch UK. Adre mae gen i gath o'r enw Casper. Mae o'n ddu a gwyn ac yn 13 blwyddyn yma. Mae gen i frawd o'r enw David ac mae o'n 12 mlwydd oed. Mae David yn chwarae gitar ac rydw i yn chwarae piano. Fy hoff fiflm yw Hotel for Dogs ac fy hoff lyfr yw The Secret Garden gan Frances Hodgson Burnett. Fy hoff lliw yw piws gola.
Fy enw fi yw Kai. Rydw i'n 9 oed ac yn byw ym Mhorthaethwy. Mae fy mhenblwydd ar Tachwedd 30ain 2012. . Fy hoff fwyd yw pitsa, byrgyrs, a peidio anghofio amdan nygets cyw iar. Fy hoff ffilm Calan Gaeaf yw Goosebumps 2 ond fy hoff ffilm go iawn yw Harry Potter and The Goblet of Fire. Mae Goosebumps 2 yn arswyd a chomedi, ond mae cyfres Harry Potter yn ddirgerwch ac yn antur.
Helo, fy enw ydy Leo. Roeddwn i wedi cael fy ngeni yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor a mae fy mhenblwydd ar Mawrth y 7fed. Fy hoff fwyd yw pitsa ham a pinafal a cacan siocled, a dydw i ddim yn hoffi bwyta brocoli, pys, donyts a da-das. Fy niddordebau ydy chwarae peldroed a chwarae Fifa ar yr XBox. Yn yr ysgol rydw i'n mwynhau mathemateg a chwarae tu allan efo fy ffrindiau a fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy bod yn arlunydd.
Fy enw i ydy Lois. Mehefin 20 yw dyddiad fy mhenblwydd. Fy hoff fwyd ydy pitsa. Dydw i ddim yn hoffi bwyta grawnwin. Fy niddordebau ydy chwarae pel droed a pel rwyd. Yn yr ysgol, rydw i' n mwynhau gwneud lluniau. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy gweithio mewn siop. Ar ol ysgol rydw i yn hoffi mynd i'r parc. Rydw i yn hoffi crempog a cacen siocled a pasta , ac rydw i yn hoffi yfed Diet Coke a pepsi a doctor peper red bull a dwr sparkling. Mae gen i ddwy gath sef Jaffa a Fatboy ac un ci o'r enw Bruno . Rydw i yn hoffi chwarae ar xbox a chwarae efo fy ffrindiau yn yr ysgol o'r enw Connor, Efa, Nikkita, Leo Ewan, Ruby, Nat ,Erin, cai yasmine , Angel, Jack ,Poppy , Annie, Agnes , Amelia-lili , Mathew , Joanna , Ruby Jo , Hannan , Ethan, kai, Brothon, Hanen, Effan, Layla, Abdullah, Tomas, mrs Edwards, mrs williams. a hoffi bechdan caws ac mae fi yn hoffi gliliai gamae pel droed Rydw i yn hoffi soportio manchester unated ac Liver pwel yn fy hof gemie i gwiliay ar teledy yn ty fi
Fy enw i ydy Nat ac rydw i yn bwy ym Mhorthaethwy.Rydw i wedi cael fy ngeni ar Mawrth y chweched. Fy hoff fwyd yw pitsa peperoni a ham. Fy niddordebau yw dringo, padl fyrddio, nofio, mynd i Scouts, chwarae y gitar, chwarae criced, a hwylio, reidio beic, go cartio, chwarae paintball a roller bladio. Yn yr ysgol rydw i yn hoffi gwneud ymarfer corff a gwneud mathemateg. Dydw i ddim hoffi bwyta llysiau sydd ddim yn peppers, tatws, moron neu nionod. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy bod yn mecanic a gallu chwarae'r gitar yn dda. Fy hoff gem i chwarae ydy Minecrft neu Forza Horizon 5 neu Fall Guys. Fy hoff anifeiliaid ydy ci, panda a koala. A dwi'n hoffi mynd i'r traeth ac i'r gwely. Y llefydd dwi eisiau mynd yn y dyfodol ydy America, Awstraila, ac Yr Alban. Fy hoff liw ydy gwyrdd. Fy ffrindiau gorau ydy Abdullah, Tomas, Ethan, Jayden, Louie ond mae Louie a Jayden wedi mynd i Ysgol David Hughes.
Fy enw i ydy Nikkita. Rydw i'n byw ym Mhorthaethwy. Gorffennaf 7fed ydy dyddiad fy mhenblwydd. Fy hoff fwyd ydy caws macaroni a pitsa caws. Rydw i'n yfed dwr.
Fy enw fi ydi Poppy. Rydw i yn byw ym Mangor, yn 9 Myn y Grug. Mai y 7fed yw fy mhenblwydd.Fy hoff fwyd ydi mac and cheese a pitsa pepperonni. Dydw i ddim yn hoffi jam a pys. Fy niddordebau ydy canu a sglefrio, ac yn yr ysgol rydw i'n mwynhau mathemateg, Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydi bod yn actor.
Fy enw i yw Ruby. Rydw in byw ym Mhorthaethwy. Medi y 9fed yw dyddiad fy mhenblwydd. Fy niddordeb yw chwarae pel-rwyd. Rydw i eisiau bod yn chwaraewr pel rwyd pan rydw i'n hyn. Rydw i wrth fy modd hefo fy nghath Fluffy. Yn yr ysgol, rydw i'n mwynhau amser cinio a mynd ar y chromebooks.
Fy enw i ydi Ruby Jo ac mae fy mhenblwydd i ar y 11eg o Fedi. Mae gen i ddwy chwaer, un fach ac un fawr. Fy hoff lliw yw glas. Fy hoff anifail yw ci, ac mae gen i gi a cath. Fy hoff fwyd ydi selsig a stwnsh efo dipyn o ffa gwyrdd. Dwi ddim yn hoffi bwyta olifau. y Yn yr ysgol dwi'n mwnynhau ysgrifennu, creu pethau, lliwio a nofio. Pan dwi'n hynach dwi eisiau bod yn filfeddyg.
Helo, fy enw i ydy Tomas. Rydw i yn byw ym Mhorthaethwy. Hydref y 15fed yw dyddiad fy mhenblwydd. Fy hoff fwyd yw pitsa a siocled. Dydw i ddim yn hoffi bwyta mayonnaise. Fy niddordebau ydy bocsio. Yn yr ysgol rydw i yn mwynhau mathemateg ac ymarfer corff. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy gweithio ym mwyty fy nhad. Fy hoff tim pel droed yw Lerpwl.
Fy enw i ydy Yasmine. Rydw i'n byw ym Mhorthaethwy. Tachwedd y 28 yw dyddiad fy mhenblwydd. Fy hoff fwyd ydy pitsa. Dydw i ddim yn hoffi bwyta llysiau. Fy niddordebau ydy darllen a nofio. Yn yr ysgol, rydw i'n mwynhau darllen a mathemateg. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy actio. Rydw i yn 9 oed. Mae gen i chwaer fach sydd yn 2 oed. Mae gen i gathod o'r enw Baby a Princess, un mawr ydy Baby ac un fach ydy Princess.