Derbyn/bl 1 / Reception/year 1

Gwaith cartref - 18.9.20 / Homework - 18.9.20:

Ein thema ni'r tymor hwn yw 'Fi, Ti a'r Byd'. Eich gwaith cartref yw creu hunan bortread o'ch hun. Gallwch ddefnyddio un rhywbeth y dymunwch i greu'r hunan bortread e.e. pensiliau neu beniau ffelt, creonau, paent, collage, bwyd, pethau naturiol ayyb. Gweler syniadau isod. Edrychwch yn ofalus mewn drych i weld pa liw llygaid, gwallt, croen, gwefus ayyb sydd gennych. Gallwch labeli eich hunanbortread os dymunwch. Mae croeso i chi lwytho llun ar gyfrif Seesaw eich plentyn trwy ddilyn y cyfarwyddiadau uchod neu ar ein cyfrif Trydar (@ygcwmbran).

Our theme this term is 'Fi, Ti a'r Byd' (You, me and the world). Your homework this week is to create a self portrait. You can use anything you wish to create your self portrait e.g. pens or pencils, crayons, paint, collage, food, natural items etc. See some examples below. Look closely at your face in the mirror. What colour eyes, hair, skin, lips etc do you have? You can label your self portrait if you wish. You are welcome to post your pictures on your child's Seesaw account by following the instructions above or on the school Twitter account (@ygcwmbran).

Gwaith Cartref - 25.9.20 / Homework - 25.9.20:

Patrwm / Pattern:

Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn edrych ar wahanol batrymau. Patrymau yn yr amgylchedd, patrymau mewn natur, patrymau ailadroddus a phatrymau cymesur. Isod mae enghreifftiau o batrymau rydym wedi bod yn eu gwneud yn y dosbarth.

This week, we have been looking at different patters. Patterns in the environment, in nature, repetitive patterns and symmetrical patterns. Below are some examples of the patterns we have been doing in class this week.

Eich gwaith cartref yr wythnos hon yw chwilio am batrymau yn y tŷ ac yn yr awyr agored. Mae croeso i chi dynnu llun o'r patrwm a phostio'r lluniau ar eich cyfrif Seesaw, neu ludo'r lluniau yn eich llyfrau gwaith cartref. Yn ychwanegol, ydych chi'n gallu creu patrwm ailadroddus eich hun? Gallech ddefnyddio un rhywbeth y dymunwch e.e offer tŷ, gwrthrychau o'r ardd, bwyd, paent, torri a gludo lluniau allan o gylchgronau ayyb.

Your homework this week is to search for patterns around the house and in the outdoor environment. You are welcome to take pictures of these patterns and post them on your Seesaw account or stick them in your homework books. In addition to searching for patterns, can you create your own simple repetitive pattern? You can use anything you wish e.g. household items, garden/natural objects, food, paint, magazine cuttings etc.

Darllen / Reading:

Dewch i ddarllen 'Ar y bws'.

Come and read 'Ar y bws'.

7 May, 2020 - Loom Recording.mp4

Tasg 1:Pwy neu beth sydd ar y bws? Ar ôl darllen y llyfr, trafodwch gydag oedolyn.

Tag 2: Ydych chi'n adnabod y llythrennau glas canlynol?

Tasg 3: Ydych chi'n gallu darllen ac adnabod yr eirfa glas ganlynol? Beth am greu rhestr o'r eirfa yn eich llyfrau gwaith cartref?

Task 1: Who or what is on the bus? After reading the book, discuss this with an adult.

Task 2: Do you recognise the following blue letters?

Task 3: Can you read and recognise the following blue words? How about making a list in the back of your homework books?

Gwaith Cartref - 02.10.20 / Homework - 02.10.20:

Yr Hydref / The Autumn

Mae'r tywydd wedi oeri'r wythnos hon ac rydym yn dechrau croesawu'r hydref. Eich gwaith cartref yr wythnos hon yw mynd am dro ac i arsylwi ar y newidiadau o'n cwmpas. Ydych chi'n gallu casglu pethau naturiol e.e mes, dail gwahanol liw, brigau ayyb er mwyn creu llun, collage neu dorch hydrefol? Gallwch greu beth bynnag yr hoffech, felly byddwch yn greadigol. Gweler syniadau isod:

The weather this week has turned a bit colder and we are beginning to welcome the autumn. Your homework this week is to go on an autumnal walk and observe all the changes around us. Can you collect some natural items such as conkers, different coloured leaves, sticks etc and make an autumnal picture, collage or wreath? You are welcome to make anything you like and be as creative as you wish. Here are some ideas:

Tasg ychwanegol / Additional task:

Ydych chi'n gallu darganfod yr eirfa Hydrefol yn y chwilair hwn?

Can you discover the autumnal words in this wordsearch?

Darllen / Reading:

Dewch i ddarllen llyfr Tric a Chlic - Ben

Come and read the Tric a Chlic book - Ben

14 May, 2020 - Loom Recording.mp4

Ar ol darllen y llyfr, trafodwch gydag oedolyn.

Tasg 1: Ydych chi'n gallu darllen ac adnabod yr eirfa melyn ganlynol?

