Ble mae Canolfan Iaith Conwy?
Mae Canolfan Iaith Conwy wedi'i lleoli ar safle Ysgol Dyffryn yr Enfys, Dolgarrog.
Bydd y disgyblion yn rhannu cyfleusterau'r ysgol yn unig, mae'r Ganolfan yn hollol annibynnol.
Sut mae'n gweithio?
Gall disgyblion rhwng 7 -11 oed fynychu’r ganolfan am dymor.
Mae disgyblion yn dilyn cwrs wedi’i strwythuro’n ofalus â’r mwyafrif yn dod yn rhugl ar lafar yn ogystal â meithrin sgiliau darllen ac ysgrifennu.
Beth yw'r manteision?
Dengys ymchwil a phrofiad athrawon mewn nifer o wledydd fod trochiad ieithyddol yn yr ail iaith yn ddull effeithiol iawn o ddysgu iaith.
Mae’r gymhareb staffio yn hael 1 athrawes a chymhorthydd i 12 o ddisgyblion.
Golyga adnoddau da ynghyd â’r awyrgylch gartrefol yn y ganolfan, fod y profiad sydd i’w gael, yn un arbennig.
Mae staff y ganolfan yn brofiadol ac yn arbenigwyr cydnabyddedig yn eu maes.
Pa mor hir fyddant yn y Ganolfan?
Gwneir cais am le gan y fam ysgol ac mae'r mynediad ar sail tymor llawn.
Sut ydych yn delio â'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd?
Mae'r pwyslais ar ddysgu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg. Fodd bynnag, addysgir Rhifedd yn ddyddiol yn unol â lefelau'r Cwricwlwm. Mae'r disgyblion hefyd yn profi agweddau eraill ar y Cwricwlwm trwy wyddoniaeth, technoleg ac astudiaethau amgylcheddol.
Pa lefel hyfedredd y byddech chi'n disgwyl i blentyn ei chyflawni mewn un tymor?
Gydag agwedd gadarnhaol o fewn amgylchedd hapus, bydd gan bob plentyn ddigon o feistrolaeth ar yr iaith i'w galluogi i integreiddio'n llawn i waith a bywyd yr ysgol a'r gymuned.
Sut fydd fy mhlentyn yn teithio i'r Ganolfan?
Darperir cludiant yn rhad ac am ddim gan Gyngor Sir Conwy, o’r cartref i'r Ganolfan gan ddefnyddio contractwyr cludiant ysgol.
Bydd y cwmni tacsis yn cysylltu â chi yn uniongyrchol gyda'r trefniadau.
Bydd ein staff yn cyfarch y disgyblion wrth gyrraedd ac yn sicrhau eu bod yn y tacsi yn ddiogel ar ddiwedd y dydd.
A yw'r digyblion yn cael cinio ysgol?
Mae croeso i ddisgyblion gael cinio ysgol neu ddod â phecyn bwyd.
Sut alla i helpu fy mhlentyn?
bod yn gadarnhaol ac yn gefnogol
anogwch eich plentyn i siarad Cymraeg â chymdogion a ffrindiau
cadwch mewn cysylltiad â'r athrawon yn y ganolfan
Beth mae'r plant yn ei ddweud ...
“Byddaf yn gallu siarad â fy ffrindiau yn yr ysgol yn Gymraeg.”
“Byddaf yn gallu deall beth sy'n digwydd.”
“Gallaf siarad yn Gymraeg â phobl yn y pentref ac maen nhw'n synnu fy mod i'n
gallu.”
“Gallaf ddarllen llyfrau Cymraeg, a mwynhau’r stori.”
“Gallaf ysgrifennu straeon yn Gymraeg.”
“Fe wnes i fwynhau actio’r cymeriadau ym mhentref Llanfairgogogoch.”
“Rydw i wedi mwynhau gwylio fideos Cymraeg.”
Beth mae'r rhieni yn ei ddweud...
"Maen nhw wedi bod wrth eu bodd. Dw i mor falch ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad i'w hanfon."
"Mae ein plant wedi cael profiad anhygoel yn y ganolfan iaith. Dechreuon nhw eu taith i ddysgu Cymraeg gan wybod fawr ddim, ac ar ôl 10 wythnos o’r dysgu trochi, maen nhw wedi datblygu tu hwnt i'n disgwyliadau. Mae’r athrawon wedi bod yn gefnogol iawn, a byddwn i gyd yn gweld eisiau’r ganolfan yn fawr iawn. "
"Roedd fy mhlentyn yn bryderus ar y dechrau ond ar ôl ychydig ddyddiau roedd methu disgwyl iwe led ei ffrindiau newydd ac i chwarae gemau yn Gymraeg."