Mae Eco-Sgolion yn rhaglen fyd-eang sy’n ymgysylltu â 19.5miliwn o blant ar draws 70 o wledydd, sy’n golygu mai hon yw’r rhaglen addysgol fwyaf ar y blaned. Datblygwyd gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ym 1994 ac fe’i cynhelir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus.
Mae wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach, tra’n datblygu eu sgiliau allweddol, yn cynnwys rhifedd a llythrennedd, a chwmpasu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Cyngor Cathen sydd a chyfrifoldeb am Eco-Sgolion.
Ein nôd yw creu dinasyddion, egwyddorol gwybodus sy’n dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd y blaned ac yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a'r byd.
Beth yw’r Cyngor Eco? / What is the Eco Council?
Rydyn ni yn edrych ar ôl amgylchedd yr ysgol. Rydyn ni’n gwneud yn siwr ein bod ni’n gwybod am y naw (9) maes pwysig /
We look after the school environment and we make sure that we know about the nine (9) important areas:
1. Dinasyddiaeth Fyd-eang / Global Citizenship
2. Sbwriel / Rubbish
3. Lleihau Gwastraff (e.e. ailgylchu) / Reduce waste (i.e. recycling)
4. Ynni / Energy
5. Dŵr / Water
6. Tir yr ysgol / School grounds
7. Bioamrywiaeth / Biodiversity
8. Trafnidiaeth / Transport
9. Iechyd, Llesiant a Bwyd / Health, Welfare and Food
Byd
Iach
Byd
Hapus