Bob blwyddyn mae Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn gwahodd holl ysgolion Cymru i gystadlu ar brosiectau treftadaeth Cymru gyfan. Dehonglir y gair ‘treftadaeth’ yn y modd ehangaf, i gynnwys pobl a’u hanes cymdeithasol, crefydd, traddodiadau a diwylliant; byd gwaith, amaethyddiaeth, diwydiant, cyllid, masnach, gwyddoniaeth, technoleg, celfyddyd a chwaraeon.
Each year the Welsh Heritage Schools Initiative Committee invites all schools in Wales to enter heritage projects in a nationwide competition. The word "heritage" is interpreted in the widest sense, to include people and their social history, religion, traditions and culture; the world of work, agriculture, industry, finance, commerce, science, technology, arts and sport.