Dull Cyflwyno
Dull Cyflwyno
Pan rydych yn gyflwyno'ch sesiynau e-sgol i fyfyrwyr o ysgolion eraill, byddwch yn elwa o ddefnyddio'r dyfeisiau e-sgol a ddarperir i chi. Mae'r tablet rhyngweithiol yn caniatáu ichi nodi nodiadau ac anodi ar gyflwyniadau Powerpoint a Class Notebook a gellir eu rhannu i'ch myfyrwyr. Bydd y monitor a'r 'webcam' naill ai tu ôl neu uwchben y tablet rhyngweithiol yn caniatáu ichi weld y disgyblion o'u hystafelloedd dosbarth e-sgol. I gael mwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio'r dyfeisiau yn effeithiol yn ystod eich sesiwn e-sgol, cysylltwch ag aelod o'r tîm gan ddefnyddio'r cyfeiriadau e-bost.
Pan nad yw’r ysgol ddarparol a’r athro e-sgol yn gallu addysgu ar wahân i’r dysgwyr, e.e. niferoedd disgyblion, materion capasiti, bydd eu dysgwyr yn bresennol gyda'r athro. Dewisir y dull hwn er budd yr holl ddysgwyr ac ni er hwylustod i'r ysgol sy’n darparu. Dylid cyfathrebu’r rhesymau yn glir i'r holl randdeiliaid perthansol.
Bydd dysgwyr o'r ysgolion eraill sy'n dilyn y cwrs yn cael mynediad i'r cwrs o'r ystafell ddosbarth e-sgol ddynodedig. Pan fydd y dull hwn o gyflwyno yn cael ei roi ar waith, mae'n hanfodol bod cyfathrebu ac adborth yn gyson i bob dysgwr, ac yn cael ei gyfathrebu'n glir rhwng ysgolion a dysgwyr ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.