Cliciwch i weld rhestr o geiriaduron...
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn anelu at gynning addysg sy’n ceisio ateb eich angehnion chi fel unigolyn mewn awyrgylch gefnogol, hapus a hollol Gymreig. Ar bob cyfle bydd yr ysgol yn eich annog chi i ddatblygu hunanbarch ac agweddau cadarnhaol a chyfrifol at fywyd yn gyffredinol.
Mae ethos Gymreig yr ysgol yn adlewyrchu etifeddiaeth foesol, ysbrydol a diwylliannol Cymru ac yn creu fframwaith ar gyfer bywyd, iaith a chenadwri’r ysgol.
Sefydlu ysgol lwyddiannus ac uchel ei pharch yn y gymdeithas.
Sefydlu ysgol gynhwysol sy’n gweithio tuag at leihau’r rhwystrau rhag dysgu
Rhoi cyfle i chi ddatblygu hyd eithaf eich gallu yn academaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn gorfforol.
Rhoi cyfle i chi feistroli’r grefft o gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan bwysleisio’r Gymraeg yn arbennig fel iaith fyw.
Eich annog i gyfrannu’n llawn yn ôl eich doniau i gymuned yr ysgol ac i’r gymuned ehangach ac i fod yn ymwybodol o’ch cyfraniad i’r gymuned Ewropeaidd.
Sefydlu ysgol ofalgar gyda awyrgylch deuluol.
Cynnig cyfle cyfartal i chi heb wahaniaethu ar sail gallu, rhyw, hil na chrefydd.
Sefydlu ethos positif ac agored ble ceir croeso i syniadau’r holl randdeiliaid.
Siaradwch Gymraeg bob amser.
Rhaid cyrraedd gwersi ar amser
Arhoswch yn dawel mewn rhes y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Tynnwch eich Llawlyfr disgybl, iPad, llyfrau/ffeiliau priodol ynghyd â’ch offer cywir o’ch bag a’u rhoi ar y ddesg. Arhoswch ar eich traed yn dawel i aros am ganiatad i eistedd.
Codwch eich llaw cyn gofyn neu ateb cwestiwn.
Peidiwch â bwyta nac yfed yn yr ystafelloedd dosbarth.
Ni chaniateir gwm cnoi yn yr ysgol.
Dangoswch barch at eraill ac at eiddo eraill trwy’r amser.
Mae ysmygu yn anghyfreithlon yn yr ysgol hon.
Rhowch unrhyw sbwriel yn y bin.
Rhaid gwisgo’r wisg ysgol gywir yn yr ysgol.
Ni chaniateir i ddisgyblion ddod ag offer electronig i'r ysgol. Mae'r offer sydd wedi gwahardd o'r ysgol yn cynnwys:
1. Chwaraewyr MP3
2. iPodiau
3. Gemau electronig llaw e.e. PSP a Nintendo DS
4. Oriawr Smart
Rhoddwyd offer o'r math i'r Pennaeth Cynnydd priodol.
Bydd y Pennaeth Cynnydd yn cadw'r offer tan ddiwedd y dydd yn yr achos cyntaf.
Yn dilyn yr achos cyntaf bydd y Pennaeth Cynnydd yn cadw'r offer am bum niwrnod ysgol neu nes bod riant / warcheidwad yn llythyru'r ysgol i ofyn am yr eitem.
Nid oes hawl gan ddisgyblion i ddefnyddio ffonau symudol yn yr ysgol.
Yn amlwg disgwylir i ddisgyblion ddod a cyfrifiannell i'r ysgol.
Diwgwylir i bob disgybl wneud pob ymdrech i gyflwyno gwaith yn daclus. Dyma ganllawiau i'ch helpu.
Gosod clawr ar bob llyfr
Dim graffiti ar eich llyfrau na'ch llawlyfr disgybl.
Gosod teitlau Gwaith Dosbarth neu Gwaith Cartref ar bob darn o waith ynghyd a'r dyddiad.
Tanlinellu bob teitl gan ddefnyddio pren mesur.
Defnyddio pensil i wneud deiagramau a lluniau.
Lliwio deiagramau a lluniau gan ddefnyddio pensiliau lliw.
Labelu deiagramau yn glir gan ddefnyddio pren mesur wrth lunio llinellau.
Cyn cyflwyno darn o waith darllenwch drosto yn ofalus.
Dyma rai gwallau i'w hosgoi. Ydyn nhw yn eich gwaith chi? Cywirwch nhw.
