Un o'r ffyrdd gorau y gallwch chi helpu i ledaenu'r gair am yr apêl yw drwy recordio fideo neu rannu stori Instagram. Dyma ambell i adnodd i'ch helpu i wneud hynny.
Dyma syniad o ran beth y gallech ei ddweud os ydych am recordio fideo. Croeso i chi ei bersenoli.
Cofiwch nad yw DEC yn sefydliad gwleidyddol, a’n bod yn canolbwyntio ar angen dyngarol yn unig.
Helo pawb,
Fel d’ych chi’n ymwybodol dw i’n siwr, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi dinistrio bywydau ar draws y rhanbarth, ac mae miliynau wedi ffoi o’u cartrefi i chwilio am ddiogelwch.
Mae pobl angen lloches, bwyd a nwyddau sylfaenol ar frys.
Mae’r DEC yn dod â 15 o brif elusennau cymorth y DU at ei gilydd i godi arian yn gyflym ac yn effeithlon mewn ymateb i argyfyngau dyngarol tramor. Maen nhw wedi lansio apêl brys i ddarparu cymorth hanfodol i bobl ar draws Gaza, Libanus a’r rhanbarth ehangach.
Ar adeg pan fo llawer ohonom yn teimlo’n ddi-rym tra’n gweld a chlywed am ddioddefaint na allwn ei amgyffred, gallwn nawr wneud rhywbeth i helpu.
Bydd pob cyfraniad, bach neu fawr, yn gwneud gwahaniaeth.
Felly, os gallwch chi, plis cyfrannwch heddiw - ewch i dec.org.uk
Diolch
Wrth rannu eich fideo, tagiwch y DEC os gwelwch yn dda! Gallwch ein ffeindio ni yma:
Twitter - @DECCymru
Facebook - DEC Cymru
Instagram - @disastersemergencycommittee (Cyfri canolog y DEC)