Tasg 2: Beth am ysgrifennu rhestr o eirfa sy'n dechrau gyda'r lythyren 'm' yn eich llyfrau gwaith cartref?

After reading the book, discuss it with an adult.

Task 1: Do you recognise the following yellow letters?

Task 2: Can you write a list of words that begin with the letter 'm' in your homework books?

Gwaith Cartref - 09.10.20 / Homework - 09.10.20:

Mathemateg / Mathematics


Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar adio syml. A fedrwch chi ddefnyddio adnoddau o amgylch y ty neu'r ardd i ymarfer adio 2 rif?

This week, we have been concentrating on simple addition. Can you use resources from around the house or garden to add 2 numbers?

Darllen / Reading:

Dewch i ddarllen stori 'Ble mae'r?' / Come and read the story 'Ble mae'r?'

Bel mae'r.mp4

Tasg 1 / Task 1

Trafodwch bwrpas gofynnod. Ydych chi'n gallu darganfod y gofynnod yn y stori?

Discuss the purpose of a question mark. Can you find the question marks in the story?

Tasg 2 / Task 2 -

Ydych chi'n gallu adnabod ac adeiladu'r eirfa ganlynol allan o'r stori?

Can you practise recognising and building the following words from the story?

moch (pigs) cwch (boat) bath

mwd (mud) het (hat)

ble (Where) wal (wall)

mae (there is) car

Beth am geisio adeiladu'r eirfa isod mewn templed grid pyramid? Gweler enghraifft isod.

How about building the following words using a pyramid grid template? See example below.

Gwaith Cartref - 16.10.20 / Homework - 16.10.20

'Rydyn ni'n mynd i hela arth'

Tasg 1 - Ymchwil eirth / Task 1 - Bear Research:

Rydyn ni wedi bod yn darllen stori 'Rydyn ni'n mynd i hela arth' yr wythnos hon.

We've been reading he story, 'Rydyn ni'n mynd i hela arth' this week. (We're going on a bear hunt)

Tasg 1 - Creadigol / Task 1 - Creative:

Dewch i greu arth fach. Mae croeso i chi greu collage, mwgwd, tynnu llun gyda pinau ffelt neu bensiliau, defnyddio bwyd, pethau nauriol ayyb. Gweler enghreifftiau isod:

Come and create a little bear. You're welcome to make a collage, mask, picture with felt pens or pencils, food, natural items etc. See examples below:

Darllen / Reading:

Dewch i ddarllen stori 'Y gath'. / Come and read the story 'Y gath'.

Yr wythnos hon, beth am ganolbwyntio ar y gair 'Roedd'? Mae pob brawddeg yn dechrau gyda'r gair hwn. Ydych chin adnabod y gair 'Roedd'? Ydych chi'n gallu adnabod y gair 'Roedd' yn y stori heb orfod torri'r gair i lawr? Beth am ymarfer adeiladu'r gair?

This week, how about concentrating on the word 'Roedd'? Every sentence in this story begins with this word. Do you recognise the word 'Roedd'? Can you spot it in the story without having to break down the word? How about practising forming the word?

Y gath- Loom Recording.mp4

Gwaith Cartref - 23.10.20 / Homework - 23.10.20

Mathemateg / Mathematics:

Tasg 1/ Task 1:

Fedrwch chi ymarfer adnabod a ffurfio rhifau 0-20 gydag eich plentyn dros hanner tymor?

Can you practise knowing and forming numbers from 0-20 with your child over half term?

Darllen/ Reading:

Ydych chi'n adnabod y llythrennu melyn yma i gyd? Fedrwch chi ymarfer ffurfio'r llythrennau yn eich llyfrau gwaith cartref neu'n ymarferol. Cofiwch i ddechrau ar y llinell ac ar y smotyn coch bob tro. Gweler y lluniau isod am syniadau. Beth am geisio darllen ac adeiladu'r eirfa isod gyda'r llythrennau rydych chi'n adnabod? Ydych chi hefyd yn gallu darganfod yr eirfa melyn yn y chwilair isod?

Do you recognise all the yellow letters? Can you practice forming the letters below in your homework books or in different resources. Remember to start on the line and on the red dot each time See pictures below for ideas. How about trying to read and build the words below with the letters you recognise? Can you also find the words in the word search below?

Dewch i ddarllen 'Mam, ga i...?

Yn y stori yma mae swigod siarad. Beth yw swigod siarad? Ydych chi'n gallu darganfod y swigod siarad yn y stori?

Come and read 'Mam, ga i...?

This story contains speech bubbles. What is a speech bubble? Can you discover the speech bubbles in the story?

Mam ga i.mp4

Thema / Topic:

Yr wythnos hon rydyn ni wedi bod yn darllen stori Lobscows Sulwen Swyn. Mae Sulwen yn creu Lobscows llawn adnoddau gwahanol. Ydych chi'n gallu helpu eich plentyn i greu lobscows gan ddefnyddio adnoddau o amgylch y tŷ neu yn yr ardd?

This week we have been reading the story ' Lobscows Sulwen Swyn'. Sulwen makes a potion using different resources. Can you help your child create a potion using resources around the house or from the garden?