Llythrennau dwbl tasg 1:
Ydych chi'n adnabod y llythrennau dwbl canlynol? Beth am ymarfer ffurfio'r llythrennau yma? Gallech ddefnyddio pethau o amgylch y tŷ fel pasta, reis, blawd, toes neu ffurfio yn eich llyfrau gwaith cartref.
Double letters task 1:
Do you recognise the following double letters? How about practising forming these letters? You can use household items or food such as pasta, rice, flour or play dough or you can practise forming in your homework books.
Enghreifftiau / Examples:
Llythrennau dwbl tasg 2:
Dyma fat yr wyddor Tric a Chlic. Rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar adnabod llythrennau dwbl yn ddiweddar. Beth am ddefnyddio’r mat i chwilio am lythrennau dwbl a sengl? Ydych chi'n gallu didoli llythrennau dwbl a sengl? Beth am greu cardiau syml gyda'r geiriau 'dwbl' a 'sengl' arnynt? Yna dewiswch gerdyn un ar y tro a chwiliwch am lythyren (dwbl/sengl) sy'n cyfateb.
Double letters task 2:
Here's a Tric a Chlic alphabet mat. We have been concentrating on recognising double letters recently. How about using this mat to search for double and single letters? Can you sort the letters into two groups (double and single letters)? How about making cards with the words 'double' and 'single' on them? Choose a card, one at a time and then find the letter (double/single) to match.
Dewch i ddarllen 'Cacen ych a fi'. Ydych chi'n gallu chwilio am lythrennau dwbl yn y llyfr? Beth am greu cacen 'ych a fi' eich hun?
Come and read 'Cacen ych a fi'. Can you find double letters in this book? How about creating a 'cacen ych a fi' (disgusting cake) of your own?