Cylch Meithrin Machynlleth
Rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant, ac felly’n ceisio darparu’r safon aur mewn profiadau blynyddoedd cynnar i bob plentyn yn ein gofal.
Rydym yn credu fod gan pob plentyn yng Nghymru yr hawl i Addysg Gymraeg. Trwy ddod i’n Cylch a derbyn cefnogaeth sydd ar gael mae modd i’ch plentyn ddilyn taith esmwyth a hyderus i addysg Gymraeg.
Fel rhiant, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, felly gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg gorau yn ein Cylch Meithrin ni.
Cymraeg yw iaith y Cylch Meithrin, ond mae croeso i bob plentyn yn y Cylch dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref.
Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y Cylch neu am wybodaeth ynglyn â chofrestru eich plentyn mae croeso i chi gysylltu â ni ar 07935 512245 neu drwy e-bost Edwardsc705@hwbcymru.net
-----------------------------------------------------------------------------------------------------
We are passionate about giving children the best start, and therefore seek to provide the highest standard in early years experiences for all children in our care.
We believe that all children in Wales have the right to Welsh-medium Education. By attending our Cylch and receiving our support your child can follow a smooth and confident journey to Welsh-medium education.
As a parent, we are aware of how important it is for you to feel that you are choosing the best education for your child, so you can rest assured that your child will receive the best care and education in our Cylch.
Cylch aims to promote the education and development of children from two years of age to school age. Children have the opportunity to socialise and learn through play under the guidance of our professional, friendly and enthusiastic staff.
If you would like to discuss any aspect of Cylch, or for information regarding your child's registration please do not hesitate to contact us on 07935 512245 or by email Edwardsc705@hwbcymru.net
Cylch Meithrin Machynlleth
Plant llawen, hyderus, annibynnol