Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn edrych ar wahanol batrymau. Patrymau yn yr amgylchedd, patrymau mewn natur, patrymau ailadroddus a phatrymau cymesur. Eich gwaith cartref yr wythnos hon yw chwilio am batrymau yn y tŷ ac yn yr awyr agored. Mae croeso i chi dynnu llun o'r patrwm a phostio'r lluniau ar eich cyfrif Seesaw, neu ludo'r lluniau yn eich llyfrau gwaith cartref. Yn ychwanegol, ydych chi'n gallu creu patrwm ailadroddus eich hun? Gallech ddefnyddio unrhyw beth y dymunwch e.e. offer tŷ, gwrthrychau o'r ardd, bwyd, paent, torri a gludo lluniau allan o gylchgronau ayyb.
This week, we have been looking at different patterns. Patterns in the environment, in nature, repetitive patterns and symmetrical patterns. Your homework this week is to search for patterns around the house and in the outdoor environment. You are welcome to take pictures of these patterns and post them on your Seesaw account or stick them in your homework books. In addition to searching for patterns, can you create your own simple repetitive pattern? You can use anything you wish e.g. household items, garden/natural objects, food, paint, magazine cuttings etc.
Beth am ymarfer gorffen a chreu patrwm ar raglen 'Top Marks'. Cliciwch ar y linc isod.
How about practising finishing and making patterns on the maths game 'top marks'.
Wythnos nesaf, byddwn yn dysgu cwlwm tafod 'Pedoli Pedoli'. Cliciwch ar y linc isod i wylio fideo. Cofiwch, mae rhagor o ganeuon a chylymau tafod yn y llyfr i chi ddysgu os dymunwch.
Next week, we will been learning the tongue twister 'Pedoli Pedoli'. Click on the link below to watch the video. Remember, there are more songs and tongue twisters available in the book to learn if you wish.
Yr wythnos hon hefyd, rydyn ni wedi bod yn trafod hunan ofal yn ystod ein prynhawn lles. Dewch i wrando ar gân 'Brwsio Dannedd' Cyw ac ymarfer brwsio eich dannedd.
This week, we have also been discussing self care during our well being afternoon. How about listening to the 'Brwsio Dannedd' (teeth brushing) song on Cyw and practise brushing your teeth.