Datganiad Gweledigaeth Eco-Ysgolion Ysgol Cwrt Henri.
Fel cymuned Ysgol Cwrt Henri, rydym yn ffodus ein bod wedi’n lleoli yng nghanol tirwedd wedi ein hamgylchynu gan gaeau, coed a golygfeydd agored Mae’r amgylchedd sydd o gwmpas yr ysgol yn llywio ein gwerthoedd, yn ysbrydoli ein gwerthoedd ac yn ysgogi i ofalu am y byd o’m cwmpas.
Ein gweledigaeth yw meithrin dysgwyr sy’n tyfu’n ddinasyddion Egwyddorol Gwybodus, sy’n deall bod eu gweithredodd bob dydd - boed yn yr ysgol, yn y gymuned, neu artref yn cael effaith ar yr amgylchedd, nawr ac i’r dyfodol trwy:
- Parchu ein hamgylchedd lleol
- Lleihau gwastraff ac ailgylchu
- Defnyddio adnoddau yn gyfrifol.
Drwy roi llais ac arweinyddiaeth i’n disgyblion, ein nod yw datblygu ysgol lle mae cynaliadwyedd yn rhan naturiol o fywyd bob dydd, a lle mae’r genhedlaeth nesaf yn cael eu grymuso i weithredu er lles eu cymuned, Cymru, a’r blaned.