Presenoldeb - Attendance
Ni fydd angen i'r ysgol gyhoeddi gwybodaeth am ganran presenoldeb yr ysgol ar gyfer 2024—2025.
The school will not need to publish information about the school's attendance percentage for 2024—2025.
Gweithgareddau - Activities
Mae llawer iawn o weithgareddau amrywiol yn digwydd yn Ysgol Dyffryn Conwy yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol. Yn ystod y flwyddyn fe wnaeth yr adran gerdd a drama gynnal sawl gweithgaredd gan gynnwys Sioe Gerdd, Cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd a cynnal ymarferion cyson. Cynhelir y rhain mewn partneriaeth a’r ganolfan hamdden sydd ar safle’r ysgol. Croniclir hanes yr holl weithgareddau y bu’r ysgol ynghlwm â hwy yn 2024/2025 ar ein safwe yn yr Adran Newyddion:
Hefyd, gyda chrynodeb ar gyfrifon Facebook ac Instagram yr ysgol: @ysgdyffrynconwy
ac adroddiadau yn mynd i sawl papur bro leol. Mae rhai erthyglau hefyd yn ymddangos yn y Pioneer a’r Weekly News.
A great variety of activities take place at Ysgol Dyffryn Conwy during lunchtime and after school. These are run in partnership with the leisure centre located on the school site. Details of all the activities in which the school took part during 2024/2025 can be found on our website in the News section :
Together with a summary on the school’s Facebook & Instagram accounts: @ysgdyffrynconwy and reports that have been sent to several local community newspapers. Some articles have also appeared in the Pioneer and Weekly News.
Perfformiad yr Ysgol - School Performance
Fe fydd gwybodaeth am berfformiad yr ysgol yn cael ei gyhoeddi ar wefan Fy Ysgol Leol (tua Rhagfyr 2025) : https://mylocalschool.gov.wales/School/6624035?lang=cy
Information about the school's performance will be published on the My Local School website (around December 2025): https://mylocalschool.gov.wales/School/6624035?lang=en