Sillafu / Spelling:
Ydych chi'n gallu ymarfer sillafu’r eirfa ganlynol?
Can you practise spelling the following words?
Beth am ddefnyddio deunyddiau gwahanol er mwyn adeiladu'r eirfa? Dyma rai enghreifftiau isod:
How about using different materials that you can find around the house to build the words? Here are some examples below:
Allwch chi ysgrifennu brawddeg gan ddefnyddio'r geiriau hyn? e.e. Mae het ar y mat.
Can you write a sentence using these words? e.g. Mae het ar y mat. (There is a hat on the mat)
Beth am chwarae gêm Tric a Chlic? Allwch chi guro amser Mr Dobson o 57 eiliad i gael pob ateb cywir?
Why not play a Tric a Chlic game? Can you beat Mr Dobson's time of 57 seconds to get all the answers right?
Isod mae syniadau am weithgareddau hwylus er mwyn datblygu sgiliau llawdrin mawr a llawdrin manwl.
Below are some ideas for fun activities to help develop gross and fine motor skills.
Sgiliau llawdrin mawr-cydbwyso. / Gross motor skills - balance.
Sgiliau llawdrin mawr -Casglu gwrthrychau. / Gross motor skills - collecting objects.
Sgiliau llawdrin manwl - torri. / Fine motor skills - cutting.
Sgiliau llawdrin manwl-bandiau, ewyn eillio a phegiau. / Fine motor skills - bands, foam and pegs.
Fe gychwynon ni greu Supertaten yn y dosbarth ond dydyn ni heb gael y cyfle i orffen. Beth am i chi wneud un o'ch hoff gymeriadau gartref a rhannwch eich crefftwaith gyda ni?
We started creating Supertaten in class but didn't get the chance to finish it. Why not make one of your favourite characters at home and share your workmanship with us?
Dyma ambell syniad - Here are some ideas:
Llinell rif / Number line:
Creu llinell rhif hyd at 10, (neu 30 os ydych yn teimlo'n hyderus) gan ffurfio'r rhifau yn gywir. Gallwch greu'r llinell rif yn eich llyfrau gwaith neu mewn unrhyw ffordd y dymunwch.
Create a number line up to 10 (or 30 if you feel confident), forming all numbers correctly. You can create it in your work books or any other way you wish.
Unwaith mae eich llinell rif yn barod, beth am chwarae gemau rhif gwahanol gan ddefnyddio'r llinell rif? Dyma rai syniadau:
Cuddiwch rif a gweithiwch allan pa un yw e wrth gyfri ar hyd y llinell.
Dewiswch rif - Beth yw un yn fwy ac un yn llai?
Cyfri fesul 2 ar hyd y llinell rhif.
Once your number line is ready, how about playing different number games using the number line? Here are some ideas:
Hide a number and work out which one it is by counting along the line.
Choose a number and then work out what one more and one less than that number is.
Count in 2s along the number line.
Fedrwch chi ysgrifennu y rhifau coll yn y patrymau rhif isod?
Can you write the missing numbers in the number patterns below?
Her / Challenge
Ychwanegol / Extra
Beth am greu patrymau rhif eich hun?
How about creating number patterns of your own?
Cliciwch ar y linc i chware gemau patrymau rhif ar y wefan 'TopMarks'.
Click on the link to play number pattern games on the 'TopMarks' website.
Hoffwn i chi ail ddweud y stori 'Supertaten - Y llysiau yn y Dyffryn Du'. Gallwch wneud hyn drwy greu map stori fel yr enghreifftiau isod, neu os ydych yn gallu creu ffordd wahanol eich hunan, ewch amdani!
I would like you to retell the story 'Supertaten - Y llysiau yn y Dyffryn Du'. You can do this by creating a story map like the examples below or, if you can create your own different way, then go for it!
Beth am ymarfer llythrennau a geiriau Tric a Chlic glas gyda Mrs Jones o ganolfan Peniarth?
How about practising the blue 'Tric a Chlic' letters and words with Mrs Jones from the Peniarth centre?
Dyma geirfa cam glas 'Tric a Chlic' i ymarfer darllen a sillafu. Beth am ymarfer eu sillafu drwy ddefnyddio un o'r technegau isod?
Here are some words from the blue 'Tric a Chlic' stage to practise reading and spelling. How about practising spelling them using one of the techniques below?
Gwrandewch ar y gân 'Teimladau' gan Cyw. Trafodwch beth sy'n effeithio ar eich teimladau gydag aelod o'ch cartref.
Listen to the song 'Teimladau' by Cyw. Discuss what affects your feelings with a member of your household.
Tynnwch lun o'ch hoff atgof hapus.
Draw your favourite happy memory.
