Sut alla i gefnogi fy mhlentyn i ddefnyddio'r Gymraeg gartref?

How can I support my child to use Welsh at home?

Rhywbeth i'w ddarllen?


Bydd gan eich llyfrgell leol ddetholiad o lyfrau a deunydd Cymraeg. Mae yna ffyrdd eraill hefyd o gael gafael ar ddeunydd Cymraeg i'ch plentyn ei fwynhau.

Booktrust Cymru

Mae Booktrust Cymru yn darparu cyfoeth o adnoddau i hyrwyddo darllen i blant - gan gynnwys pecynnau gweithgareddau y gall rhieni / gofalwyr a phlant ifanc eu mwynhau gyda'i gilydd. Cymerwch gip ar yr hyn sydd ar gael yma

Cylchgronau'r Urdd

Mae Cip yn gylchgrawn bywiog ar gyfer darllenwyr rhwng 7-12 oed. Mae'n cael ei gyhoeddi bob yn ail fis ...

Mae Bore da yn gylchgrawn misol ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2. Mae'n cynnwys amrywiaeth o erthyglau a straeon diddorol.

Gallwch gofrestru i dderbyn copïau am ddim yn uniongyrchol i'ch cyfrif e-bost yma:

Y Cliciadur

Papur newydd chwarterol ar-lein yn benodol ar gyfer plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'n llawn ffeithiau, erthyglau cyfoes ac amrywiaeth o weithgareddau. Mae rhifynnau cyfredol a blaenorol ar gael yma:

Y Dref Wen

Casgliad o lyfrau llafar

Siopau Cymraeg Lleol

Mae na wledd o lyfrau ac adnoddau newydd ar gael o'ch siop lyfrau leol! Beth am fynd am drip?

Siop Tŷ Tawe, Abertawe

Fideos Ar-Lein

Amser Stori gyda Atebol

Amser Stori gyda Mari Grug