Aelodau adran iau y cyngor
Aelodau adran iau y cyngor
Ni yw aelodau'r Cyngor Cymunedol. Guto, Sion, Livi, Elliot, Nel ac Elsi yn yr adran Iau, Aubree, Lleucu ac Ela o'r Cyfnod Sylfaen.
Mae gennym ni ddau brosiect ar y gweill ar hyn o bryd. Fe benderfynom ni ar rhain yn ein cyfarfod cyntaf, ac rydym wedi bod yn brysur yn cysylltu a rhieni, creu posteri a chynnal gwasanaeth i rannu gywbodaeth gyda'r ysgol gyfan.
Ein targed cyntaf yw lleihau gwastraff bwyd yn ein Cymuned. Bob bore dydd Llun mae bwrdd bwyd tu allan i'r ysgol i bawb gael helpu eu hunain. Bwyd sydd dros ben yn y Co-Op sydd yno, a byddai'n mynd i'r bin os na fyddai'n cael ei ddefnyddio gennym ni, cymuned Penbarras. Dyma'r posteri rydym wedi eu creu, a lluniau o'n stondin.
Ein ail darged oedd helpu rhieni'r ysgol drwy greu stondin ailgylchu gwisg ysgol. Rydym ni wedi gosod y dillad yn daclus yn nerbynfa'r ysgol, ac ar ddydd Gwener cyntaf bob mis, rydym yn mynd a'r stondin allan ar yr iard er mwyn annog cymuned yr ysgol i'w defnyddio.