Weithau/ambell waith ✓ rhai weithiau x
Gormod ✓ rhy gormod x
Yr athrawon i gyd ✓ gyd o'r athrawon x
Mae cyfrifiadur 'da fi ✓ Fi'n cael cyfridiaur x
Mae gen i gyfrifidadur ✓
Fy mrawd, fy mag, fy nosbarth ✓ brawd fi, bag fi, dosbarth fi x
Dydyw i ddim yn hoffi ✓ Mae fi ddim yn hoffi x
Dylech ofalu fod yr offer canlynol gennych ym mhob gwers
• Pen ysgrifennu
• Pren mesur
• Pensil
• Naddwr
• Rwbiwr
• Pensiliau lliw
Mewn gwersi Mathemateg mae angen yr offer canlynol yn ogystal
• Cwmpas
• Onglydd
• Cyfrifiannell CASIO FX82 SX neu debyg
Hyd Gwers yw awr (60 munud)
Pan fydd y gloch tan yn canu, bydd yr athro yn eich arwain yn drefnus allan o'r dosbarth i'r maes chwarae.
Gadewch bopeth yn y dosbarth.
Neb i redeg na rhuthro.
Rhaid sefyll gyda'ch dosbarth cofrestru mewn rhesi ar yr cae coch.
Dylech fod mewn rhes yn nhrefn yr enwau ar y gofrestr.
Bydd eich athro yn eich cofrestru.
Cewch gyfarwyddyd i fynd yn ôl i'ch ystafell ddysgu pan fyddyn ddiogel i wneud hynny.
BLWYDDYN 7 – 11
Siwmper / cardigan du swyddogol yr ysgol â bathodyn yr ysgol arni.
Crys Polo swyddogol yr ysgol gyda bathodyn yr ysgol arno
Sgert ddu blaen dim byrrach na thop y penglin
Trowsus du plaen ( Dim ‘jeans’, trowsus melfed, malfared, hipsters, trowsus tynn neu drowsus sgio)
Siorts swyddogol yr ysgol gyda bathodyn yr ysgol arnynt.
Teits du neu sanau du plaen gyda sgert.
Sanau du, llwyd neu glas tywyll gyda throwsus.
Addurniadau gwallt e.e clip neu band du, aur, arian, gwyn neu gwyrdd.
Esgidiau du plaen lledr / lledr eu golwg, sodlau dim uwch na 4cm (caniateitr boots wedi gwisgo o dan drowsus yn ystod tywydd eira yn unig). Dim esgidiau ymarfer, dim daps, dim pumps, dim esgidiau swêd. Ni chaniateir sandalau agored.
Cot law/ddwrglas swyddogol yr ysgol neu cot gaeaf neu cot law du blaen/glas tywyll plaen – streipen llachar yn dderbyniol. Nid yw logo sydd yn fwy na 10cm x 10cm yn dderbyniol ar y cot ysgol.
Sgarff ddu neu gwyrdd tywyll plaen.
Hetiau gaeaf du neu gwyrdd tywyll.
Dim lliwiau gwallt annaturiol na gwallt gyda phatrymau na llinellau wedi’u heillio.
Canlyniadau torri rheol gwisg ysgol
Gall yr ysgol gadw unrhyw eitemau o ddillad sydd yn torri rheolau gwisg yr ysgol tan ddiwrnod olaf yr hanner tymor.
Y Prifathro fydd â’r gair olaf ynglǔn ag unrhyw fater ble mae disgybl wedi torri rheol gwisg ysgol.
Nid oes caniatâd gan unrhyw ddisgyblion i wisgo unrhyw dlysau yn yr ysgol ar wahân i bâr bach o glust tlysau styd plaen aur neu arian.
Ni chaniateir disgyblion i wisgo farnais ewinedd na cholur.
i fyw eich bywyd yn ddiogel ac mewn heddwch
i fod yn unigolyn ac yn falch eich bod yn wahanol
peidio a chael eich bwlio
dweud na yn gadarn i unrhywbeth sy'n anghywir
amddiffyn eich hun trwy anwybyddu pobl eraill neu gerdded i ffwrdd
dweud wrth aelod o'r staff os ydy rhywun yn eich gwneud chi'n anhapus
beidio a derbyn unrhyw fath o fwlio
cydweithio gydag eraill i atal bwlio
dweud wrth aelod o'r staff am bob achos o fwlio
peidio ag ofni rhoi gwybod am ddigwyddiadau. Os ydych chi'n gwneud dim byd yna mae hyn yn rhoi'r argraff eich bod chi'n cefnogi'r bwlio.
peidio a derbyn bwli i'ch grwp chi o ffrindiau.