Gwrandewch ar y rhaglen 'blociau rhif' ble mae nhw'n trafod tynnu un i ffwrdd, sef un yn llai.
Listen to the 'blociau rhif' programme where they discuss removing one, which is one less.
Un yn llai ac un yn fwy. Yn y daflen waith isod, mae rhif wedi cael ei roi yn y golofn ganol. Ar yr ochr chwith, mae angen tynnu 1 i ffwrdd o'r rhif i wneud 1 yn llai. Yn y golofn dde, mae angen adio 1 ymlaen i wneud 1 yn fwy.
One less and one more. In the worksheet below, a number has been entered in the middle column. On the left side, 1 needs to be subtracted to make 1 less. In the right-hand column, add 1 to the number to make 1 more.
Her / Challenge
Ysgrifennwch rifau eich hunain ac yna gwnewch y symiau 1 yn llai ac 1 yn fwy i fynd gyda phob rhif. Beth yw'r rhif mwyaf fedrwch chi ei wneud?
Write your own numbers in the middle column then calculate 1 less and 1 more to go with each number. What's the greatest number you can accomplish?
Tasg 2 - Un yn fwy ac un yn llai / Task 2 - One more and one less
Ydych chi'n gallu cyfri sawl un sydd yn y bocs, ac yna darganfod beth yw un yn fwy neu un yn llai?
Can you count how many are in the boxes, and then what is one more or one less?
Un/dau yn fwy / One/two more:
Un yn llai / One less
Edrychwch allan trwy'r ffenest neu ewch allan i'r ardd i weld beth mae'r tywydd fel heddiw. Tynnwch lun neu torrwch a gludwch y symbol mwyaf addas i ddisgrifio’r tywydd. Gallwch hefyd ysgrifennu'r gair sy'n disgrifio'r tywydd.
Look out of the window or go into the garden to see what the weather is like today. Draw a picture or cut and glue the most relevant symbol to describe the weather. You can also write the word to describe the weather.
Portreadau o’ch teulu neu athrawon. Hoffwn i chi wneud portread o’ch athro/athrawes dosbarth neu o aelod o’ch teulu. Gallwch wneud y llun gan ddefnyddio pensil yn unig neu mewn lliw. Rhannwch eich lluniau gyda ni ar Seesaw neu drwy eu danfon i’n cyfrif trydar @ygcwmbran.
Portraits of your family or teachers. I would like you to make a portrait of a member of your family or your class teacher. You can make the picture using just a pencil or in colour. Share your photos with us on Seesaw or send them to our twitter account - @ygcwmbran.
Dyma lythrennau gwyrdd (Cam 3) Tric a chlic i ymarfer adnabod a ffurfio. Canolbwyntiwch ar y llythrennau dwbl 'ch' a 'll'. Isod mae syniadau ar sut i ffurfio. Byddwch yn greadigol!
Here are some Green (stage 3) Tric a Chlic letters to practise recognising and forming. Focus on the double letters 'ch' and 'll'. Below are some ideas on how to from letters. Be as creative as you like!
Ffurfio mewn halen neu flawd. /Forming in salt or flour.
Torri a gludo gyda phapur neu gylchgronau. / Cut out and stick with paper or magazines cut outs.
Defnyddio llinyn, paent neu gleiniau / Use string, paint or beads.
Gem Bingo Llythrennau / Letter Bingo Game:
Beth am greu mat llythrennau (fel sydd yn y llun) a chardiau bach gyda llythrennau arnynt ac yna, ceisiwch ffeindo'r llythrennau ar y mat a chyfateb gyda'r cardiau? Gallwch ymarfer ffurfio'r llythrennau hefyd.
How about creating a letter mat (like in the picture) and some letter cards and try and find and match the letters? You can also practise forming the letters if you like.
Dyma eirfa gwyrdd (cam 3) Tric a chlic i ymarfer darllen ac ysgrifennu.
Here are some Green Tric a Chlic words to practise reading and writing.
Ydych chi'n gallu darganfod llythrennau dwbl 'ch' a 'll' yn rhai o'r eirfa wyrdd gyferbyn? Copïwch yr eirfa i mewn i'ch llyfrau a thynnwch lun i gyfateb gyda phob un.
Can you find the double letters 'ch' and 'll' in these words opposite? Copy them into your book and draw pictures to match.
Her ychwanegol / Additional task:
Llythrennau dwbl / Double letters:- ch / ll / th / ff
Ydych chi'n gallu meddwl am fwy o eirfa sydd yn dechrau gyda neu'n cynnwys llythrennau dwbl? e.e. llew / lion, fferm / farm.
Can you think of more words that begin with or include double letters? e.g. llew / lion, fferm / farm.