Mae ein hysgol ni, Ysgol Penbarras, wedi ei lleoli ynghanol cymuned tref hanesyddol Rhuthun. Rydym ni'n falch iawn o'n hardal a'n cymuned glos Gymreig, ac mae ein Cyngor Cymunedol yn awyddus iawn i helpu trigolion cymuned yr ysgol, a'r gymuned ehangach. Dewch i ddysgu amdanom ni ac am ein gwaith.