Rhagarweiniad - Introduction
Mae’n ofynnol i Gyrff Llywodraethol ysgolion a gynhelir gynhyrchu Adroddiad Blynyddol i Rieni / Gwarcheidwad. Mae cynnwys yr adroddiad yn statudol, er gall Gyrff Llywodraethol ddewis i ychwanegu gwybodaeth allai fod yn ddefnyddiol.
Yr adroddiad blynyddol yw’r prif ddull ffurfiol y gall y Corff Llywodraethwyr ddangos eu hatebolrwydd i Rieni / Gwarcheidwad. Mae’n cynnig cyfle nid yn unig i gyfathrebu a Rhieni / Gwarcheidwad - yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn flaenorol ond hefyd i rannu cynlluniau’r Corff Llywodraethol ar gyfer hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol ac i fynd ati i gasglu barn Rhieni am y dyfodol.
Mae’r Rheoliadau yn caniatau i ysgolion ddarparu adroddiad llawn yn unig i’r rhieni sydd yn gofyn am gopi a chyhoeddi crynodeb ar gyfer yr holl Rieni / Gwarcheidwad.
Gellir cael mynediad i gopi o’r Adroddiad llawn ar wefan yr ysgol.
Mae’r gofyniad blaenorol oedd yn gofyn i gorff llywodraethu gynnal cyfarfod blynyddol ar gyfer rhieni wedi ei ddisodli ac o dan adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, caiff rhieni ofyn am hyd at 3 chyfarfod mewn blwyddyn ysgol â chorff llywodraethu eu hysgol.
Ni chafwyd cais i gynnal cyfarfod blynyddol yn ystod 2024/25.
Gwybodaeth am seddi gwag Rhieni Llywodraethwyr/etholiadau sydd i ddod: 1 sedd wag ar hyn o bryd.
Governing Bodies of maintained schools are required to produce an Annual Report to Parents / Guardians. The content of the report is statutory, although Governing Bodies may choose to add information that may be useful.
The annual report is the main formal method by which the Governing Body can demonstrate their accountability to Parents / Guardians. It offers an opportunity not only to communicate with Parents - what’s been happening at the school during the previous year but also to share the Governing Body's plans for promoting high standards of educational achievement and to actively gather Parents' views on the future.
The Regulations allow schools to provide a full report only to parents who request a copy and publish a summary for all Parents /Guardians.
A copy of the full Report can be found on the school website.
The previous requirement that a governing body hold an annual meeting for parents has been superseded and under section 94 of the School Standards and Organization (Wales) Act 2013, parents may request up to 3 meetings in a school year with the governing body their school.
No request was made to hold an annual meeting during 2024/25.
Information about Parent-Governor vacancies/upcoming elections: One empty seat at present.
Gair gan y Cadeirydd - Foreword by Chair
Wrth i ni adlewyrchu ar flwyddyn academaidd 2024–2025, mae’n bleser gennyf gyflwyno’r crynodeb hwn i rieni a gwarcheidwaid ar ran Corff Llywodraethol Ysgol Dyffryn Conwy.
Bu’r flwyddyn hon yn un o dwf, uchelgais a chydweithio. Rydym yn hynod falch o’r ffordd y mae’r ysgol wedi parhau i gynnig cyfleoedd eang i’n disgyblion – yn academaidd, yn greadigol ac yn gymdeithasol. Mae llwyddiannau ein disgyblion, boed hynny mewn arholiadau, chwaraeon, celfyddydau neu gyfraniad at fywyd cymunedol, yn dyst i’w hymroddiad hwy a’r gefnogaeth ragorol gan staff yr ysgol.
Mae’r ysgol wedi parhau i ddatblygu ei chynnig cwricwlaidd yn unol â Chwricwlwm i Gymru, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael profiadau dysgu perthnasol, cyfoethog a dwyieithog. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r gwaith parhaus o feithrin llesiant disgyblion, gan greu amgylchedd diogel a chefnogol lle gall pob unigolyn ffynnu.
Hoffwn ddiolch i’r Pennaeth, Mr Owain Gethin Davies, a’r holl staff am eu hymroddiad di-baid, ac i rieni a’r gymuned ehangach am eu cefnogaeth barhaus. Mae partneriaeth gref rhwng yr ysgol a’r cartref yn allweddol i lwyddiant ein pobl ifanc.
Edrychwn ymlaen at flwyddyn arall o gynnydd a chyflawniadau, wrth i ni barhau i weithio gyda’n gilydd er budd pob disgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy.
Yn gywir,
Elen Edwards
Cadeirydd y Llywodraethwyr
Ysgol Dyffryn Conwy
______________________________________________________________________________
As we reflect on the academic year 2024–2025, I am pleased to present this summary to parents and guardians on behalf of the Governing Body of Ysgol Dyffryn Conwy.
This year has been one of growth, ambition, and collaboration. We are extremely proud of how the school has continued to offer wide-ranging opportunities to our pupils – academically, creatively, and socially. The achievements of our pupils, whether in examinations, sports, the arts, or contributions to community life, are a testament to their dedication and the outstanding support provided by the school staff.
The school has continued to develop its curriculum offer in line with the Curriculum for Wales, ensuring that every pupil receives relevant, enriching, and bilingual learning experiences. We also value the ongoing work to nurture pupil wellbeing, creating a safe and supportive environment where every individual can thrive.
I would like to thank the Headteacher, Mr Owain Gethin Davies, and all the staff for their unwavering commitment, and also parents and the wider community for their continued support. A strong partnership between school and home is key to the success of our young people.
We look forward to another year of progress and achievement as we continue to work together for the benefit of every pupil at Ysgol Dyffryn Conwy.
Yours sincerely,
Elen Edwards
Chair of Governors
Ysgol Dyffryn Conwy