Lawrlwythwch y llun yma
Neges awgrymiedig:
Mae'r @disastersemergencycommittee yn codi arian ar frys ar gyfer #ApelDdyngarolYDwyrainCanol [add DEC donation sticker]
Mae angen bwyd, dŵr glân, gofal meddygol a lloches ar frys i fynd i'r afael â'r argyfwng dyngarol cynyddol. [add DEC donation sticker]
CREU EICH NEGES EICH HUN
Linc i'w roi yn eich bio: https://www.dec.org.uk/
Lawrlwythwch luniau i'r grid wedi'u brandio a heb eu brandio yma
Neges 'post' posibl #1
Mae’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn dinistrio bywydau pobl ac mae’r argyfwng dyngarol yn parhau i ddwysáu. Mae miliynau ar draws y rhanbarth wedi ffoi o’u cartrefi ers mwyn chwilio am ddiogelwch.
Maen nhw angen lloches, bwyd a nwyddau sylfaenol ar frys.
Mae’r @DisastersEmergencyCommittee, sefydliad sy’n dod â 15 o brif elusennau cymorth y DU ynghyd i godi arian yn gyflym ac yn effeithlon pan fydd trychinebau ar raddfa fawr yn taro gwledydd heb y gallu i ymateb, wedi lansio apêl brys #ApelDdyngarolYDwyrainCanol
Neges 'post' posibl #2
Mae miliynau wedi eu heffeithio gan y gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol. Maen nhw angen lloches, bwyd a nwyddau sylfaenol ar frys.
Mae’r @disastersemergencycommittee wedi lansio apêl er mwyn darparu cymorth tyngedfennol i’r rhai mewn angen. Os gwelwch yn dda, cyfrannwch os gallwch trwy’r linc yn y bio. #ApelDdyngarolYDwyrainCanol
Mae gennym ddolen codi arian ar ein cyfrif instagram (cyfri yn Saesneg)
Cam 1: Ewch i bio DEC ar Instagram a chliciwch ar y ddolen codi arian. Bydd tudalen ar wahân yn llwytho gyda botwm yn dweud ‘rhannu’.
Cam 2: Cliciwch ar y botwm ‘rhannu’ a byddwch yn cael tri opsiwn:
1) Ychwanegu’r ddolen codi arian i’ch proffil (manylion isod)
2) Ychwanegu’r ddolen codi arian i’ch stori (manylion isod)
3) Rhannu ‘post’ ar eich grid gyda dolen codi arian (manylion isod)
Ychwanegu'r ddolen codi arian i’ch proffil : Cliciwch yr opsiwn ‘proffil’ a bydd y ddolen codi arian yn cael ei ychwanegu’n awtomatig at eich proffil Instagram o dan eich bio. Yna mae Instagram hefyd yn rhoi'r opsiwn i chi rannu'r ddolen codi arian i'ch stori Instagram.
Ychwanegu’r ddolen codi arian i’ch stori: Dewiswch yr opsiwn ‘stori’. Bydd rhagolwg o'r ddolen codi arian yn ymddangos yn eich golygydd stori. Gallwch glicio ar y ddelwedd i ddewis rhwng ein prif ddelwedd neu sticer rhodd syml.
Rhannu ‘post’ ar eich grid gyda dolen codi arian: Lawrlwythwch un o asedau gweledol y DEC [yma]. O'r ddolen codi arian ar bost Instagram y DEC (cam 2), dewiswch yr opsiwn i'w rannu fel post. Bydd yn mynd â chi i'ch llyfrgell ffotograffau i ddewis y ddelwedd yr hoffech ei phostio. Bydd y ddolen i'r codwr arian yn cael ei ychwanegu'n awtomatig at eich post. Bydd pobl nawr yn gallu clicio ar y ddolen hon i gyfrannu neu rannu, fel y gwnaethoch yn wreiddiol gyda ‘post’ DEC yn hyrwyddo'r ddolen codi arian.
Gallwch hefyd ail-rannu post y DEC yn hyrwyddo y ddolen codi arian yn eich stori. Bydd yn cynnwys y ddolen i godi arian. (Cyfri Saesneg yn unig)
Lawrlwythwch ein ffilm ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol - yma