Cartref - Home

Ein Hysgol - Our School

Mae ein hysgol gymunedol wedi ei lleoli ar ddau safle mewn pentrefi cyfagos, sef Bronant a Llangeitho gan wasanaethu ardal wledig eang yng nghanol Ceredigion.

Derbynia’r ysgol ddisgyblion yn llawn amser i’r dosbarth derbyn ar ddechrau’r tymor yn dilyn eu penblwydd yn bedair oed a throsglwyddant i’r ysgol uwchradd y mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn unarddeg oed.

Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Addysgir disgyblion y Cyfnod Sylfaen (4—7 oed) drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynir Saesneg yn ffurfiol yng Nghyfnod Allweddol 2. (7—11 oed).

Disgwylir i‘r holl ddisgyblion fod yn gwbl ddwy-ieithog erbyn iddynt drosglwyddo i’r sector uwchradd.

Our school is a Local Authority Primary school. It is a community school, situated on two campuses in neighbouring villages; Bronant and Llangeitho, and provides education for pupils across a wide rural area in mid Ceredigion.

Pupils are admitted to school on a fulltime basis to the reception class at the beginning of the term following their fourth birthday and transfer to secondary school in the September following their eleventh birthday.

Welsh is the main language used in the daily life of the school. Pupils are taught through the medium of Welsh in the Foundation Phase (4—7 years old).

English is introduced formally in Key Stage 2 (7—11 years old).

All pupils are expected to be bilingual by the time they transfer to the secondary sector.