Hanner tymor

Half term

Fel rydych yn gwybod, ein thema ar gyfer y tymor hwn yw 'Ar ein stepen drws'. Mae gwaith cartref yr hanner tymor wedi'i selio ar y thema hon. Gweler isod:

As you know, the theme for this term is 'On our door step'. The half term's homework is set on this theme. See below:

Hydref 2021.pdf
Dail - Cymraeg.pdf
Dail.pdf

Cystadleuaeth Llaeth y Llan / Llaeth y Llan competition:

Gallwch chi ddylunio ardal tu allan sy’n ymroddedig i hyrwyddo addysg awyr agored ac iechyd a lles disgyblion? Dylech ystyried yr isod yn eich dyluniad gorffenedig:

  • Defnyddio maint yr ardd yn glyfar – dydy maint yr ardd ddim yn gyfyngedig i fod yn fawr neu yn fach (nid yw maint yn bwysig) defnydd clyfar o'r ardal sydd yn bwysig.

  • Mannau eistedd a gweithfannau – ardal ar gyfer darllen/meddwl/sgwrsio/myfyrio

  • Ailgylchu ac uwchgylchu - metel, pren, plastig (beth am ddefnyddio pot iogwrt Llaeth y Llan?)

  • Tyfu a chynaliadwyedd - blodau, llysiau, perlysiau a choed ffrwythau

  • Diogelu bywyd gwyllt a'u cynefinoedd – trychfilod, draenogod, adar, pwll bywyd gwyllt, hyd yn oed ieir!

  • Peillio - annog gwenyn a gloÿnnod byw drwy blannu planhigion sy'n gyfeillgar i bryfed peillio.

  • Pŵer yn yr amgylchedd – goleuadau solar, cerfluniau gwynt ac ati.

  • Compostio – pwysigrwydd lleihau gwastraff bwyd sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.

  • Arbed dŵr – storio dŵr glaw

  • Ymgorffori defnydd storio tu allan

Danfonwch eich syniadau yn ôl i'r ysgol ac fe ddewisiwn ni enillydd o’r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Pob lwc!

Can you design an outdoor space dedicated to promoting health and well-being? We would like you to use your imagination, be innovative and incorporate all your creative ideas, giving thought to using the following themes within your design:

  • Clever use of space - big or small areas (size doesn't matter here)

  • Seating areas and workstations – area for reading/thinking/chatting/meditating

  • Recycling and upcycling - metal, wood, plastic (even using a Llaeth y Llan yogurt pot)

  • Growing & sustainability - flowers, vegetables, foliage, fruit trees - absolutely anything in your space

  • Protecting wildlife and their habitats – bugs and ladybirds, hedgehogs, birds, pond life, even chickens !

  • Pollination - encouraging bees and butterflies by planting pollinator friendly plants

  • Power in the environment – Solar lights, wind sculptures etc.

  • Composting – the importance of reducing food waste going into landfill.

  • Saving water – rainwater storage

  • Incorporate storage solutions


Send your entries back to the school and we’ll choose a winner from the Foundation Phase and one from Key Stage 2.

Pob lwc!

Mwynhewch yr hanner tymor!

Enjoy the half term!