Sefydlwyd y ganolfan gyntaf ym mis Mai 1984. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y ganolfan hon agorwyd canolfannau eraill ledled Cymru. Agorodd Canolfan Iaith Conwy ei drysau ym mis Hydref 1987.
The first Welsh Language Centre was established in May 1984. Following the overwhelming success of this centre other centres were opened. Canolfan Iaith Conwy opened its doors in October 1987.
Gall plant rhwng 7 - 11 oed sy'n hwyrddyfodiaid i ysgolion cyfrwng Cymraeg yr awdurdod fynychu'r ganolfan am un tymor.
Bydd disgyblion yn dilyn cwrs wedi’i strwythuro’n ofalus i sicrhau rhuglder ar lafar yn ogystal â meithrin sgiliau darllen ac ysgrifennu.
Children aged between 7-11 years old who are latecomers to Welsh-medium schools in the authority attend the centre for one school term.
Pupils follow a bespoke structured course to ensure that they develop oral fluency as well as acquiring reading and writing skills.
Dengys ymchwil a phrofiad athrawon mewn nifer o wledydd fod trochiad ieithyddol yn yr ail iaith yn ddull effeithiol iawn o ddysgu iaith.
Mae’r gymhareb staffio yn hael 1 athrawes a chymhorthydd i 12 o ddisgyblion.
Golyga adnoddau da ynghyd â’r awyrgylch gartrefol yn y ganolfan, fod y profiad sydd i’w gael, yn un arbennig.
Mae staff y ganolfan yn brofiadol ac yn arbenigwyr cydnabyddedig yn eu maes.
Research and experience of teachers in many countries have proved that immersion teaching of a second language is most effective.
The teacher pupil ratio is very generous 1 teacher and a teaching assistant to 12 pupils.
Good resources combined with the family atmosphere created means that the experiences offered are second to none.
Staff at the centre are experienced and acknowledged specialists in their field.