GWERTHOEDD
Pedwar diben Cwricwlwlm i Gymru yw sail dibenion a dyhead ein cwricwlwm, a sefydlwn rhain yn gadarn ym mhob agwedd o fywyd ysgol drwy ein gwerthoedd. Gwelir ein gwerthoedd fel sylfaen i bopeth a wnawn, fel disgyblion, oedolion a chymuned ehangach.
Drwy ein gweledigaeth gytun a’n gwerthoedd cadarn sydd yn rhan o bob agwedd ar fywyd ysgol, ein dyhead i bob disgybl yw eu bod yn tyfu’n:
DDYSGWYR UCHELGEISIOL A GALLUOG
CYFRANWYR MENTRUS A CHREADIGOL
DINASYDDION EGWYDDOROL A GWYBODUS
UNIGOLION IACH AC HYDERUS
BWRIAD
Bwriad ein cwricwlwm yn Ysgol Iolo Morganwg yw darparu cwricwlwm eang, cyfredol a chyffrous sydd yn addas i ddysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau. Bydd yn gwricwlwm sy’n cyfuno sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau a fydd yn cynnig cyfleoedd i bob dysgwr wneud cynnydd priodol yn unol â’u gallu.
Rhoir ystyriaeth lawn i bob un o’r chwe maes dysgu a phrofiad sydd i'w gweld isod ac i’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig o fewn rhain.
LLAIS EIN RHANDDEILIAID
Ymarferwyr
Cyd-gynllunio
Mapio ar y cyd
Trafodaethau proffesiynol
Rhannu arfer dda
Rhannu arbenigedd
Holiaduron
Hunan arfarnu
Disgyblion
Gwerthoedd yr ysgol
Llais y disgybl (gwaith cartref a chynllunio thematig)
Llais y disgybl (senedd)
Cynghorau Ysgol a Llysgenhadon
Hunan arfarnu
Rhieni a Gofalwyr
Canfod barn
Holiaduron
Mewnbwn
MDaPh
Rhannu gwybodaeth
Cynnig arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau pynciol
Y Gymuned Ehangach
Bwrdd Llywodraethol gwybodus a gweithredol
Cydweithio CSC
Cydweithio clwstwr
Cymunedau Dysgu Proffesiynol
Cydweithio Llywodraeth Cymru
Asiantaethau allanol
Arbenigwyr lleol
ELFENNAU MANDADOL
Sicrhawn bod ein mapiau cwricwlaidd yn rhoi ystyriaeth lawn i elfennau mandadol y cwricwlwm, gan gynnwys:
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Addysg Cydberthnasedd a Rhywioldeb
Cymraeg a Saesneg
Fframweithiau Trawsgwricwlaidd - llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd ddigidol
Rydym hefyd yn hyrwyddo elfennau statudol megis:
Gyrfaoedd a byd gwaith
Hawliau dynol
Amrywiaeth
CYNEFIN
Wrth gyflwyno ein cwricwlwm, byddwn yn manteisio i’r eithaf ar y cysylltiadau, arbenigedd a'r profiadau cyfoethog sydd i'w cael y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, er mwyn i'r disgyblion deimlo'n rhan annatod o fywyd y gymdeithas ehangach ac i werthfawrogi cyd-destunau dysgu lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd Cymreictod a chariad at iath yn ganolog i'n cwricwlwm.
EIN THEMAU
Rydym wedi datblygu ein themâu i sicrhau llinynnau dysgu clir a chydlynol ar draws yr ysgol. Trwy gynnal trosolwg cytbwys, gallwn weld yn union beth mae’r disgyblion wedi’i ddysgu o’r blaen ac adeiladu'n fwriadol ar y sylfeini hynny. Mae hyn yn galluogi pob plentyn i ddyfnhau ei ddealltwriaeth ac i wneud cysylltiadau ystyrlon rhwng themâu gwahanol.
Nid yw dau ddosbarth yn archwilio’r un thema ar yr un pryd, ond mae pob un yn canolbwyntio ar yr un cysyniad craidd drwy gyd-destunau sy’n ymgysylltu ac yn addas i’w hoedran. Mae’r dull hwn yn adlewyrchu egwyddorion y cwricwlwm troellog – dychwelyd at gysyniadau allweddol dro ar ôl tro, ar lefel fwy soffistigedig bob tro, er mwyn sicrhau dyfnhau parhaus o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth. Mae cwricwlwm sy’n seiliedig ar gysyniadau felly’n hyrwyddo ailadrodd creadigol – ailadrodd sy’n arwain at gynnydd ac at ddyfnhau dysgu, nid at ailadrodd cynnwys.
Yn ogystal, mae’r dull hwn yn darparu darlun clir a chyson o’r hyn sy’n cael ei ddysgu ar draws yr ysgol gyfan. Trwy wneud hynny, gallwn sicrhau dilyniant effeithiol o flwyddyn i flwyddyn, gan greu taith ddysgu gydlynol, ystyrlon ac uchelgeisiol i’n disgyblion.
Ffocws antur gorffennol, presennol a dyfodol
Ffocws cynaliadwyedd
Yn Ysgol Gymraeg Iolo Morganwg byddwn yn defnyddio cyfleoedd asesu er mwyn cefnogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar hyd ein continwwm dysgu, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a’u herio yn unol â hynny. Byddwn yn defnyddio dulliau asesu sydd â ffocws barhaus ar gefnogi dysgwyr unigol, ystyried cynnydd dysgwyr unigol dros amser a deall cynnydd grwpiau o ddysgwyr. Drwy hyn, gallwn sicrhau myfyrio parhaus i lywio darpariaeth y dyfodol a sicrhau cynllunio bwriadol.
Wrth hunan arfarnu, gwrando ar lais y disgybl a pharhau i ddatblygu fel sefydliad sy'n dysgu, byddwn yn gwerthuso ac yn addasu ein cwricwlwm yn gyson.
Bydd datblygiadau cwricwlaidd yn cael eu rhannu'n gyson gyda rhanddeiliaid yr ysgol drwy wefan yr ysgol a thrwy gyfarfodydd hyrwyddo a rhannu gwybodaeth.