Mae gan Seren a Sbarc gyfrif ar sawl cyfrwng cymdeithasol hefyd. Gallwch eu dilyn ar amrywiol lwyfannau fel Twitter (@SerenaSbarc).
Mae pob dydd yn gyfle i ymarfer siarad Cymraeg ond mae'n debyg y byddwch yn gweld mwy o weithgaredd i ddathlu achlysuron penodol fel Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, Diwrnod y Llyfr, Diwrnod Shwmae Su'mae, Diwrnod T. Llew Jones, Diwrnod Santes Dwynwen, Dydd Miwsig Cymru a Dydd Gŵyl Dewi, wrth gwrs!