Map Meddwl

Map Meddwl

Beth:

  • Crynhoi nodiadau mewn un lle.

  • Creu nodiadau byr am bwnc/thema/cymeriad.

Sut:

1. Rhowch y prif syniad neu bwnc yng nghanol y dudalen a rhowch gylch o’i gwmpas. Dyma’r man cychwyn.

2. Ychwanegwch eiriau allweddol neu ymadroddion o’i gwmpas yna defnyddiwch linellau i gysylltu’r canghennau lefel un i’r prif syniad.

3. Yn ôl yr angen, cysylltwch eiriau allweddol pellach i’r canghennau lefel un.

(Dyma’r canghennau bach)

4. Os oes angen. Ychwanegwch fwy o ganghennau i’ch canghennau bach.

Mapiau Meddwl.pdf

Esiamplau:

Cofiwch:

• Defnyddiwch eiriau allweddol neu ymadroddion, nid brawddegau llawn.

• Defnyddiwch ddarluniau a lliw i helpu sbarduno’r cof.

• Ceisiwch roi trefn i’r pwysigrwydd wrth i chi dorri’r wybodaeth i lawr.

• Cadwch y map meddwl i un ochr.

Pam:

  • Arddull dda i ddefnyddio fel poster adolygu.

  • Strategaeth syml sy'n dangos cysylltiadau ar draws y thema.

  • Addas ar gyfer pob pwnc/testun.