Gyda’ch merch/mab yn awr ym mlwyddyn 9, daeth yn amser ystyried y dewis o bynciau ar gyfer blwyddyn 10 a chyrsiau arholiad. Mae’r wefan hwn yn disgrifio cynnwys y cyrsiau sydd ar gael. Bydd yr ysgol wedyn yn ceisio cynorthwyo’r disgyblion wrth iddynt ddewis pynciau addas. Cynghorir y disgyblion i ddewis eu pynciau’n ofalus er mwyn sicrhau cwricwlwm eang a chytbwys, heb arbenigo’n rhy gynnar. Gan fod y cyrsiau mor bwysig i ddyfodol y disgyblion, gofynnir am eu hymroddiad llwyr drwy gydol y ddwy flynedd. Disgwylir iddynt gwblhau gofynion gwaith cwrs mewn da bryd.
Dysgir y pynciau i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Fodd bynnag, disgwylir y bydd mwyafrif o’r disgyblion sydd yn dilyn llwybr Cymraeg Iaith Gyntaf ac sydd wedi cyrraedd lefel gadarn yn y Gymraeg ar ddiwedd Blwyddyn 9 yn dilyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y pynciau sydd yn cael ei cynnig yn y ddwy iaith.
Pe dymunir gall rhieni gysylltu â’r ysgol i drafod unrhyw fater neu holi am wybodaeth bellach ynglyn â dewis pynciau. Bydd noson Dewisiadau Blwyddyn 9 hefyd yn cynnig cyfle i helpu eich plentyn i wneud y dewis gorau.
Yn gywir,
Mr Owain Gethin Davies - Pennaeth
Your daughter/son is now in year 9, and the time has come to consider the choice of subjects to be studied in year 10 and examination courses. This website describes the courses that are available. The school will make every effort to help pupils choose suitable subjects. Pupils are advised to choose their subjects carefully to ensure that the curriculum they study is broad and balanced, and not too specialized at this stage.
As these courses are so important to the future of pupils, complete commitment is required throughout the two years of study. They are expected to complete coursework on time.
All subjects are taught through the medium of Welsh and English. However, it is expected that the majority of pupils who follow the Welsh First Language pathway and who have reached a firm level in Welsh at the end of Year 9 will follow Welsh-medium provision in the subjects offered in both languages.
You are welcome to contact the school if there is anything you wish to discuss or if you would like further information about options. The Year 9 Options Evening also offers you the opportunity to help your child make the best decision.
Yours faithfully,
Mr Owain Gethin Davies - Headteacher