Ysgrifennwyd y cynllun GRAMA10 fel canllaw i ysgolion cynradd i wella cywirdeb ieithyddol eu dysgwyr.
Mae addysgu gramadeg a chystrawen yn hanfodol ar gyfer cyfathrebu effeithiol, deall iaith a hyfedredd ysgrifennu. Mae addysgu gramadeg yn bwysig ar gyfer pob Maes Dysgu a Profiad ac yn bwysig ar gyfer pob oedran a chyfnod.
Mae addysgu gramadeg a chystrawen yn benodol yn galluogi athrawon i helpu dysgwyr i ddeall sut i wella cywirdeb ac eglurder eu defnydd o iaith.Â
Dylech ystyried addysgu gramadeg o fewn cyd-destun er mwyn gwella dealltwriaeth, manwl gywirdeb, cymhwysiad a throsglwyddiad.
Mae sicrhau sylfaen gref a datblygiad cyson yng ngramadeg a chystrawen yn hwyluso caffael ieithoedd ychwanegol, gan ei fod yn darparu sylfaen ar gyfer deall a chymharu strwythurau ieithyddol.
CYNLLUN GRAMADEG.docx
ADNODDAU PECYN GRAMA10
Dewiswch gategori isod i bori drwy'r adnoddau sy'n cyd-fynd a'r pecyn.